Rhaglen Iaith a Llythrennedd


Caiff y Rhaglen Iaith a Llythrennedd (RILL) ei redeg gan ymchwiliwr yn yr Ysgol Seicoleg a’r Ganolfan Dyslecsia Miles ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r prosiect yn cynnwys rhaglen iaith a llythrennedd i blant yng nghyfnod allweddol 2, ac fe’i lansiwyd mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws a chyfnod clo Ebrill 2020. Ein nod yw sicrhau fod plant yn parhau i dderbyn hyfforddiant llythrennedd o safon pan fo’r ysgol ar gau, ac i adennill sgiliau llythrennedd wrth ddychwelyd i addysg.

Rydym wedi ein cyllido gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru. Hyd yma, mae ein cwricwlwm wedi ei weithredu â 200 o blant yng Nghymru a Lloegr.