"Plant hapus sy'n dysgu"
Yn Ysgol Satnes Dwynwen, anelwn i ysbrydoli disgyblion i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, yn unigolion hyderus, ac yn ddinasyddion cyfrifol. Mae ein haddysgu wedi’i seilio ar werthoedd Cristnogol ac wedi’i harwain gan bedwar diben y cwricwlwm Cymreig. Mae ein haddysgu yn meithrin amgylchedd bywiog a chefnogol, lle gall pob plentyn ffynnu—yn academaidd, yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
Ein nod yw tanio cariad gydol oes at ddysgu, meithrin ymdeimlad cryf o bwrpas, ac arfogi ein disgyblion â’r sgiliau a’r gwerthoedd hanfodol i lunio dyfodol mwy disglair iddynt hwy eu hunain ac i’r byd ehangach.
Agorwyd Ysgol Santes Dwynwen Pasg 2019. Mae'r ysgol wedi cymryd lle pedair ysgol yn Bodorgan, Dwyran, Llangaffo a Niwbwrch. Mae Ysgol Santes Dwynwen yn Ysgol dan Reolaeth Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer 180 o ddisgyblion a bydd hefyd yn cynnig 25 o lefydd meithrin.
Mae’r dyluniad yn gysylltiedig â safle hanesyddol Llys Rhosyr ar gyrion pentref Niwbwrch, sef Llys Brenhinol Tywysogion Gwynedd a ddefnyddiwyd yn ystod y 13eg ganrif. Mae olion hen neuaddau Llys Rhosyr wedi defnyddio fel elfen dylunio allweddol o fewn cynllun pensaernïol yr ysgol newydd.
Mae'r ysgol newydd yn gynaliadwy dros ben ac wedi ei adeiladu gyda Phaneli SIPS. Cawsant eu creu oddi ar y safle, a oedd yn golygu gwaith adeiladu heb wastraff a defnydd isel o ynni. Golygai hyn llai o gostau ac amser ar y safle.
Dywedodd y deilydd portffolio Addysg, y Cynghorydd Meirion Jones, “Drwy weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, rydym yn buddsoddi yn nyfodol ein plant - gan ddarparu’r addysg gorau posib iddynt a sicrhau eu bod yn cael eu dysgu mewn ysgolion sy'n cwrdd â safonau a disgwyliadau’r 21ain ganrif. Mae'r ysgolion yma’n addas at y diben, yn y llefydd iawn, ac yn cwrdd ag anghenion disgyblion a staff.”
Gobaith
Parch
Heddwch
Doethineb
Diolchgarwch
Dycnwch
Cyfeillgarwch
Ein Hanthem Ysgol
Gwrandewch ar ein Podlediad;
Ein Hardal Leol