Dyma fideo sy'n cyflwyno sut i greu algorithm er mwyn chwarae cytgan 'Yma o Hyd' gan ddefnyddio offer ar-lein Make Code. Mae modd trosglwyddo'r gân o'r offer Make Code i'r Micro:bit os ydych yn dymuno ( ond does dim rhaid). Wedi cwblhau y dasg gallwch roi cynnig ar ddilyn yr un broses i greu algorithm i chwarae 'Zombie Nation' ac hefyd 'Hen Wlad fy Nhadau'.
Poster nodau 'Zombie Nation'
Poster nodau Hen Wlad fy Nhadau
Gweithgaredd trefnu a chwilio am ddata penodol yn y gronfa ddata
Fersiwn Publisher
Fersiwn PDF
Fersiwn Saesneg o'r daenlen
Taflen cwestiynau am y daenlen Fersiwn PUBLISHER Fersiwn PDF
Ymchwiliwch ar y we i ddarganfod beth yw pellter prifddinas bob gwlad sy'n cystadlu yng Nghwpan y Byd 2022 i Doha prifddinas Qatar (fel hed y frân). Cofnodwch y pellteroedd yn y daenlen Excel. Wedi casglu'r data gallwch greu graff i ddangos y pellteroedd.
Fersiwn Saesneg o'r daenlen
Argraffwch y cardiau allan a thorrwch gardiau y chwaraewyr unigol allan a gosod rhai ohonynt ar y llawr ar onglau 90 gradd neu 45 gradd o'i gilydd ( gallwch amrywio leoliad y cardiau yn dibynnu ar profiad y dysgwyr o greu algorithmau i'r Sphero Bolt). Yna rhowch lun y gôl yn y canol. Rhowch sialens i'r dysgwyr i greu algorithm fel bod y Sphero Bolt yn symud fel pêl-droed yn cael ei basio o un chwaraewr i'r llall ac yna i rhwyd y gôl.