Y Wisg Ysgol

Tei swyddogol yr ysgol gyda chwlwm maint canolig 4-5 cm gyda’r tei yn cyrraedd at hyd o leiaf yr asenau.

Siwmper swyddogol yr ysgol ddim i’w thycio mewn i drowsus neu sgert.

Trowsus du – dim jîns, leggings, jeggings, treggings, trwsus ‘combat’ (pocedi ar yr ochr). Yn ystod hanner tymor olaf y flwyddyn, bydd y Pennaeth yn gadael i’r disgyblion a rhieni / gofalwyr wybod os bydd caniatad i wisgo shorts.

Sgert ddu blaen hyd at y benglin – dim sgertiau lycra, denim, melfed, sidan.

Crys gwyn plaen, llewys hir neu fer wedi ei dycio mewn i drowsus neu sgert.

Sanau plaen du, gwyn neu llwyd neu teits du / naturiol gyda sgert.

Blaser swyddogol yr ysgol – opsiynol.

Esgidiau du, plaen – lledr neu PVC; oherwydd materion iechyd a diogelwch: dim sodlau, esgidiau cynfas, flip flops, esgidiau sydd yn agored yn y blaen. Caniateir ‘boots’ cyn belled a’u bod yn ffitio o dan drowsus; ni chaniateir ‘boots’ hyd at y benglin.

Cotiau – dylai rhain fod yn addas ar gyfer ysgol, hynny yw, dylent fod yn gynnes ac yn ddiddos; caniateir i rhain gael eu gwisgo ar y coridor CYN BELLED A’U BOD HEB EU CAU. Rhaid i staff weld y wisg yn glir wrth basio (am resymau diogelwch) ond mae disgwyl iddynt gael eu tynnu cyn mynd i ddosbarth, y Ffreutur a’r Llyfrgell. Ni chaniateir siacedi denim neu lledr.