Rydym yn ymfalchïo yn ein senedd a llais y disgybl.

Eleni, bydd 4 cabinet yn ffurfio grwpiau llais y disgybl yr ysgol sef:

  • Cabinet Iaith a Diwylliant

  • Cabinet yr Amgylchedd a Hawliau

  • Cabinet Iechyd a Lles

  • Cabinet Digidol a Chyfathrebu

Etholwyd y disgyblion mewn dull democrataidd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Mae dau ddisgybl o bob cabinet yn cymryd rôl y Cadeirydd ac Is-gadeirydd a byddant yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfarfodydd a chadeirio'r cyfarfodydd gyda chymorth athrawon sydd yn eu cefnogi. Byddant hefyd yn adrodd ar gynlluniau eu cabinet i'r Pennaeth, rhieni a'r Corff Llywodraethol.

Bydd disgyblion yr ysgol yn ffurfio'r Senedd ac yn rhan bwysig o wneud penderfyniadau er mwyn eu paratoi i leisio eu barn mewn ffordd wybodus, ddeallus, egwyddorol a moesol yn y dyfodol. Bydd syniadau'r disgyblion yn hanfodol i ddatblygiad y Senedd a phob cabinet.

Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r gyfundrefn ar ei newydd wedd yn ein hysgol yn ystod y flwyddyn.

We take pride in our pupil voice participation.

This year, 4 cabinets will form the school pupil's voice groups which are:

  • Language and Culture Cabinet

  • Environment and Rights Cabinet

  • Health and Welfare Cabinet

  • Digital and Communications Cabinet

The pupils were elected in a democratic manner at the beginning of the academic year. Two pupils from each cabinet take on the role of Chair and Vice-chair and will be responsible for keeping meeting minutes and chairing the meetings with the help of teachers who support them. They will also report on their cabinet plans to the Headteacher, parents and the Governing Body.

The pupils of the school will form the Senedd and will be an important part of making decisions in order to prepare them to voice their opinion in an informed, intelligent, principled and moral way in the future. The pupils' ideas will be essential to the development of the Senedd and every cabinet.

We look forward to developing the new system in our school during the year.