9.00am Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
10.00am Croeso’r Cadeirydd
Sophie Taylor, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a Chaffael, Cartrefi Dinas Casnewydd
@SophieTNCH
Ystafell Calon 1
10.15am Prif Anerchiad: Y rhagolygon economaidd: beth maent yn ei olygu i Gymru, y sector tai cymdeithasol a’n huchelgeisiau sero-net
Sarah Dickins, cyn ohebydd econnomeg BBC Wales ac ymgynghorydd cynaliadwyedd
@Sarah_Dickins
Ystafell Calon 1
11.00am Trafodaeth Panel: Gweithio mewn partneriaeth gyda thenantiaid a chymunedau
Ystafell Calon 1
11.50am Egwyl coffi
12.15pm Sesiynau Is-lawn
Llinyn 1: Cartrefi Presennol
Datgarboneiddio, safonau ac ymgysylltu â thenantiaid
Taith cymdeithasau tai at ddatgarboneiddio – Goblygiadau ar gyfer cartrefi ac ar gyfer pobl
Ystafell Calon 1
Bydd y panel yn trafod y cynnydd a wnaethom ar ddatgarboneiddio, map y daith i sero net ac ystyriaethau ar gyfer timau rheoli asedau, rheoli tai, datblygu a chyllid.
Mewn sgwrs gyda:
Chris Jofeh, Grŵp Gweithredu Annibynnol ar Ddatgarboneiddio Cartrefi Presennol (Cadeirydd)
Mark Doubler, Bron Afon Community Housing
Andrew Partington, NetRet
Strand 2: New Homes
Cynllunio, rheoli’r amgylchedd ac ymgysylltu â’r gymuned
Cyflawni ein nodau cyffredin – Adeiladu cartrefi fforddiadwy a diogelu’r amgylchedd
Ystafell Caerphilly
Bydd y panel hwn yn canolbwyntio ar y ffordd y gall y sector a rhanddeiliaid allweddol gydweithio i symleiddio proses caniatâd amgylcheddol a chymeradwyaeth cynllunio.
Mewn sgwrs gyda:
Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu, ClwydAlyn
Roisin Willmott, Cyfarwyddwr, RTPI
Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Gorfforaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru
Strand 3: Cyllid
Gwyntoedd blaen ac ôl-wyntoedd ariannol
Ystafell Brecon
Bydd y panel hwn yn ystyried y gwyntoedd blaen ac ôl-wyntoedd ariannol y mae Cymru a’r sector yn eu profi yn 2023.
Mewn sgwrs gyda:
Paul Stevens, Centrus (Cadeirydd)
Arun Poobalasingam, The Housing Finance Corporation
Rachel Orgill-Harris, Devonshires
1.15pm Cinio
2.15pm Gweithdai
Llinyn 1: Cartrefi Presennol
1. Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru): Faint o effaith mae’r safonau newydd yn ei gael?
Ystafell Calon 1
Gyda ffocws neilltuol ar ffitrwydd ar gyfer safonau addas ar gyfer cartrefi addas i bobl byw ynddynt, ansawdd a chynnal a chadw, bydd y gweithdy hwn yn galluogi’r sawl sy’n mynychu i drafod a dysgu gan ei gilydd o safbwynt cyfreithiol ac ymarferol ers gweithredu’r Ddeddf.
Bethan Gladwyn, Hugh James
2. Hyrwyddo datrysiadau Ffabrig yn Gyntaf i drin lleithder a llwydni
Ystafell Caernarfon
Bydd y gweithdy hwn yn archwilio dull system gyfan o ymdrin â phroblemau lleithder a llwydni ac allyriadau carbon sy’n anghynaliadwy o uchel trwy ddefnyddio rendr calch. Bydd hyn yn gyfle i ddysgu am y broses a’r canfyddiadau cynnar o brosiectau gan gynnwys prosiect Ethel Street Taff, gyda phrofiad y tenant yn ganolog iddo.
Harry Cursham, Vivus Solutions
Helen White, Prif Weithredwr, Tai Taff
Llinyn 2: Cartrefi Newydd
Cartrefi modiwlar: cyfleoedd ar gyfer mynd i’r afael â digartrefedd
Ystafell Pembroke
Yn y Gweithdy hwn bydd Linc Cymru a ZedPods yn sôn am sut y gwnaethant gydweithio i greu cartrefi modiwlar yng Nghasnewydd a sut y gwnaeth y prosiect hwn helpu digartrefedd. Byddant yn trafod manteision y dull modiwlar, y manylion sero net ar gyfer y cartrefi a’r ffordd y gwnaethant brofiad y tenantiaid o fyw yn y cartrefi yn ganolog o’r dechrau.
Sian Diaz a Louise Attwood, Linc Cymru
Debansu Das, ZedPods
Llinyn 3: Cyllid
1. Sicrhau cydbwysedd rhwng darbodusrwydd ariannol ac awydd am risg mewn amgylchedd cost uchel
Ystafell Brecon
Bydd y gweithdy hwn yn ystyried y ffordd y gall cymdeithasau tai gael cydbwysedd o ran buddsoddiad ar draws rhannau gwahanol o’r busnes mewn amgylchedd cost uchel, pryd i fod yn ofalus a phryd i gymryd risg.
Imran Mubeen, Cyfarwyddwr y Trysorlys a Chyllid Corfforaethol, Bromford
2. Cymhorthfa rheoliadau
Ystafell Caerphilly
Oes gennych chi gwestiwn am y fframwaith rheoleiddiol? Eich FRAR a’ch RAR wedi cymysgu i gyd? Galwch draw am Seiat Holi agored gyda’r Pennaeth Rheoleiddio, Ian Walters.
3.15pm Egwyl Coffi
3.45pm Prif Araith: Cydnerthedd ar gyfer pobl a thimau mewn cyfnodau anodd
Tori James, BA (Hons) FRGS
@torijtweets
Ystafell Calon 1
Ar draws y sector, mae timau wedi gweithio trwy nifer o flynyddoedd anodd. Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar ddathlu timau cymdeithasau tai a’u cydnerthedd, ac yn ystyried sut i gynnal y cydnerthedd hwnnw a llesiant pan fydd pethau’n teimlo’n ddi-ddiwedd.
Yn 25 oed, daeth Tori James BA (Anrh) FRG y fenyw gyntaf o Gymru i ddringo Mount Everest. Mae Tori yn serennu yn rhaglen ddogfen ‘On Top of the World’ y BBC a gynhyrchwyd am ei thaith ac mae hefyd yn awdur ‘Peak Performance’ sy’n disgrifio dringo i’r copa.
4.30pm Sylwadau Cloi o Ddiwrnod 1 - Sophie Taylor, Cadeirydd
6.30pm Derbyniad diodydd
Ystafell Caernarfon
7.00pm Swper y Gynhadledd (fwffe barbeciw haf) a Rhwydweithio
Ystafell Caernarfon
9.00am Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
9.30am Croeso a Gosod y Sefyllfa ar gyfer Diwrnod 2 - Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu, ClwydAlyn
Ystafell Calon 1
9.40am Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Ystafell Calon 1
10.05am Prif Araith Agoriadol - Vienna: Dinasoedd, trefi a chymunedau fel lleoedd agored, gwyrdd, fforddiadwy, cyfeillgar i’r teulu ac amrywiol i fyw
Maria Vassilakou, Vienna Solutions a chyn ddirprwy faer Vienna.
Ystafell Calon 1
11.05am Trafodaeth Panel: Beth nesaf i adsefydlu ffoaduriaid yng nghanol argyfwng tai?
Ystafell Calon 1
Yn 2019 gosododd Llywodraeth Cymru'r nod iddi ei hun o ddod yn genedl noddfa gyntaf y byd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Ers hynny, mae’r sefyllfa mewn gwledydd fel Afghanistan a Wcráin wedi cynyddu pwysigrwydd rhan Cymru wrth gynnig noddfa i’r rhai sy’n ffoi rhag dirywiad mewn hawliau dynol a chynnydd mewn rhyfeloedd.
Gyda’r nifer o ffoaduriaid sy’n setlo yng Nghymru i fod i gynyddu erbyn diwedd eleni, sut mae’r sector yn paratoi i gefnogi rhoi llety ac integreiddio pobl ynghanol yr argyfwng tai?
Mewn sgwrs gyda:11.45am Egwyl Coffi
12.00pm Siop Siarad
Gofod i fynychwyr rannu profiadau a syniadau.Llinyn 1: Cartrefi Presennol
1. Cael mynediad i’r sylfeini: Gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â thlodi bwyd a thanwydd
Ystafell Brecon
Cyflwynir gan Susan Lloyd-Selby, Arweinydd Rhwydwaith Cymru, Trussell Trust
2. Dulliau gweithredu blaengar ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid
Ystafell Calon 1
Cyflwynir gan Emma Fish, Bron Afon Community Housing
Bydd y sesiwn yn edrych sut y gellir casglu adborth cwsmeriaid yn effeithiol ac ar y pryd i helpu adnabod tueddiadau sy’n dod i’r amlwg a chaniatau datblygu gwasanaethau. Byddwn hefyd yn ymchwilio sut y gall cydweithio a rhannu gwybodaeth helpu i drin rhai o’r materion mawr sy’n wynebu cwsmeriaid a sefydliadau.
Llinyn 2: Cartrefi Newydd
1. Rhagor o gartrefi: Beth yw’r dewisiadau?
Ystafell Pembroke
Bydd y sesiwn hon yn archwilio dewisiadau cyllid a chyflawni i sicrhau bod mwy o dai cymdeithasol ar gael yng Nghymru. Bydd yn rhannu’r gwersi a ddysgwyd o’r Rhaglen Cyfalaf Llety Trosglwyddo a bydd yn cynnig lle i drafod y cyfleoedd i wneud y mwyaf o’r cartrefi sy’n bodoli yn ogystal ag adeiladu tai cymdeithasol newydd.
Gyda Stuart Fitzgerald a Jo Valentine, Llywodraeth Cymru
2. Beth yw’r allwedd i weithio effeithiol rhwng cymdeithasau tai a thimau cynllunio awdurdodau lleol? Beth sydd ar gynllunwyr fwyaf o’i angen gennym ni?
Ystafell Caerphilly Suite
Cyflwynir gan Craig O'Connor, Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru (POSW)
Llinyn 3: Cyllid
Cyflwyno adroddiadau Amgylcheddol Cymdeithasol a Llywodraethu a gweld y gwerth mewn Cyllid a thu hwnt. Cyflwyniad ar roi adroddiadau Amgylcheddol Cymdeithasol a Llywodraethau a’r manteision y mae’r rhai sy’n eu mabwysiadu yn eu gweld o ran Cyllid ac yn ystafell y Bwrdd.
Cyflwynir gan Brendan Sarsfield, Sustainability for Housing, a Natalie Swales, Devonshires
1.00pm Cinio
2.00pm Gweithdai
Llinyn 1: Cartrefi Presennol
1. Y Daith at Sero Net a Gwasanaethau Rheoli Foids
Ystafell Calon 1
Y Daith at Sero Net (Rhan 1)
Rydym yn gwybod beth yw hyn, ac rydym yn gwybod beth mae’n ei olygu ond sut ydych chi’n cychwyn ar y daith hon? Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn rhoi syniadau a phrosesau y gallwch eu gweithredu yn eich Cymdeithas Dai chi i helpu i wneud penderfyniadau strategol ar fuddsoddiadau i leihau’r defnydd o ynni a charbon.
Gwasanaethau Rheoli Foids (Rhan 2)
Mae rheoli meddiannaeth mewn tai aml-feddiannaeth neu nifer o dai gyda nifer o gyflenwyr, yn dasg sy’n cymryd amser ac yn creu straen! Bydd ail ran y sesiwn yn cael ei rhoi i rannu arfer gorau ac atebion wrth reoli newidiadau mewn tenantiaethau ac eiddo gwag neu wedi eu gadael.
Emily Berry a Kaylea McKenna, Utility Aid
2. Ariannu datgarboneiddio. Pa ddewisiadau ddylid eu harchwilio?
Ystafell Brecon
Antoine Pellet, HACT
Simon Turek, Arctica Partners
Llinyn 2: Cartrefi Newidd
1. Cydymffurfio â’r Cod Ansawdd Cartrefi Newydd: Beth sydd ar ddatblygwr angen ei wneud nawr, a sut mae datrys anghydfod yn edrych?
Ystafell Caerphilly
Clare Folland-Nickels a Rhian Price, Hugh James
2. Gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y Grant Tai Cymdeithasol
Ystafell Pembroke
Helga Warren, Sian Coggins a Carrie Satherley
Llinyn 3: Cyllid
Cyflawni mwy gyda llai o yrru, gwelliant parhaus mewn amgylchedd ariannol heriol
Ystafell Kidwelly
Sophie Taylor, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a Chaffael, Cartrefi Dinas Casnewydd
3.00pm Cau’r Gynhadledd - Coffi a Rhwydweithio