Mae’r rhaglen yn cynnwys un ar bymtheg o wersi a gaiff eu trosglwyddo gan ddefnyddio Microsoft Teams ac OneNote. Mae fersiynau cydamserol ac anghydamserol ar gael.
Mae prif gydrannau’r gwersi yn cynnwys:
1. Darllen stori gyda datblygiad geirfa
2. Gemau sy’n seiliedig ar eirfa
3. Gweithgareddau sillafu
Wrth i’r disgybl fynd yn ei flaen gyda’r rhaglen, ysgrifennai ddwy stori ei hun, eu darlunio wedyn eu recordio fel llyfr sain.
Darparwyd RILL o bell i ychydig dros 200 o ddisgyblion yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn 2020.
Daethom i’r casgliad bod disgyblion a dderbyniodd RILL wedi chynnal eu sgiliau llythrennedd - a fesurwyd drwy brawf llythrennedd safonol - o’i gymharu a’r grŵp rheoli [canlyniadau ar y gweill].
Yn ein prosiectau cyfredol, rydym yn cynnal Treialon Rheoli ar hap (RCTs) er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd y rhaglen yn llawn.