Presenoldeb Ysgol

Mae gan yr ysgol ddyletswydd a chyfrifoldeb i annog disgyblion i ddod i’r ysgol yn rheolaidd er mwyn cyflawni eu llawn botensial.  

 

Adrodd am absenoldeb 

Mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â’r ysgol cyn 9.00y.b ar fore unrhyw absenoldeb (01248 663 894.) 



Beth ydi presenoldeb da.pdf
Flyer Prydlondeb.pdf

Cyrraedd yr ysgol ar amser 

Cofiwch wneud yn siwr fod eich plentyn yn cyrraedd yr ysgol mewn pryd bob dydd.  

Mae’n ofynol i ni gofnodi absenoldeb hwyr.

  


Mae giatiau’r ysgol ar agor rhwng 8:50 – 9:00.  

Mae Clwb Brecwast rhad ac am ddim rhwng 8:25 – 8:35 a byddant yn mynd yn syth i’r dosbarth wedyn. 


Gwyliau yn ystod tymor ysgol  

Fel y cyfarwyddir gan yr Awdurdod Lleol, gall yr ysgol awdurdodi hyd at 10 diwrnod 

(yn y Cam Sylfaen a CA2.) 


Fel arfer ni ddylai rhieni fynd â disgyblion ar wyliau yn ystod tymor ysgol ac os oes rhaid gwneud hynny mae’n ofynnol bod rhieni’n gwneud cais am y gwyliau ymlaen llaw cyn archebu’r gwyliau (linc i’r ffurflen ar gael o’r ysgol).  


Salwch 

Os bydd eich plentyn yn colli 20 sesiwn (hanner diwrnod/) 10 diwrnod llawn ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ysgol oherwydd salwch, bydd yr ysgol yn cysylltu gyda chi. 


Ni fydd absenoldebau pellach yn cael eu hawdurdodi oni bai ein bod yn derbyn llythyr meddygol gan yr ysgol yn esbonio’r rheswm am bob absenoldeb. 


Apwyntiadau Meddygol/Deintyddol 

Triwch wneud apwyntiadau y tu allan i oriau ysgol. 



Os nad yw hyn yn bosibl dangoswch y cerdyn apwyntiad meddygol i’r ysgol cyn yr apwyntiad neu wrth ddychwelyd o’r apwyntiad. Heb y dystiolaeth bydd yr absenoldeb yn cael ei nodi fel anawdurdodedig.