Hanes
Hanes
Croeso i'r adran wybodaeth am Hanes UG a SU yn Ysgol Glan Clwyd. Mae'r cwrs yn cynnig amrywiaeth o bynciau diddorol a byddwch yn datblygu sgiliau trafod, dadansoddi ac ysgrifennu estynedig o fewn y gwersi. Dyma drosolwg o Hanes fel pwnc yn y chweched dosbarth...
Blwyddyn 12 -
Uned 1 - Hanes Ewrop o 1890-1991 - Yn cynnwys cyd-berthynas gwledydd y byd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf / Ail Ryfel Byd / Y Rhyfel Oer. Hanes y Chwyldro yn Rwsia. Yr Almaen yn y 1930au.
Uned 2 - ARGYFWNG CANOL OES Y TUDURIAID YNG NGHYMRU A LLOEGR, tua 1529-1570 ee Newidiadau crefyddol Harri Viii. Effaith newidiadau Harri Viii a Thomas Cromwell ar Gymru.
Blwyddyn 13 -
Uned 3 - Hanes America - CANRIF YR AMERICANWYR, tua 1890-1990
Uned 4 - OES Y TUDURIAID - SIALENSIAU YN WYNEBU MARI AC ELISABETH tua 1553- 1570
Uned 5 - Gweithio fel Hanesydd - Asesiad di-arholiad - Dehongliadau o Achosion yr Ail Ryfel Byd.
“Roedd dechreuad y rhyfel yn Ewrop yn 1939 yn deillio'n bennaf o bolisïau ymosodol Hitler.” Pa mor ddilys yw’r asesiad hwn o ddechreuad y Rhyfel yn Ewrop yn 1939?
Mae'r erthygl hon yn edrych ar rhai o'r swyddi a fedr fod yn addas ar eich cyfer os oes gennych ddiddordeb mewn a gwybodaeth o hanes.
Dydy llawer o gynnwys cyrsiau hanes a ddilynir mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion, er enghraifft, Lloegr yn oes Elisabeth, y Chwyldro Ffrengig neu'r Rhyfel Byd Cyntaf, ond yn uniongyrchol berthnasol i nifer fechan iawn o swyddi.
Wedi dweud hynny, mae'r medrau y gallwch eu datblygu drwy astudio hanes yn berthnasol i sawl gyrfa, yn enwedig y rheini sy'n gofyn ichi ddeall gwybodaeth a lleisio barn yn ei gylch.
Er enghraifft, trwy ddysgu sut i ddefnyddio dogfennau hanesyddol, gallwch ddatblygu'r gallu i edrych ar sut mae ysgrifenwyr yn cyfleu fersiynau gwahanol o'r un digwyddiad, ac i ffurfio barn am beth ddigwyddodd mewn gwirionedd.
Mae dehongli a gwerthuso ffynonellau fel hyn, a dod i gasgliad, yn fedrau y gellir eu defnyddio mewn sawl swydd - gan newyddiadurwr, er enghraifft, neu gan swyddog y llywodraeth sy'n gorfod cyflwyno adroddiad wedi ei seilio ar dystiolaeth anghyson.
Mae astudio hanes hefyd yn golygu datblygu medrau ymchwilio ac ymchwiliol fel defnyddio llyfrgelloedd, cronfeydd data a'r rhyngrwyd i ganfod y wybodaeth sydd ei angen arnoch.
Mae hyn yn hyfforddiant defnyddiol ar gyfer astudiaethau ysgolheigaidd pellach mewn unrhyw faes bron. Mae prifysgolion yn croesawu TGAU neu Lefel A mewn hanes fel cymhwyster i gael mynediad at ystod eang o gyrsiau.
Gall astudio hanes hefyd eich cynorthwyo i gyflwyno dadleuon clir, wedi eu seilio ar eich dehongliad o'r dystiolaeth, yn llafar ac ar ddu a gwyn. Mae hwn yn sgil gwerthfawr mewn nifer o feysydd gwaith.
Cynorthwya hanes ni i ddeall y presennol a gweithio i wella'r dyfodol. Mae'n anodd iawn deall materion cyfoes heb wybod am y digwyddiadau hanesyddol sy'n sail iddyn nhw. Mae gwybodaeth o hanes yn ein helpu i ddeall ein rôl a'n cyfrifoldebau fel dinasyddion, er enghraifft, wrth bleidleisio mewn etholiadau.
Mae’r adran hon yn trafod yr ychydig o yrfaoedd sy'n uniongyrchol gysylltiedig ag astudio hanes.
Yn aml, byddwch angen gradd mewn hanes ac weithiau gymhwyster a ôl-radd ar gyfer y gyrfaoedd hyn. Mae'r gystadleuaeth yn hynod o gref, felly dim ond ychydig iawn o raddedigion mewn hanes sy'n gallu cael y math yma o waith.
Ond, dylech gofio y gallai astudio hanes eich helpu i ddatblygu set gyffredinol o sgiliau sy'n cael eu dal yn uchel iawn gan gyflogwyr.
Oherwydd hynny, gall graddedigion hanes cael waith mewn llawer iawn o feysydd heb fod yn uniongyrchol gysylltiedig â hanes, megis newyddiaduraeth, ymchwil gwleidyddol, y Gwasanaeth Sifil, gwaith mewn llyfrgell, llywodraeth leol,rheolaeth gyffredinol ayb.
Mae Haneswyr Proffesiynol yn astudio ac yn ceisio egluro hanes - proses nad yw byth yn gyflawn. Mae hynny oherwydd bod yna wastad wahaniaeth barn ynghylch digwyddiadau hanesyddol ac oherwydd bod pob cenhedlaeth yn dehongli hanes yng ngoleuni ei phrofiadau hi ei hun. Mae Haneswyr yn ceisio canfod beth ddigwyddodd a sut yr oedd pobl yn ymddwyn ac yn teimlo yn y gorffennol. Maen nhw’n dod i’w casgliadau eu hunain o nifer o wahanol ffynonellau, tystiolaeth o ddogfennau'n aml. Ond mae’n rhaid iddyn nhw ddod i sylweddoli nad yw pob ffynhonnell yn ddibynadwy oherwydd gallan nhw fod yn rhagfarnllyd ac anghyflawn. Mae ymchwil, er enghraifft mewn llyfrgelloedd, archifau a thrwy ddefnyddio cronfa ddata a’r rhyngrwyd yn agwedd bwysig o waith Hanesydd, sy’n arwain fel arfer at ysgrifennu llyfrau, erthyglau a phapurau academaidd. Yn dibynnu ar faes eu hastudiaeth, gallai ymchwil olygu cynnal cyfweliadau hanes llafar neu ddadansoddi ffynonellau gweledol a materol megis posteri, crochenwaith, gemwaith ac arian. Fodd bynnag, ychydig iawn o Haneswyr proffesiynol sy’n gallu ennill bywoliaeth drwy ymchwil ac ysgrifennu’n unig, mae llawer yn cyfuno eu hymchwil gydag darlithio ar eu cyfnod o arbenigedd mewn prifysgol.
Mae Athrawon Hanes yn ysbrydoli eu myfyrwyr gyda chariad tuag at y pwnc a dealltwriaeth o'i bwysigrwydd. Nid dim ond dysgu 'be' ddigwyddodd' wnânt. Yn hytrach, maen nhw'n cynorthwyo myfyrwyr i ofyn cwestiynau am y gorffennol, archwilio ffynonellau a ffurfio barn eu hunain. Bydd Athrawon Hanes yn cynllunio gwersi amrywiol a ddiddorol. Defnyddiant adnoddau fel ffilmiau, posteri, ffotograffau, gwefannau ac adroddiadau gan lygad dystion. Gall dysgu hefyd alw am ymweliadau i leoedd o ddiddordeb hanesyddol fel amgueddfeydd, cestyll a meysydd brwydr. Bydd gofyn i Athrawon Hanes drefnu gwersi, marcio, ysgrifennu adroddiadau a rhoi adborth. Cymhwysa'r rhan fwyaf o Athrawon Hanes ysgolion uwchradd drwy wneud gradd mewn hanes ac yna gwrs blwyddyn Tystysgrif Ôl-raddedig Mewn Addysg.
Archifyddion sy'n dewis, storio, gofalu am a sicrhau mynediad i gofnodion sy'n cynnwys dogfennau ysgrifenedig, mapiau, ffotograffau, cryno-ddisgiau a ffilmiau.
Nhw sy'n cadw cofnodion ar gyfer amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys archifau cenedlaethol y llywodraeth ganolog, amgueddfeydd, awdurdodau lleol, grwpiau crefyddol, busnesau, llysoedd a phrifysgolion. Gallant o bosib hefyd reoli archifau unigolion preifat, fel gwleidyddion wedi ymddeol.
Bydd archifyddion yn catalogio a mynegeio dogfennau, nodi'r rhai sydd angen eu hatgyweirio a ddewis y ffordd orau o'u cadw. Nhw hefyd sy'n penderfynu pa ddogfennau i'w cadw am eu gwerth hanesyddol a pha rai i gael gwared arnynt.
Mae medrau ymchwilio yn bwysig yn y gwaith yma oherwydd mae angen ar archifyddion i ganfod cefndir deunyddiau. Bydd rhai archifyddion â chyswllt gyda'r cyhoedd yn ateb ymholiadau, rhoi sgyrsiau a threfnu arddangosfeydd.
I gael mynediad i'r gwaith yma, bydd angen gradd mewn unrhyw bwnc arnoch, ac yna gymhwyster ôl-raddedig mewn archifau a rheoli cofnodion.
Mae yna nifer o yrfaoedd posib mewn amgueddfeydd. Efallai'r un â'r cysylltiad agosaf â hanes ydy swydd y curadur (caiff hefyd ei alw'n geidwad) sy'n gofalu am gasgliad yr amgueddfa - gan cael afael ar wrthrychau, yn ogystal â'u catalogio, storio a'u harddangos.
Gall guradiaid hefyd ymgymryd â thasgau eraill fel gweinyddu, codi arian, gwaith ymchwil, marchnata, trefnu cyhoeddusrwydd ar gyfer arddangosfeydd a rheoli cyllidebau.
Mae angen guradiaid cael gwybodaeth drylwyr o bwnc sy'n berthnasol i'w casgliad. Mae'r rhan fwyaf ddaw i'r gwaith yn raddedigion mewn pynciau fel hanes, y clasuron, hanes celf, archeoleg ac astudiaethau amgueddfeydd/orielau celf. Gall y gystadleuaeth am swyddi fod yn gryf iawn ac fe all fod o fantais i fod â chymhwyster ôl-raddedig mewn astudiaethau amgueddfeydd a/neu orielau celf. Ar gyfer rhai swyddi, mae cymhwyster ôl-raddedig yn hanfodol.
Mae swyddi eraill mewn amgueddfeydd yn cynnwys swyddog addysg (fel arfer bydd angen profiad dysgu), gwarchodwr (sy'n arbenigo mewn gwaith cadw ac adfer) a gweinydd.
Archeoleg yw'r astudiaeth wyddonol o'r gorffennol drwy weddillion fel esgyrn, crochenwaith, darnau arian ac adeiladau.
Bydd archeolegwyr yn cloddio, adnabod, cofnodi a chadw gweddillion. Mae nhw hefyd yn cyd-gysylltu'r gweddillion hyn â thystiolaeth amgylcheddol a hanesyddol i gyfleu darlun ehangach o fywyd yn y gorffennol.
Gall archeolegwyr arbenigo mewn un ardal ddaearyddol, cyfnod hanesyddol penodol neu fath o grair.
Bydd y sawl a ddaw i'r gwaith fel arfer â gradd. Ar wahân i archeoleg, mae'n bosib dod i'r swydd gyda gradd mewn pwnc perthnasol fel hanes, anthropoleg, daeareg, bioleg, cemeg, ffiseg neu wyddor amgylcheddol.
Mwyfwy, bydd pobl â chymwysterau ôl-raddedig mewn archeoleg.
Achyddion sy'n goruchwylio a chynghori ar olrhain hanes teuluol drwy gofnodion plwyf, cyfrifiadau a deunyddiau eraill o'r archifau. Nifer fach iawn o Achyddion proffesiynol sydd mewn bodolaeth, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio ar sail llawrydd.
Gallai cael TGAU, lefel AS , lefel A neu radd mewn hanes fod yn ddefnyddiol ar gyfer sawl gyrfa.
Gweithia newyddiadurwyr i bapurau newydd, cylchgronau, cyhoeddiadau ar-lein, cyfnodolion, radio a theledu. Maen nhw'n casglu gwybodaeth, ymchwilio i straeon, yn rhoi sylw i ddigwyddiadau, ac yn ysgrifennu erthyglau i'w cyhoeddi neu eu darlledu.
Gallant hefyd weithio fel, neu gyda, is-olygyddion, sy'n paratoi'r erthyglau i'r hyd iawn neu'r arddull sydd ei angen, dewis y straeon pwysicaf a'u gwirio am gywirdeb, cyfreithlondeb a defnydd cywir o iaith.
Defnyddia newyddiaduraeth sawl sgil y gallwch eu meithrin drwy astudio hanes, fel gwerthuso ffynonellau, medrau ymchwilio, barnu, ac ysgrifennu adroddiadau eglur am ddigwyddiadau.
Ymchwilwyr gwleidyddol sy'n gwneud gwaith ymchwil ar gyfer aelodau o'r Senedd yn San Steffan a'r cynulliadau cenedlaethol, pleidiau gwleidyddol, grwpiau pwyso a sefydliadau ymchwil.
Maen nhw'n cefnogi a chynghori gwleidyddion drwy gasglu a dadansoddi gwybodaeth, ysgrifennu papurau polisi, crynodebau (nodiadau ar bwyntiau allweddol pwnc neu bolisi), areithiau a datganiadau i'r wasg. Bydd ymchwilwyr gwleidyddol weithiau yn paratoi'r agendau ac yn cymryd y cofnodion mewn cyfarfodydd.
Mae'r rhan fwyaf o ymchwilwyr gwleidyddol yn raddedigion, oni bai fod ganddynt brofiad perthnasol sylweddol. Gall pynciau gradd perthnasol gynnwys gwleidyddiaeth, economeg, y gyfraith, hanes a newyddiaduraeth. Un o'r ffyrdd arferol i mewn i'r yrfa ydy drwy gwblhau yn gyntaf hyfforddiant yn y swydd, er mwyn ennill profiad.
Bob blwyddyn, mae nifer o raddedigion yn cael eu derbyn ar raglen ddatblygu Llwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil. Maen nhw'n cael eu dewis oherwydd eu gallu i ennill dyrchafiad cyflym yn eu gyrfa ac i gyrraedd haenau uchaf y Gwasanaeth Sifil.
Maen nhw’n helpu i gynllunio ac i weithredu polisi’r llywodraeth ac i gefnogi gwaith gweinidogion. Fe allan nhw fod â rhan mewn amrywiaeth eang o waith, gan gynnwys amddiffyn, addysg, datblygu tramor, diwydiant, cludiant, cyfiawnder a'r celfyddydau.
Yn gynnar yn eu gyrfa, gallai gweision sifil Llwybr Carlam ymchwilio a dadansoddi gwybodaeth, trafod data sy'n bodoli eisoes a pharatoi dogfennau i weinidogion allu ystyried gwahanol ddewisiadau polisi.
Yn ddiweddarach, fe allan nhw fod yn rheoli cyllidebau o sawl miliwn o bunnau, trafod ar ran y DU yn rhyngwladol neu fod yn gyfrifol am ddrafftio ‘papur gwyn’ y llywodraeth ar bwnc polisi penodol.
I ddod yn was sifil Llwybr Carlam, bydd gofyn i chi gael gradd anrhydedd ail ddosbarth o leiaf neu gyfwerth (mewn unrhyw bwnc ar gyfer y cynllun cyffredinol ac mewn pwnc perthnasol ar gyfer rhai o’r dewisiadau arbenigol). Ar gyfer rhai dewisiadau, bydd yn rhaid i chi gael o leiaf gradd 2:1.
Mae Swyddogion y Gwasanaeth Llysgenhadol yn amddiffyn ac yn hyrwyddo buddiannau Prydain dramor. Maen nhw’n cynghori ac yn cefnogi Gweinidogion wrth iddyn nhw ffurfio a gweithredu polisi tramor gwledydd Prydain. Maen nhw’n gweithio yn adrannau’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad yn Llundain ac yn ei llysgenadaethau, uchel gomisiynau, a’i his-genadaethau ledled y byd. Mae nifer o agweddau arbenigol i waith Swyddogion y Gwasanaeth Llysgenhadol. Mae Swyddogion Gwleidyddol yn monitro datblygiadau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol yn y gwledydd lle maent yn gweithio ac yn adrodd yn ôl i Lundain. Mae Swyddogion Masnach a Buddsoddi’n hyrwyddo busnes gwledydd Prydain dramor. Mae Swyddogion y Wasg a Materion Cyhoeddus yn cadw cysylltiad â’r cyfryngau lleol ac yn ymateb i ymholiadau o'r DU. Mae gwaith mewn is-lysgenadaethau'n cynnwys helpu a chynghori dinasyddion y DU dramor a gwaith mewnfudo megis prosesu ceisiadau am fisa. Mae Swyddogion y Gwasanaeth Llysgenhadol yn gweithio ar un o ddwy lefel. Mae’r rhai sy’n cael eu penodi i’r Llwybr Cyflym yn helpu, yn bennaf, i ffurfio polisi gwleidyddol, masnachol ac economaidd, er enghraifft, drwy friffio Gweinidogion ar faterion penodol. Mae Swyddogion Gweinyddol/Gweithredol yn trafod gwaith mwy ymarferol mewn meysydd megis masnach, llysgenhadaeth, mewnfudo neu reoli. Bydd gofyn i’r rhai sy’n mynd ar y Llwybr Carlam gael gradd mewn unrhyw bwnc. Bydd yn rhaid hefyd bodloni gofynion cenedligrwydd a phreswyliaeth.
Llyfrgellwyr sy'n dethol, prynu a threfnu ffynonellau gwybodaeth, sy'n cynnwys llyfrau, meddalwedd gyfrifiadurol, DVDau a chyfryngau eraill, a'u rhoi ar gael i ddefnyddwyr y llyfrgell.
Mae Gwyddonwyr Gwybodaeth yn delio â storio ac adalw gwybodaeth. Gweithiant mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys byd busnes a diwydiant, cwmnïau cyfreithiol, gwasanaethau iechyd, a llywodraeth leol a chenedlaethol. Maen nhw'n storio gwybodaeth, canfod gwybodaeth sydd ei angen gan eu cyflogwr neu gleient a dosbarthu gwybodaeth mewn modd sy'n hawdd i'w ddeall. Gall ffynonellau gwybodaeth gynnwys deunyddiau clyweledol, llyfrau, cronfeydd data, adroddiadau a chynnwys o'r we. Yn aml bydd Gwyddonwyr Gwybodaeth yn arbenigo mewn un maes penodol fel gwyddoniaeth, economeg neu'r gyfraith.
Golygyddion sy'n dethol, trefnu a pharatoi deunydd ar gyfer ei gyhoeddi.
Bydd golygyddion sy'n gweithio mewn cyhoeddi llyfrau yn darllen llawysgrifau ac yn dethol y rhai addas. Byddant wedyn yn comisiynu yr Awduron i'w hysgrifennu.
Bydd Golygyddion sy'n gweithio i bapurau newydd a chylchgronau (mewn print neu ar-lein) yn penderfynu pa erthyglau i'w cynnwys a sut i'w gosod allan. Byddant hefyd yn darllen a dethol o erthyglau wedi eu hanfon gan ysgrifenwyr llawrydd.
Mae Bargyfreithwyr yn gweithio o fewn system gyfreithiol Cymru a Lloegr. Mae gan eu gwaith ddwy brif agwedd: cynnig cyngor arbenigol ynghylch materion cyfreithiol cymhleth a chynrychioli pobl mewn llys barn.
Os na fydd achos yn cyrraedd llys barn, bydd y Bargyfreithiwr yn treulio llawer iawn o amser yn paratoi. Mae paratoi achos yn golygu ymchwil trylwyr er mwyn dod yn gyfarwydd â’r holl ffeithiau.
Yn ystod achos llys, mae Bargyfreithwyr yn cyflwyno’r holl ffeithiau perthnasol i’r Barnwr a’r rheithgor, croesholi tystion ac yna crynhoi, er mwyn dadlau pam ddylai’r llys benderfynu’r achos o blaid eu cleient.
Mae angen i fargyfreithiwr ennill gradd ac yna dilyn hyfforddiant i ennill cymwysterau uwchraddedig.
Daliwch sylw: yn yr Alban, gelwir Bargyfreithwyr yn Adfocadau.
Mae cyfreithwyr yn cynnig cyngor a chymorth i aelodau’r cyhoedd ynghylch pob mathau o faterion cyfreithiol. Maent yn gweithio’n uniongyrchol gyda’u cleientiaid, a hwy yw’r pwynt cyswllt cyntaf fel arfer i unrhyw un sy’n chwilio am gyngor cyfreithiol arbenigol.
Gall cyfreithwyr gynghori ynghylch amrywiaeth o faterion megis cyfraith busnes (er enghraifft, TAW, cyfraith cyflogaeth a chyfuno cwmnïau), trosglwyddebu, profiant, patentau a hawlfreintiau.
Maen nhw’n cynghori pobl sy’n wynebu anghydfodau; os aiff yr achos i’r llys, rhaid iddynt roi cyfarwyddiadau a gwybodaeth i’r bargyfreithiwr, sy’n dadlau’r achos yn y llys. Fodd bynnag, gall cyfreithwyr gynrychioli cleientiaid mewn rhai mathau o lysoedd.
Y ffordd rwyddaf o sicrhau gyrfa yn y maes hwn yw ennill gradd wedi’i ddilyn gan flwyddyn (amser llawn) o hyfforddiant proffesiynol ac yna dwy flynedd o hyfforddiant proffesiynol (Cwrs Ymarfer y Gyfraith) ac yna dwy flynedd o hyfforddiant â chyflog gyda chwmni cyfreithwyr neu sefydliad cymeradwy.
(Mae gwaith gweithredwr cyfreithiol yn debyg iawn i waith cyfreithiwr. Y prif wahaniaeth yw’r ffaith fod gweithredwyr cyfreithiol yn arbenigo mewn un agwedd o’r gyfraith yn unig.)