Eco Ysgol
Beth yw rôl Cyngor Eco Ysgol ?
Beth yw rôl Cyngor Eco Ysgol ?
Mae'r rhaglen Eco-Ysgolion yn fenter ryngwladol sy'n annog disgyblion i ymgysylltu â materion amgylcheddol a datblygiad cynaliadwy.
Mae Cyngor Eco'r ysgol yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion drafod materion amgylcheddol sy'n bwysig i'r ysgol a'r gymuned leol.
Mae'r Cyngor Eco yn ymdrin â naw pwnc cyd-gysylltiedig i helpu i ddatblygu dull mwy cyflawn o Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang. Mae'r meysydd pwnc yn cynnwys:
Sbwriel
Lleihau gwastraff
Dŵr
Tir yr ysgol
Dinasyddiaeth Fyd-eang
Ynni
Bioamrywiaeth
Iechyd, lles a bwyd
Trafnidiaeth