Prosiect a esblygodd a ddatblygodd ar ôl i’r gwaith gychwyn. Prosiect ar gyfer holl ysgolion cynradd y Sir. Dechreuodd y cyfan fel gweithdy ar lein gyda’r Prifardd Ceri Wyn Jones a’r bwriad oedd creu cerdd wrth i’r bêl gael ei phasio o un ysgol i’r llall. Daeth cwpled yr un a mwy yn ôl wrth bob ysgol ar gyfer Ceri i rhoi trefn ar y gerdd. Ond yn fuan iawn daeth yn amlwg nid cerdd fydde hon ond rap o anogaeth a chefnogaeth i Gymru . Mae Cymru am Byth yn cynnwys holl ysgolion y Sir yn rapio cwpled yr un, i gerddoriaeth a grëwyd gan fand techno / electrig o Geredigion Roughion – diolch i Gwion ap Iago a ffilmiwyd a golygwyd y cyfan gan gyn ddisgybl arall o Geredigion Josh o Jedz Media.
Dolen i wylio'r fideo