Gwybodaeth

Mae gan yr ysgol enw da am ragori yn academaidd, gyda staff Dyffryn Taf yn barod i gefnogi’r myfyrwyr i gyrraedd eu gwir botensial. Mae nifer o’n disgyblion yn cael eu derbyn yn flynyddol i Brifysgolion Grŵp Russell, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt.


Rydym eisiau i bob un o’r Chweched Dosbarth adael yr ysgol gyda’r cymhwysterau gorau posib, ac yn barod i symud ymlaen i’r dyfodol. Yn y Chweched Dosbarth, mae cyfleoedd i ledaenu y cwricwlwm (gweithgareddau allgyrsiol mewn chwaraeon, cerddoriaeth, drama, DoE ayb) a choethi eu diddordebau (gweithgareddau uwch gwricwlaidd megis EESW a Seren Hub). Rydym yn disgwyl i bawb wneud eu gorau glas i ehangu eu profiadau a chyfrannu yn eu cymuned leol.


Sixth Form Uniform 2019 Guidance.pptx