ASESU /
ASSESSMENT
ASSESSMENT
Trosolwg
Mae asesu yn rhan annatod o'r broses ddysgu, gydag staff yn gweithio gyda dysgwyr er mwyn helpu i adnabod eu cryfderau, meysydd iddyn nhw eu datblygu a'u camau dysgu nesaf. Wrth ddylunio trefniadau asesu fel rhan o gwricwlwm ein hysgol, 'rydym wedi dilyn yr egwyddorion canlynol.
Diben asesu yw cefnogi cynnydd pob dysgwr unigol mewn perthynas â'r continwwm 3 i 16.
Mae dysgwyr wrth wraidd y broses asesu a dylen nhw gael eu cefnogi i gymryd rhan weithredol yn y broses ddysgu.
Mae asesu yn broses barhaus sy’n rhan naturiol o ddysgu ac addysgu.
Mae dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, wedi'i meithrin drwy ddeialog proffesiynol, yn rhan annatod o'r gwaith o gynllunio cwricwlwm a gwella dysgu ac addysgu.
Dylai dysgu ar draws ehangder y cwricwlwm fanteisio ar ystod eang o ddulliau asesu, gan greu darlun holistiaidd o ddatblygiad dysgwr.
Mae ymgysylltiad rhwng y dysgwyr, eu rhieni/gofalwyr a'r ymarferwyr yn hanfodol er mwyn sicrhau cynnydd a lles.
Diben cyffredinol asesu yw cefnogi pob dysgwyr i wneud cynnydd. Wrth gynllunio, a darparu profiadau dysgu, 'rydym fel ysgol ac staff yn glir ynghylch rôl benodol pob asesiad a gynhelir ac at ba ddiben y defnyddir y ddealltwriaeth a geir yn sgil yr asesiad, a pham. Yn hyn o beth, mae asesu yn chwarae tair prif rôl wrth gefnogi cynnydd dysgwyr.
Overview
Assessment is an integral part of the learning process, with staff working with learners to help identify their strengths, areas for development and next steps in learning. When designing our assessment arrangements as part of a school curriculum, the following have been our guiding principles.
The purpose of assessment is to support the progression of each individual learner in relation to the 3 to 16 continuum.
Learners are at the heart of assessment and should be supported to become active participants in the learning process.
Assessment is an ongoing process which is indistinguishable from learning and teaching.
A shared understanding of progression, developed through professional dialogue, is integral to curriculum design and improving learning and teaching.
Learning across the breadth of the curriculum should draw on a wide range of assessment approaches, building a holistic picture of the learner’s development.
Engagement between the learners, their parents/carers and practitioners is essential for progression and well-being.
The overarching purpose of assessment is to support every learner to make progress. When planning and delivering learning experiences, our school and staff are clear about the specific role of each assessment being undertaken and what the understanding gained from assessment will be used for and why. In this respect, there are three main roles played by assessment in supporting learner progression.
Mae ein proses asesu yn canolbwyntio ar adnabod cryfderau pob dysgwr unigol, ei gyflawniadau, ei meysydd i'w datblygu a, lle y bo'n briodol, dylai ystyried unrhyw rwystrau i ddysgu. Mae ein staff yn ddefnyddio'r ddealltwriaeth hon, mewn trafodaeth â'r dysgwr, i benderfynu ar y camau nesaf sydd eu hangen er mwyn datblygu'r dysgu, gan gynnwys unrhyw heriau ychwanegol neu unrhyw gymorth sydd ei angen. Dylid cyflawni hyn drwy ymgorffori asesu fel rhan o'i ymarfer mewn ffordd sy'n ennyn diddordeb y dysgwr ac sy'n golygu ei fod yn rhan naturiol o ddysgu ac addysgu. Mae hyn yn galluogi einstaff i ymateb i anghenion unigol yr holl ddysgwyr yn ei ystafell ddosbarth yn barhaus.
Assessment will focus on identifying each individual learner’s strengths, achievements, areas for improvement and, if relevant, any barriers to learning. This understanding will be used by our staff, in discussion with the learner, to ascertain the next steps required to move learning forward, including any additional challenge or support required. This should be achieved by embedding assessment into practice in a way that engages the learner and makes it indistinguishable from learning and teaching. This allows our staff to respond to the individual needs of the full range of learners within their classroom on an ongoing basis.
Mae ein proses asesu yn helpu ein staff i adnabod y cynnydd a wneir gan ddysgwyr unigol, gan gofnodi hyn lle y bo'n briodol, er mwyn deall ei daith dros wahanol gyfnodau o amser ac mewn amrywiaeth o ffyrdd, er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud. Mae hyn yn cynnwys meithrin dealltwriaeth o ‘sut’ y mae dysgwr wedi dysgu, yn ogystal â'r ‘hyn’ y mae wedi'i ddysgu ac yn gallu ei ddangos. Dylai myfyrio ar gynnydd dysgwr dros amser alluogi ein staff i roi adborth a helpu i gynllunio ei ddysgu yn y dyfodol, gan gynnwys unrhyw ymyriadau, unrhyw gymorth ychwanegol neu her y gall fod eu hangen. Dylai hyn gynnwys y camau nesaf uniongyrchol a'r amcanion a'r nodau tymor-hwy y dylai'r dysgwr weithio tuag atyn nhw er mwyn ei helpu i barhau i symud ymlaen o ran ei ddysgu. Byddwn yn defnyddio hyn hefyd fel sail ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni/gofalwyr.
Assessment will support our staff in identifying the progress being made by an individual learner, recording this where appropriate, to understand their journey over different periods of time and in a variety of ways, in order to ensure there is progression. This includes developing an understanding of how a learner has learned, as well as what they have learned and are able to demonstrate. Reflecting on a learner’s progress over time should enable our staff to provide feedback and help plan their future learning, including any interventions, additional support or challenge which may be required. This should include both immediate next steps and longer-term objectives and goals that the learner should work towards to help keep them moving forward in their learning. It will also be used as a basis for communicating and engaging with parents/carers.
Bydd y broses asesu hefyd yn galluogi staff ac arweinwyr ein hysgol i ddeall a yw gwahanol grwpiau o ddysgwyr yn gwneud y cynnydd disgwyliedig. Byddwn yn defnyddio hyn i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yng nghwricwlwm yr ysgol a'r dull addysgu dyddiol, gan gynnwys ystyried sut y mae anghenion dysgwyr fel unigolion wedi cael eu diwallu.
Assessment will also enable our staff and leaders within the school to understand whether different groups of learners are making expected progress. This will be used to identify strengths and areas for improvement in both the school curriculum and daily practice, including consideration of how the needs of learners as individuals have been met.
Mae asesu yn fater barhaus a chyfnewidiol, yn ddibynnol ar anghenion pob dysgwr yn unigol. Nid ydym yma yn Ysgol Llandegfan am ffurfioli profion penodol ar gyfer blynyddoedd penodol ond am ddefnyddio proffesiynoldeb a adnabyddiaeth staff o'r disgyblion i ddewis yr asesiadau gorau i roi pob cyfle rhesymol i blentyn ddangos cynnydd yn eu dysgu. Gall hyn gynnwys:
1) Asesiadau Cymru Gyfan