Llawlyfr CBAC Celf a Dylunio
Datganiadau disgyblion Safon Uwch
Pam dewis y pwmc yn y lle cyntaf?
Wnes i ddewis y pwnc yma er mwyn dilyn pwnc ymarferol sydd ychydig yn wahanol ir pynciau academaidd eraill rydw i wedi ei ddewis. Rydw i'n credu bydd celf yn diddorol, byddwn yn mwynhau am eu fod yn hollol wahanol i'r pynciau eraill oherwydd bod yn cael ei marcio ar gwaith cwrs a ddim profion fel pynciau eraill.
Pa agweddau or pwnc sydd yn rhoi y mwyaf o fwynhad i ti?
Yr agwedd or pwnc rydw i'n ei fwynhau mwyaf yw'r gwaith peintio. Mae'r gwaith yma yn rhoi mwynhad i mi am eI fod yn rhywbeth rwyn hyderus iawn ynddo. Mae gallu defnyddio llawer iawn o wahanol baent a defnyddiau mewn ffyrdd gwahanol yn cadw fy niddordeb at yr agwedd yma or pwnc. Rwyf hefyd yn hoffi braslunio yn gyflym am ei fod yn siawns i wneud gwaith hefo llai o ofal a creu gwaith sydd llai perffaith.
Disgrifia'r pwnc mewn 3 gair
Di-derfyn
Arbrofol
Mynegiant
Mae'r posibiliadau gyda beth rydych chi eisiau gwneud wir yn ddi defrfyn o greu dyluniad Photoshop i greu jwg. Mae gwaith lefel A yn llawer mwy annibynnol mewn cymhariaeth i TGAU felly mae'n gallu gwneud i chi fod yn fwy arbrofol a gallu rhoi mwy o fynegiant yn eich gwaith.
Wyt ti'n bwriadu cario ymlaen efo'r pwnc yn y Brifysgol? Pam?
Rydw i wedi cael lle flwyddyn nesaf i astudio Dylunio Graffeg a Darlunio ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl. Mae hyn yn gam naturiol i mi ei gymeryd gan fy mod i wedi gwneud Dylunio Graffeg fel lefel A. Mae'r gefnogaeth dwi wedi ei gael gan yr Adran Gelf tra'n cyflawni cais wedi bod yn wych a mae'r arweiniad dwi wedi ei gael tra'n gwneud fy mhortffolio wedi cael ei ganmol ac wedi sicrhau lle i fi yn y Prifysgol.
Beth wyt ti'n obeithio mae'r pwnc yma'n ei roi i ti?
Dwi'n teimlo fod y pwnc yn rhoi gorffwys i mi o gymharu gyda pynciau sydd yn cynnwys mwy o ysgrifennu. O gymeryd Celf fel pwnc lefel A rwyf wedi gweld cynnydd mawr yn y rhyddid i gael arbrofi gyda technegau newydd yn enwedig o gymharu gyda TGAU.
Pa argymhelliad fyddet yn ei roi i ddisgyblion blwyddyn 11?
Os rydych yn mwynhau'r pwnc ewch amdani i gyflawni lefel A. Fel yna byddwch yn hedfan drwy'r gwaith. Bydd o ddim yn teimlo fel baich a mae'n gyfle gwych i wneud gwaith yn eich gwersi rhydd ac ymlacio a 'da chi dal yn cyflawni gwaith. Hefyd mae o'n un pwnc yn llai os 'da chi'n gweithio drwy'r flwyddyn. Mae'n bwnc yn llai i boeni am pam mae amser arholiadau yn dod yn nhymor yr haf.