Am RILL


Bu i’r pandemig coronafeirws arwain at doriadau yn nysg plant a gorfodwyd ysgolion i fabwysiadu dulliau dysgu o bell. I gynorthwyo a’r ymdrechiad hyn, mae ein rhaglen iaith a llythrennedd yn dysgu’r sgiliau llythrennedd craidd gan bwysleisio ar brofiad hwylus, wedi ei arwain gan y disgybl.

Mae ein tîm dysgu wedi derbyn hyfforddiant arddwys ar sut i weithredu’r gwersi RILL gan ddefnyddio dulliau positif ac adeiladol. Mae’r deunyddiau wedi eu llunio yn arbennig ar gyfer yr amgylchedd ar lein gan ddefnyddio nifer o elfennau rhyngweithiol gan gynnwys gifs, fideos, effeithiau sain a gemau. Mae pob gwers yn tua 45 munud o hyd a chaiff y gwersi eu trosglwyddo dwywaith yr wythnos.

Mae’r rhaglen yn cynnwys un ar bymtheg o wersi a gaiff eu trosglwyddo gan ddefnyddio Microsoft Teams ac OneNote. Mae fersiynau syncronaidd ac ansyncronaidd ar gael.

Mae prif gydrannau’r gwersi yn cynnwys:

1. Darllen stori gyda datblygiad geiriadurol

2. Gemau geiriau sy’n seiliedig ar yr eirfa

3. Gweithgareddau sillafu

Fel mae’r plentyn yn datblygu drwy’r rhaglen, byddent yn ysgrifennu dwy stori eu hunain ac yna creu darlun ohonynt.


'Rydym wedi datblygu fersiynau Saesneg a Chymreag o’r rhaglen RILL.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar yr eiconau isod os gwelwch yn dda.