Trefniadau Dilysu 2024
Trefniadau Dilysu 2024
Cewch eich dilysu ym mis Ebrill 2024 gan y Sir neu os nad yw'ch ysgol yn barod, mis Mehefin/Gorffennaf 2024. Bwriad y broses dilysu yw eich gwobrwyo fel ysgol ac mi fydd trefn y diwrnod dilysu yn hollol agored.
O ran trefn diwrnod dilysu gyda Swyddog y Gymraeg, gallwch gynllunio diwrnod yn debyg i hyn:
Gwasanaeth Criw Cymraeg/Siarter Iaith
Taith o amgylch yr ysgol (Clywed Drilio/Amser Cerddoriaeth Cymraeg/Gwobrwyo/Gweld gwaith dysgwyr a.y.b)
Cyfarfod gyda'r Criw Cymraeg - cyflwyniad ar waith y Siarter yn yr ysgol
Cyfarfod gyda'r Arweinydd Siarter/UDR/Llywodraethwyr Siarter i edrych ar hunanarfarniad a gwerthusiad yr ysgol
Cam 1 Dilysu: Yr ysgol i hunanarfarnu (gan ddefnyddio'r ffurflen gwerthuso & hunanarfarniad o Swyddog y Gymraeg)
Cam 2 Dilysu: Swyddog y Gymraeg i asesu'r ysgol
Cam 3 Dilysu: Y Cymeradwyo & dathlu llwyddiant!
Sylwch: cyn eich dilysu, mi fydd angen ymweliad gan Swyddog y Gymraeg.