Mae Dyffryn Taf yn cydweithio’n agos â’r nifer fawr o Ysgolion Cynradd sy’n ei bwydo er mwyn gwneud y broses o drosglwyddo o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7 mor hawdd ag sy’n bosibl. Bydd rhieni yn derbyn yr holl waith papur perthnasol trwy law’r Ysgol Gynradd ymhell ymlaen llaw.