Ffreutur
Chartwells (is-gwmni o grŵp Compass UK) sy’n rhedeg ffreutur yr ysgol. Amser cinio bydd pob disgybl yn bwyta yn ein ffreutur lle gallant brynu pryd o fwyd twym neu oer. Bydd y gost, gan gynnwys pwdin, tua £2.50. Gall disgyblion hefyd ddod â brechdanau o gartref.
Mae’r ffreutur hefyd ar agor yn ystod yr egwyl cyntaf pan fydd tost ac eitemau eraill ar werth. Mae peiriannau gwerthu hefyd ar gael at ddefnydd y disgyblion ar adegau priodol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r bwydlenni, cliciwch ar y ddolen isod:
Bwydlen Ysgolion Uwchradd Chartwells
Mae'r Ffreutur yn gweithredu ar system heb arian drwy ParentPay.
Cliciwch yma i gael mynediad ParentPay.