POLISI GWISG YSGOL
Cafodd y polisi ei lunio trwy ymgynghori gyda disgyblion, rhieni a staff.
Rhagarweiniad:
Mae disgwyliadau uchel o safbwynt gwisg ysgol yn Ysgol Morgan Llwyd. Mae’r rheolau yn berthnasol i bob disgybl ym mlynyddoedd 7 hyd at 11.
Mae gwisg ysgol yn gosod ethos ac hinsawdd gwaith ymhlith ein disgyblion er mwyn eu galluogi i ffocysu ar ddysgu yn ogystal ac yn eu paratoi ar gyfer y byd gwaith yn y dyfodol. Mae hefyd yn ystyried iechyd a diogelgwch ein disgyblion.
Mae gwisg ysgol yn ran bwysig o’n hunaniaeth. Mae pob disgybl sydd wedi ymuno â’r ysgol wedi gwneud hyn yn gwybod bod rheolau gwisg ysgol a bydd disgwyl iddynt ddilyn y rheolau trwy wisgo’r wisg ysgol yn daclus a chyda balchder.
Mae’r polisi yn cael ei hadolygu yn reolaidd trwy ymgynghori â disgyblion, rhieni, staff a’r Llywodraethwyr. Bydd disgyblion sydd ddim yn dilyn y rheolau yn derbyn cosb yn unol â’r Llwybr Cosbau Gwisg Ysgol (sydd wedi ei lunio trwy ymgynghori gyda disgyblion). Byddem yn gweithio mewn partneriaeth â rhieni er mwyn datrus unrhyw broblemau sydd yn codi. Mae eithriadau yn ôl disgresiwn y Pennaeth yn unig; mae hyn yn cynnwys trefniadau arbennig ar gyfer tywydd poeth.
Byddem yn hynod o ddiolchgar o’ch cyd-weithrediad yn sicrhau fod eich plentyn yn dilyn rheolau gwisg ysgol.
Os yr ydych yn cael trafferth gyda darparu unrhyw agwedd o'r wisg ysgol, cysylltwch â'r Pennaeth Blwyddyn.
Cyflenwad:
Mae tei, blaser a siwmper yr ysgol a gwisg Addysg Gorfforol ar gael o:
RAM Leisure,
Stad Ddiwydiannol Whitegate,
Wrecsam.
Ll13 8UG
01978 360360 www.ramleisure.com