Y Siarter Iaith 2022-2023

The Welsh Language Charter 2022 -2023

Croeso i wefan Y Siarter Iaith. Ar y dudalen hon, gallwch ffeindio gasgliad o wybodaeth, linciau ac adnoddau defnyddiol yn ymwneud â'r Siarter Iaith Gymraeg.

Welcome to the 'Siarter Iaith' webpage. On this page you will find information, links and useful resources about 'The Welsh Language Charter'.

Beth yw'r Siarter Iaith Gymraeg? /

What is the Welsh Language Charter?

Nod y Siarter Iaith yw annog plant i siarad Cymraeg yn amlach mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am arwain y Siarter, ac yn eu geiriau nhw, ‘Mewn gair, ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau’ yw’r nod. Mae’r Siarter Iaith yn gyfle i bawb yng nghymuned yr ysgol chwarae eu rhan wrth hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg – cyngor yr ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn o’r iaith. Fel ysgol, rydym wedi ennill y gwobrau efydd ac arian eisoes a nawr rydym yn anelu at y wobr aur.


The main aim of the charter is to create an increase in the children’s social use of Welsh. We want to inspire our children and young people to use Welsh in every aspect of their lives.The Welsh Language Charter asks for a contribution from every member of the school community – the pupils, the school council, the staff, the parents, the governors and the community. At Ysgol Gymraeg Cwmbrân we have achieved the bronze and silver accreditations and are working towards the gold accreditations.

Criw Cymraeg Ysgol Gymraeg Cwmbrân /

 Ysgol Gymraeg Cwmbrân Welsh Leaders

Helo! Ni ydy Criw Cymraeg yr ysgol. Mae cynrychiolwyr o flynyddoedd 3- 6 yn rhan o'r criw. Rydym ni'n ceisio sicrhau bod pobl yn yr ysgol, ein teuluoedd a'r gymuned yn gwybod pa mor bwysig yw'r iaith Gymraeg i ni! Rydym ni'n helpu pobl i siarad Cymraeg yn yr ysgol trwy wobrwyo a gosod heriau i'n ffrindiau. Byddwn ni'n gosod newyddion, heriau'r mis a syniadau ar y wefan 'Y Siarter Iaith'.

Hello!  We're the Welsh Leaders of the school. There are representatives from years 3- 6 in our group. We try to make sure that everyone in school, at home and in the community knows how important the Welsh language is to us! We help people to speak Welsh by rewarding them and setting challenges for the children and their families. We'll be putting news, monthly challenges and good ideas on the website for you!

Y Siarter Iaith / The Welsh Language Charter

Darganfyddwch ragor am y Siarter Iaith trwy ddilyn y ddolen.

Learn more about the Welsh Language Charter by following the link. 

Ein hamcanion Siarter Iaith / Our Welsh Charter Aims:

gwybodaeth siarter iaith.pdf

Rhestr o apiau defnyddiol / A list of useful apps:

Dyma rhestr o apiau defnyddiol. Yn amlwg mae apiau newydd yn cael eu creu yn gyson. Edrychwch ar y rhestr newydd isod am yr apiau diweddaraf.

Here is a list of useful apps. New Welsh apps are released regularly. Look at the updated list for the latest releases.

Apps Siarter Iaith
rhestr-apiau-2020.pdf

Gwersi Cymraeg i oedolion / Welsh lessons for adults:

Cyrsiau Blasu Ar-lein / Online taster sessions

Ydych chi'n awyddus i ddysgu Cymraeg ? Gallwch chi ddechrau dysgu Cymraeg trwy ddilyn cyrsiau blasu ar-lein. Maen nhw’n cyflwyno geirfa ac ymadroddion pob dydd ac maen nhw ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim.. Mae’n rhaid mewngofnodi neu greu cyfrif i ddechrau cwrs - proses hawdd iawn (dewiswch ‘Arall’ yn y ddewislen wrth greu cyfrif). Pob hwyl gyda’r dysgu! / Do you want to learn Welsh? Have a go at some of these free online taster sessions. These sessions will introduce every day vocabulary and phrases that you could use with your children at home. To access these sessions you will need to create an account following the link. Good luck with the learning.

Clwb Cwtsh / Clwb Cwtsh

Croeso! / Welcome

Mae Clwb Cwtsh yn bartneriaeth rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Mudiad Meithrin. Gwyliwch y fideo am fwy o wybodaeth.

Mae Clwb Cwtsh yn cyflwyno geiriau ac ymadroddion sy’n berthnasol i fagu plant ifanc ac yn annog dysgwyr i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg gyda’u plant. Mae'r sesiynau yn rhai hwyliog ac ysgafn, ac yn defnyddio canu a gemau. Ers mis Medi 2020 mae Clwb Cwtsh yn cael ei gynnig drwy sesiynau o bell/rhithiol. Cofrestrwch eich diddordeb yma. /Clwb Cwtsh introduces Welsh words and phrases for parents and carers to use at home with their young children.  Our sessions are full of fun and music, with plenty of encouragement and support.  Since September 2020, Clwb Cwtsh is available as distance/virtual sessions.  Register your interest here. Watch this video for more information about Clwb Cwtsh, a partnership between the National Centre for Learning Welsh and Early Years specialists, Mudiad Meithrin.