'Mae meddyliau creadigol yn ysbrydoli eraill'
Amlinelliad o'r Cwrs
Pam dewis Drama a Theatr?
Gallwch chi ddatblygu eich gallu presennol i berfformio a defnyddio hyn i gyflawni Safon Uwch.
Byddwch chi’n meithrin hyder ac yn cael hwyl.
Byddwch chi’n dysgu i weithio fel rhan o dîm ac yn cydbwyso amrywiaeth o syniadau.
Bydd gennych chi gymysgedd o waith ymarferol ac ysgrifenedig yn wahanol i unrhyw bwnc arall.
Pa sgiliau fyddaf yn eu datblygu?
Byddwch chi’n cael y cyfle i ddysgu a datblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy ac i ymarfer cymhwyso’r rhain at sefyllfaoedd newydd e.e sgiliau dadansoddol, datrys problemau, trefnu a rheoli amser. Byddwch chi hefyd yn gallu cydweithio i gynhyrchu, datblygu a chyfleu syniadau, a bydd pob un o’r rhain yn datblygu eich deallusrwydd emosiynol.
Bydd eich sgiliau ymarferol yn cael eu mireinio a byddwch chi’n dangos creadigrwydd, myfyrdod a gwydnwch, yn ogystal â datblygu hyder a sgiliau cyflwyno cryf.
Bydd eich sgiliau ysgrifenedig dadansoddol a chreadigol, yn ogystal â’ch gallu i hunanfyfyrio, yn cael eu datblygu trwy amrywiaeth o dasgau.
Bydd astudio Drama a Theatr yn rhoi cyfleoedd i chi feddwl ar lefel uwch, trwy ystyried syniadau sy’n mynd y tu hwnt i iaith. Mae’n hyfforddiant gwych ar gyfer yr ymennydd a fydd yn eich helpu mewn meysydd eraill hefyd.
Trwy astudio Drama a Theatr, byddwch yn meithrin sgiliau i lwyddo yn eich camau nesaf.
Fel rhan o'r papur arholiad, mae’n ofynnol i chi gyfeirio tuag at gynyrchiadau theatr byw felly bydd llawer o deithiau yn cael eu trefnu ar eich cyfer!