Eitemau eraill

Tlysau – oherwydd materion iechyd a diogelwch a phosibilrwydd o golli eiddo, ni chaniateir i ddisgyblion wisgo dim mwy nag un par o stydiau clyst i’w gwisgo yng ngwaelod y glust yn unig; ni chaniateir tlysau mewn unrhyw ran arall o’r corff. Gall ddisgyblion wisgo oriawr. Caniateir i ddisgyblion wisgo un modrwy ar bob llaw.

Gwallt – dylai fod yn lan ac yn daclus; dylai gwallt byr fod yn o leiaf gradd 2; ni chaniateir patrymau wedi eu shafio yn y gwallt, lliw gwallt na ellir fod yn naturiol, dip-dye’ na phaderau (beads).

Colur – caniateir colur sydd ddim yn amlwg; bydd gofyn i ddisgybl sydd yn gwisgo colur sydd yn amlwg i’w dynnu; ni chaniateir amrantau ffug.

Gewinedd – ni ddylai gewinedd fod yn rhy hir; caniateir i ddisgyblion wisgo paent di-liw; ni chaniateir gewinedd ffug na phaent lliw.