Nid oes darpariaeth feithrin yn yr ysgol, ond mae gan bob ysgol gysylltiadau ardderchog â meithrinfeydd lleol y Cylch Meithrin.
Cysylltiadau:
Cylch Meithrin Carwe a Gwynfryn = meithrincarwe@gmail.com
Cylch Meithrin Ponthenri = meithrinponthenri@icloud.com
Bydd eich plentyn yn dechrau yn yr ysgol ar ddechrau'r tymor wedi iddynt droi yn 4 oed.
Mae gan yr ysgol glwb brecwast dyddiol. Mae'n dechrau am 8yb ac yn gorffen am 8:30yb.
Mae’r ysgol yn dechrau am 8:50yb. Gall disgyblion gyrraedd safle'r ysgol o 8:30yb ymlaen (oni bai eu bod yn mynychu clwb brecwast).
Mae'r ysgol yn gorffen am 15:10 i CC1 ac am 15:15 i CC2 a CC3
Mae gan yr ysgol wisg ysgol swyddogol. Mae dolen i'r cyflenwr i'w gweld yn adran 'Dechrau Ysgol' y safle hwn. Gall ddisgyblion wisgo eu cit Addysg Gorfforol i'r ysgol ar ddiwrnod y wers. Bydd eich athro / athrawes yn rhoi gwybod i chi pryd mae gwersi Addysg Gorfforol.
Mae prydau ysgol ar gael. Mae angen i chi archebu drwy system Parent Pay y Sir. Byddwch yn derbyn gwybodaeth am sut i greu cyfrif Parent Pay o fewn pythefnos cyntaf dechrau yn yr ysgol. Bydd eich plentyn yn dal i dderbyn cinio yn ystod y cyfnod hwn.
Does dim rhaid i'ch plentyn gael cinio am yr wythnos gyfan na brechdanau am yr wythnos gyfan - gallwch ddewis pa ddyddiau. Fel ysgol iach rydym yn annog bocs bwyd iach.
Gall disgyblion ddod â photel ddŵr i'r ysgol. Fel Ysgol Iach, gofynnwn yn garedig i’r disgyblion ddod â dŵr yn unig yn eu poteli.
Yn arferol, bydd pob plentyn yn cael cyfle i fynychu'r ysgol ar gyfer rhai sesiynau blasu cyn iddynt ddechrau. Bydd cyfle hefyd i rieni gwrdd â'r athro dosbarth a thrafod unrhyw gwestiynau neu bryderon. Os oes gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol, byddwn yn trefnu cyfarfod i drafod anghenion eich plentyn ac unrhyw ddarpariaeth sydd ei hangen.
Gall mynychu'r ysgol am ddiwrnod llawn am y tro cyntaf fod yn gam mawr i'r plant. Fodd bynnag, mae plant yn dod yn gyfarwydd â strwythur diwrnod ysgol yn gyflym. Mae'r diwrnod ysgol yn darparu digon o weithgareddau amrywiol, gan gynnwys amser yn dysgu yn yr awyr agored.
Bydd angen potel ddŵr a bag ar eich plentyn i gario dillad sbâr. Bydd gan eich plentyn lefrith i'w yfed yn ystod y dydd.
Gofynnwn i chi ysgrifennu enw eich plentyn ar bopeth sy'n dod i'r ysgol.
Yr ydych wedi cymryd y cam pwysig cyntaf o anfon eich plentyn i addysg Cyfrwng Cymraeg, a byddwn yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd. Nid yw'n broblem os nad ydych yn siarad Cymraeg gartref - mae canran uchel o'r plant yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Rydym yn 'trochi' y plant yn y Gymraeg ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn clywed ac yn gweld yr iaith ar bob cyfle.
Gartref, gallwch ddarparu cyfleoedd i glywed yr iaith drwy wrando ar ganeuon a rhaglenni teledu Cymraeg (gweler y dolenni yn adran 'Cymorth i Rieni a Disgyblion' y safle hwn).
Bydd gwaith cartref ac yn enwedig cyfarwyddiadau yn cael eu rhoi'n ddwyieithog pan fo'n bosibl a plîs gofynnwch os ydych yn ansicr o ystyr unrhyw beth.
Rhaid llenwi ffurflen ganiatâd er mwyn i'r ysgol storio a rhoi meddyginiaeth. Ar gyfer unrhyw feddyginiaeth hir dymor (ee pympiau asthma) gofynnwn am bwmp sbâr / meddyginiaeth i’w chadw yn yr ysgol bob amser. Peidiwch ag anfon meddyginiaeth ym mag eich plentyn.
Rydym yn defnyddio’r ‘ParentPay’ fel offeryn cyfathrebu i rieni / gofalwyr, ac yn danfon negeseuon testun. Mae'r ysgol hefyd yn defnyddio Instagram i ddathlu dysgu a chyflawniadau ein disgyblion (ewch i adran newyddion y wefan er mwyn gweld y ddolen).