Trafnidiaeth
Cyngor Sir Caerfyrddin sy’n gyfrifol am drefnu cludiant o’r cartref i’r ysgol ar gyfer disgyblion sy’n gymwys, a gwneir y ddarpariaeth hon yn unol â pholisi’r Cyngor sydd wedi hen ennill ei blwyf yn yr ardal hon. Gellir cael copïau o’r polisi hwn o’r ysgol. Os yw rhieni yn ansicr a fydd eu plentyn yn gymwys ar gyfer cludiant ysgol am ddim ai peidio, gellir ceisio cadarnhâd ysgrifenedig gan:
Adran Trafnidiaeth a Pheirianneg, Adran Gwasanaethau Technegol
Cyngor Sir Caerfyrddin
Heol Llansteffan
Tre-Ioan
Caerfyrddin
SA31 3LZ
Cliciwch ar y ddolen isod am y tudalennau Trafnidiaeth Ysgolion ar wefannau Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Benfro: