O'r fesen derwen a dyf - hanes ein hysgol
Ar y 3ydd o Ionawr 1955 agorwyd Ysgol Gymraeg Caerfyrddin fel rhan o Ysgol y Merched Pentrepoeth yng nghanol tref Caerfyrddin, gyda 21 o blant saith ac wyth oed yn Safon 1. Miss Gwen Jones oedd yr athrawes gyntaf, gyda Miss E. H. Goodwin yn brifathrawes, swydd a ddaliodd hi hefyd yn Ysgol y Merched Pentrepoeth. Ar ôl 12 mlynedd o rannu adeilad ym Mhentrepoeth, agorwyd Ysgol y Dderwen yn ei chartref annibynnol yn hen adeiladau’r Grange uwchben Pentrefelin, ar 6ed o Chwefror 1967. Dros y blynyddoedd datblygodd yr ysgol yn sylweddol, gydag agor adran feithrin newydd ar 22ain o Fawrth 1976 ac adeilad newydd ar 5ed o Fedi 1984. Yn 1986 cyflwynwyd gwisg ysgol am y tro cyntaf, gyda lliwiau gwyrdd ac aur a bathodyn yr ysgol yn adlewyrchu’r arwyddair “O’r fesen derwen a dyf”. Wrth i niferoedd gynyddu, gosodwyd cabanau addysgu ac agorwyd ‘Y Gangen’ ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 5 a 6, cyn cwblhau estyniad newydd a dod â’r ysgol gyfan o dan un to erbyn Chwefror 2010. Heddiw, mae Ysgol y Dderwen yn gymuned lewyrchus gyda chlwb gofal llwyddiannus, Cylch Meithrin Myrddin ar y safle, a digon o dir gwyrdd o’i chwmpas, er ei lleoliad yng nghanol tref Caerfyrddin.
O'r fesen, derwen a dyf - our school's history
On 3rd January 1955, Ysgol Gymraeg Caerfyrddin opened as part of Pentrepoeth Girls’ School in the centre of Carmarthen, with 21 seven and eight-year-old pupils in Standard 1. Miss Gwen Jones was the first teacher, with Miss E. H. Goodwin as headteacher, a role she also held at Pentrepoeth Girls’ School. After 12 years of sharing accommodation in Pentrepoeth, Ysgol y Dderwen opened in its own independent home in the former Grange buildings above Pentrefelin, on 6th February 1967. Over the years the school developed significantly, with a new nursery unit opening on 22nd March 1976 and a new building opening on 5th September 1984. In 1986, a school uniform was introduced for the first time, featuring the school colours of green and gold, and a badge reflecting the motto “O'r fesen, derwen a dyf," [From the acorn the oak grows]. As pupil numbers increased, temporary classrooms were installed and ‘Y Gangen’ opened for Years 5 and 6, before a new extension was completed, bringing the whole school under one roof by February 2010. Today, Ysgol y Dderwen is a thriving community with a successful wraparound care club, Cylch Meithrin Myrddin based on the site, and ample green spaces surrounding the school, despite its location in the heart of Carmarthen.
Yr ysgol yn dathlu ei phenblwydd yn 70 oed yn nhymor yr haf 2025.
The school celebrating its 70th birthday during the summer term 2025.