Cabinet Amgylchedd a Hawliau 


Aelodau'r Cabinet - Cabinet Members

Helo a chroeso i dudalen y Cabinet Amgylchedd a Hawliau (2022-23). Ar y dudalen yma, byddwn yn rhannu ein syniadau a digwyddiadau. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio a gwella agweddau gwahanol o gwmpas yr ysgol.

Hello and welcome to the Environment and Rights Cabinet page (2022-23). On this page, we will be sharing our ideas and different events. We are looking forward to working together and improving different aspects around the school. 

Cyfrifoldebau'r Cabinet - 

Cabinet's Responsibilities

Dyma'r cyfrifoldebau rydym wedi cytuno ar gyfer ein Cabinet. Mae'r rhain yn bwysig oherwydd byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn dilyn y cyfrifoldebau er mwyn gwneud gwahaniaeth i'r ysgol, amgylchedd a'r byd.


Here are the responsibilities that we have agreed for our Cabinet. These are important because we will be making sure that we follow these responsibilities to make a difference in our school, environment and the world.

Cabinet Amgylchedd a Hawliau.pdf

Plannu Coed - Planting Trees

Bu aelodau o'r Cabinet Amgylchedd a Hawliau yn brysur yn plannu coed o gwmpas tir yr ysgol. Diolch yn fawr i Melanie am eu helpu, ac i 'Cadw Cymru'n Daclus' am y rhoddion.

Members of the Environment and Rights Cabinet have been busy planting trees around the school grounds. Thank you to Melanie from 'Keep Wales Tidy' for helping and for the kind donations.

Casglu Mes - Collecting Acorns

Bu rhai aelodau o'r Cabinet Amgylchedd a Hawliau yn ffodus iawn o gasglu mes a darganfod gwybodaeth o gwmpas ein hardal allanol. Diolch yn fawr Robin Shaw am eich amser ac am rannu'r wybodaeth arbennig gyda'r disgyblion!

Some members of the Environment and Rights Cabinet were very fortunate to collect acorns and discover information in our outdoor area. Thank you very much Robin Shaw for your time and for sharing wonderful information with the pupils!