(We really enjoy playing the language games on the site. The children learn by having fun).
"Cymerodd ein dau fachgen ran yn RILL yn ystod y gwanwyn a’r haf yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Roedd yn brofiad hynod o bositif i’r ddau ohonynt – rhoddodd rywbeth hwyliog ac wahanol iddyn nhw ganolbwyntio arno, ac roedd y gwersi un-i-un yn wych. Yn bendant, fe helpodd i gynnal eu sgiliau llythrennedd, ac roedd sylw, brwdfrydedd ac agwedd gadarnhaol eu hathro’n rhoi hwb mawr i’w hyder. Roedd y cynllun hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i ni fel rhieni, gan ein bod yn gwybod eu bod yn derbyn cefnogaeth i gynnal eu sgiliau Saesneg yn ystod y cyfnod clo. Cafodd y ddau fachgen adborth ardderchog yn nosweithiau rhieni mis Hydref, gyda’u hathrawon yn dweud eu bod yn gwneud yn dda ac nad oedd yr un ohonynt wedi mynd ar ei hôl hi o ran sgiliau llythrennedd, er gwaethaf y cyfnod clo – ac rwy’n priodoli llawer o hynny i’r ffaith eu bod wedi parhau gyda RILL dros wyliau’r haf."
["Our two boys took part in RILL during the spring and summer of the first lockdown. It was such a positive experience for them both, it gave them something fun and different to focus on and the one to one lessons were great. It definitely helped maintain their literacy skills and the attention, positivity and enthusiasm of their teacher gave them a much needed confidence boost. The scheme also gave us as parents peace of mind that they were getting support to keep up their English skills during lockdown. Both of the boys had excellent feedback in their October parents evenings, with their teachers saying both were doing well and neither had fallen behind in their literacy skills despite the lockdown and I do attribute a large part of this to them continuing with RILL during the summer holidays."]
"Cafodd unrhyw faterion neu bryderon eu hateb yn brydlon drwy e-bost neu yn ystod cyfarfodydd Teams, ac mae cymorth ar gael unrhyw bryd pan fo’i angen gan aelodau’r tîm. Gall myfyrwyr gysylltu â’u hathrawon drwy gyfrif Teams pryd bynnag y bydd angen. Mae disgyblion nad ydynt efallai’n cymryd rhan mewn trafodaethau neu weithgareddau dosbarth yn aml yn teimlo’n fwy parod i agor lan a thrafod mewn grŵp bach."
[“Any issues or concerns were answered promptly by email or during Teams meeting and support is available anytime when needed by members of the team. Students can contact teachers on the Teams account whenever they may need to.
Pupils who may not engage in class discussions/activities can open up and discuss in a small group.”]
"Mae’r rhaglen ymyrraeth yn wych gan ei bod yn denu sylw’r dysgwyr; o’r cymorth fideo i’r defnydd o gymhorthion sain a gweledol, mae’n rhoi hyder i’r plentyn/plant yn eu sgiliau darllen ac oracy, y gallant wedyn eu defnyddio i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu. Mae technoleg yn datblygu mor gyflym, ac mae’n rhaid imi gyfaddef imi gael trafferth i ddechrau – ond ar ôl y sesiynau hyfforddi a’r sesiynau dal i fyny gwych gan Dîm RILL, rwy’n teimlo’n hyderus wrth ei defnyddio yn y dosbarth ar ôl y Pasg. Diolch o galon am yr holl gymorth a’r arweiniad anhygoel gan bawb yn ystod y cyfnodau heriol hyn – rydym yn wirioneddol ddiolchgar i chi i gyd."
[“The intervention program is fantastic as it captures the learners attention, from video support to using sound and visual aids, it gives the child/children confidence in reading and oracy skills which they can in turn use to develop their writing. Technology is developing so fast so I must admit I did struggle at first but after the fantastic training and catch-up sessions the RILL Team offered I feel confident when it comes to using it in class after Easter. Thank you for all the amazing help and guidance from everyone during these very challenging times we are so grateful to you all.”]