Gwyliwch y fideo i ddysgu y reol cyn mynd ati i roi cynnig ar y weithgaredd treiglo am Gareth Bale.
Gwrandewch ar eiriau Michael Sheen ac yna ewch ati i ysgrifennu araith byr i ysbrydoli chwaraewyr Cymru i ennill Cwpan y Byd 2022!
Dyma enghraifft o sut mae un ysgol wedi mynd ati i greu cytgan newydd ond beth am greu pennill/penillion newydd i'r gân? Enghraifft Ysgol Morswyn
Beth am fynd ati i greu llinell amser o hanes tîm pêl-droed Cymru o'r flwyddyn y sefydlwyd y Gymdeithas Bêl-droed yn 1876 i Cymru yn chwarae yng Nghwpan y Byd 2022.
Dyma fideo sy'n cyflwyno sut i greu algorithm er mwyn chwarae cytgan 'Yma o Hyd' gan ddefnyddio offer ar-lein Make Code. Mae modd trosglwyddo'r gân o'r offer Make Code i'r Micro:bit os ydych yn dymuno ( ond does dim rhaid). Wedi cwblhau y dasg gallwch roi cynnig ar ddilyn yr un broses i greu algorithm i chwarae 'Zombie Nation' ac hefyd 'Hen Wlad fy Nhadau'.
Poster nodau 'Zombie Nation'
Poster nodau Hen Wlad fy Nhadau
Ymchwiliwch ar y we i ddarganfod beth yw pellter prifddinas bob gwlad sy'n cystadlu yng Nghwpan y Byd 2022 i Doha prifddinas Qatar (fel hed y frân). Cofnodwch y pellteroedd yn y daenlen Excel. Wedi casglu'r data gallwch greu graff i ddangos y pellteroedd.
Fersiwn Saesneg o'r daenlen
Cliciwch yma i ymuno yn y sesiwn Gymraeg ( 11:15 11/11/22)
Cliciwch yma i ymuno yn y sesiwn Saesneg (1.30 11/11/22)
Argraffwch y cardiau allan a thorrwch y chwaraewyr unigol allan a gosod rhai ohonynt ar y llawr ar onglau 90 gradd neu 45 gradd o'i gilydd ( gallwch amrywio leoliad y cardiau yn dibynnu ar profiad y dysgwyr o greu algorithmau i'r Sphero Bolt). Yna rhowch lun y gôl yn y canol. Rhowch sialens i'r dysgwyr i greu algorithm fel bod y Sphero Bolt yn symud fel pêl-droed yn cael ei basio o un chwaraewr i'r llall ac yna i rhwyd y gôl.