Diogelu
Pwy yw Swyddog Dynodedig Amddiffyn Plant yr ysgol?
Y Pennaeth yw Swyddog Dynodedig Amddiffyn yr ysgol a'r Prifathrawon Cynorthwyol yw'r Dirprwy Swyddogion Dynodedig Amddiffyn Plant.
Beth mae'r ysgol yn ei wneud i arfogi disgyblion â'r medrau sydd eu hangen arnynt i gadw'n ddiogel?
Mae'r ysgol yn darparu cwricwlwm eang a chytbwys sy'n cynnwys gweithgareddau a chyfleoedd i hyrwyddo dealltwriaeth o berthynas iach ac addysg rywioldeb er mwyn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar y disgyblion i gadw'n ddiogel rhag camdriniaeth ac i wybod at bwy i droi am help.
A yw'r ysgol yn gweithio gydag asiantaethau eraill?
Mae'r ysgol yn gweithio'n agos gydag ystod eang o asiantaethau (fel TAF, Area 43, Nyrsys Ysgol, Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Heddlu) er mwyn darparu dull cytbwys a chefnogol o ddiogelu.
Beth sy'n digwydd gyda phryderon lefel isel?
Cyfrifoldeb pawb yw diogelu. Mae pob aelod o staff yn effro i arwyddion o gam-drin a diffyg gofal. Cofnodir unrhyw bryderon lefel isel ar y system diogelu yr ysgol a hysbysir rhieni.
Beth sy'n digwydd os bydd plentyn yn gwneud datgeliad?
Mae'r ysgol yn dilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru sydd wedi'u cymeradwyo gan y Bwrdd Diogelu Plant Lleol.
Rhieni / gofalwyr yw ein pwynt cyswllt cyntaf fel arfer, oni bai bod yr honiad yn erbyn rhiant / gofalwr a bod yr ysgol wedi cael cyngor i beidio â datgelu gwybodaeth gan asiantaeth allanol (fel y Gwasanaethau Cymdeithasol). Mewn rhai amgylchiadau bydd yr ysgol yn derbyn cyngor i atal plentyn rhag fynd adref gydag unigolyn, neu i ofyn i oedolyn gwahanol gasglu'r plentyn o'r ysgol, hyd nes y bydd asiantaeth allanol yn cynnal ymchwiliad pellach.