Cod ymddygiad
Gofynnwn yn garedig i bawb sy’n mynychu’r digwyddiad i gydymffurfio gyda’n Cod Ymddygiad
Diben
Diben y cod yw sicrhau y caiff profiad y sawl sy’n mynychu digwyddiadau Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) ei lywodraethu gan egwyddorion ymddygiad cyfrifol a threfnus.
Cwmpas
Mae’r cod hwn yn weithredol i gynrychiolwyr, staff CHC a llawer o bobl eraill sy’n mynychu cynadleddau, seminarau neu gyfarfodydd a drefnir gan CHC.
Cod
Mae tair prif egwyddor:
Dylai’r sawl sy’n mynychu CHC ymddwyn mewn modd cyfrifol na fydd yn dod ag anfri i’w enw da nhw eu hunain, eu sefydliad, y sector cymdeithasau tai a/neu CHC
Bydd y sawl sy’n mynychu digwyddiadau CHC yn dangos parch at gynrychiolwyr eraill, arddangoswyr, siaradwyr, arweinwyr gweithdai, staff CHC a staff y lleoliad a phobl eraill o fewn libart digwyddiad
Bydd angen i’r sawl sy’n mynychu digwyddiadau gydymffurfio gydag unrhyw geisiadau rhesymol a wneir gan CHC neu staff y gwesty sydd yng ngofal ac yn rhedeg y digwyddiad
Enghreifftiau
Gallai toriadau’r cod gynnwys:
Ymyrryd diangen ar sesiynau, gweithdai, cinio a gweithgareddau eraill y digwyddiad
Aflonyddu rhywiol, hiliol neu fath arall o aflonyddu
Ymddygiad bygythiol neu dreisgar
Iaith sarhaus
Camddefnyddio alcohol neu gyffuriau
Ymddygiad anweddus
Gweithred droseddol
Gweithredu’r Cod
Bydd staff CHC yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r cod a gall ofyn am help personél o’r un gymdeithas tai neu gymorth gan awdurdod priodol os teimlant fod y cod yn cael ei dorri. Byddwn yn dilyn unrhyw doriadau ar y cod gyda gweithredu priodol, a all gynnwys tynnu’r cynrychiolydd o’r digwyddiad a/neu hysbysu sefydliad y cynrychiolydd am y digwyddiad gyda’r camau gweithredu a gymerwyd a manylion unrhyw dystion.