RILL UK

Bu i’r coronafeirws ailstrwythuro ein bywydau a’i gwneud yn amhosib i ddefnyddio’r dulliau traddodiadol o drosglwyddo’r cwricwlwm addysg. Ein nod gyda’r Rhaglen Iaith a Llythrennedd o bell (RILL) felly yw trosglwyddo hyfforddiant effeithiol o bell i blant yng nghyfnod allweddol 2 ar draws y Deyrnas Unedig. Defnyddiai’r rhaglen egwyddorion damcaniaethol o’r llenyddiaeth wyddonol (e.e., Suggate, 2016; Hatcher et al., 2006; Clarke, 2010) ynghyd a’r dangosyddion gorau o lwyddiant darllen yn y grŵp oedran hwn er mwyn darparu addysgwyr a rhaglen sy’n wyth wythnos o hyd, gyda dwy wers wythnosol. Mae pob gwers yn ffocysu ar y sgiliau dysgu sylfaenol megis geirfa, ffoneg a deallusrwydd ac yn eu haddasu i greu profiad sy’n ddifyr ac addas ar gyfer sefyllfaoedd dysgu o bell. Gall addysgwyr felly ddefnyddio’r rhaglen i gynnal gwersi syncronaidd gyda’r athro a’r disgybl yn cyfarfod a chynnal gwersi yn fyw ar-lein. Gall y disgybl hefyd gwblhau’r tasgau yn ansyncronaidd ac yn annibynnol gyda’r addysgwr yn edrych ar y gwaith yn ddiweddarach. Mae’r holl ddeunyddiau ar gael i addysgwyr a disgyblion i’w defnyddio yn rhad ac am ddim.

Bu i brosiect gwreiddiol RILL (Ebrill – Tachwedd 2020) drosglwyddo’r rhaglen i dros 200 o blant ar draws y Deyrnas Unedig gan recriwtio drwy gysylltu yn uniongyrchol â rieni. Mae dadansoddiadau ar y data a gasglwyd yn parhau i gael eu cynnal (a chaiff y canlyniadau eu rhyddhau yma yn Ebrill 2021). Dangosai gyfweliadau anffurfiol fodd bynnag bod a) y plant wedi mwynhau’r rhaglen a’r rhieni wedi eu rhyddhau o’r beichiau a ddaw a chyfrifoldebau dysgu yn ystod y cyfnod clo, b) fod plant a rhieni yn teimlo yn fwy hyderus â dysgu ar-lein yn ystod cyfnodau clo diweddarach, a c) fod dim dirywiad yn ymarferion darllen a llythrennedd y plant (yn ôl mesuriadau hunanadroddol).

Ar hyn o bryd ‘rydym yn datblygu fersiwn newydd o’r rhaglen (RILL yn yr ysgol) er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn dal i fyny ac yn adfer eu sgiliau iaith a llythrennedd yn sydyn wedi cyfnodau o dorriadau yn eu haddysg. Ein nod yn y pendraw yw sicrhau fod y rhaglen ar gael i bob ysgol yng Nghymru (drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg) ac yn Lloegr. ‘Rydym yn awyddus hefyd i addasu’r deunyddiau ar gyfer plant yng nghyfnod allweddol 1 hefyd.