Trosolwg o strwythur y gwersi
Dyma drosolwg o un gwers RILL, bydd y gwersi i gyd yn dilyn yr un strwythur bob tro. Mae hyn yn galluogi’r plentyn i ddod i adnabod trefn y wers ac i fagu'r hyder i gymryd rhan yn y gwersi wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen.
Mwy o Fanylder am Strwythur y Gwersi:
Adolygiad byr o'r wers flaenorol ac amlinellu nod y wers nesaf.
Mae dau o eiriau haen dau (Beck et al., 2002) yn cael eu cyflwyno ym mhob gwers. Mae geiriau haen dau yn:
Cael ei defnyddio yn aml gan deffnyddwyr iaith aeddfed.
Yn ymddangos yn aml mewn meysydd amrywiol.
Mae ganddynt botensial addysgiadol gan eu bod yn gallu cael eu dysgu mewn sawl ffordd ac yn cysylltu â geiriau eraill i feithrin dealltwriaeth semantig gyfoethog.
Mae gan y geiriau sail gysyniadol (h.y. mae gan ddisgyblion ddealltwriaeth sylfaenol or gair, e.e. del - prydferth (gair haen 2))
Mae geiriau’r diwrnod yn cael eu hyfforddi yn dilyn y dull a ddefnyddir yn y Ymyriad Darllen a Geirfa (REVI; Duff et al., 2008), sy’n seiliedig ar Beck et al. (2002). Mae hyn yn cynnwys:
Yr hyfforddwr yn rhoi cyd-destun i’r gair
Y disgybl yn ailadrodd y gair
Yr hyfforddwr yn diffinio’r gair
Yr hyfforddwr yn defnyddio geiriau eraill am y gair
Y disgybl yn defnyddio’r gair mewn cyd-destun
Y disgybl yn ailadrodd y gair
Bydd y disgybl yn darllen y testun gyda’r hyfforddwr.
Yn dibynnu ar lefel y disgybl, efallai y byddant yn darllen yn uchel ar eu pen eu hunain neu’n rhannu’r darllen gyda’r hyfforddwr. Mae’r darn yn cynnwys y ddau Air y Diwrnod, sy’n galluogi’r plentyn i ymgyfarwyddo â ffurf ysgrifenedig y geiriau hyn yn y testun.
Bydd yr hyfforddwr yn helpu’r plentyn i ddatgodio geiriau nad ydynt yn gyfarwydd â hwy.
Bydd yr hyfforddwr yn gofyn dau neu dri chwestiwn rhagarweiniol i’r plentyn am y testun.
Yn y weithgaredd hwn, mae’r disgyblion yn canolbwyntio ar uno’r ffonemau (h.y., cyfuno’r ffonemau unigol a gyflwynir i greu’r gair targed). Dilynnir y weithgaredd hwn strwythur systematig.
Lle bo’n briodol, bydd y wers hon yn canolbwyntio ar gryfhau gwybodaeth y disgyblion am lythrennau, yn enwedig ar gyfer darllenwyr a sillafwyr iau neu rai sydd ar lefelau is (gweler Byrne, 1998).
Yna, symudir y ffocws at ddarparu cyfarwyddyd clir ac eglur ar synau neu batrymau lleferydd penodol. Yn gynnar yn y rhaglen, canolbwyntir ar synau lleferydd byrion, yna symudir ymlaen at synau lleferydd hirach yn nes ymlaen yn y broses ddysgu.
Dysgir i’r digyblion segmentu a dadansoddi cyd-destun orthograffegol o batrymau sillafu penodol (Treiman, 2018). Ble bo hynny’n bosibl, lle'n bosibl mae’r geiriau a ddefnyddir yn y gemau ymwybyddiaeth ffonolegol neu’r gemau geiriau wedi cael eu hintegreiddio’n strategol (Graham et al., 2018).
Canolbwyntio ar un sgil hanfodol mewn naratif (cymeriadau, trefnu, strwythur, ehangu, cysylltiadau, a defnyddio berfau; gweler Clarke et al., 2010) ym mhob maes, llafar a ysgrifenedig. Defnyddir y sgiliau hyn i adeiladu stori’n raddol dros sawl sesiwn.
Adolygu geiriau’r diwrnod drwy:
Atgoffa’r disgybl o'r geiriau.
Diffinio’r geiriau eto.
Darparu cyd-destun i’r geiriau eto.
Mae’r hyfforddwr yn arwain y drafodaeth drwy annog y disgybl i ddisgrifio’r hyn a wnaethant ddysgu yn y wers a beth roedden nhw wedi ei fwynhau.
Mae’r hyfforddwr yn disgrifio’n gryno y cynllun am y wers nesaf.
Cyfeirnodau
Beck, I. L., McKeown, M. G., & Kucan, L. (2002). Dod â Geiriau’n Fyw: Cyfarwyddyd Eirfa Cadarn [Bringing Words to Life: Robust Vocabulary Instruction] (2il arg.). Guildford Press / Childcraft International.
Byrne, B. (1998). Sylfeini Llythrennedd: Caffael Egwyddor Aleffaidd gan y Plentyn [The Foundation of Literacy: The Child’s Acquisition of the Alphabetic Principle] (1af arg.). Psychology Press. https://doi.org/10.4324/9781315804484
Clarke, P. J., Snowling, M. J., Truelove, E., & Hulme, C. (2010). Lleddfu Anawsterau Deall Darllen Plant: Treial Rheoledig ar Hap [Ameliorating Children’s Reading-Comprehension Difficulties: A Randomized Controlled Trial]. Psychological Science, 21(8), 1106–1116. https://doi.org/10.1177/0956797610375449
Duff, F. J., Fieldsend, E., Bowyer-Crane, C., Hulme, C., Smith, G., Gibbs, S., & Snowling, M. J. (2008). Darllen gyda Ymyriad Eirfa: Gwerthusiad o Gyfarwyddyd i Blant gyda Ymateb Gwan i Ymyriad Darllen [Reading with Vocabulary Intervention: Evaluation of an Instruction for Children with Poor Response to Reading Intervention]. Journal of Research in Reading, 31(3), 319–336. https://doi.org/10.1111/j.1467-9817.2008.00376.x
Graham, S., Liu, X., Aitken, A., Ng, C., Bartlett, B., Harris, K. R., & Holzapfel, J. (2018). Effeithiolrwydd Rhaglenni Llythrennedd sy’n Cydbwyso Darllen ac Ysgrifennu: Meta-ddadansoddiad [Effectiveness of Literacy Programs Balancing Reading and Writing Instruction: A Meta-Analysis]. Reading Research Quarterly, 53(3), 279–304. https://doi.org/10.1002/rrq.194
Treiman, R. (2018). Dysgu ac Addysgu Sillafu [Teaching and Learning Spelling]. Child Development Perspectives, 12(4), 235–239. https://doi.org/10.1111/cdep.12292