EBSA a Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth

Mae llawer o dystiolaeth fod gorbryder a rheoli straen gwael yn gyffredin mewn plant ag awtistiaeth a gall gorbryder waethygu yn ystod y glasoed, gan fod pobl ifanc yn wynebu rhyngweithiadau cymdeithasol cymhleth ac yn aml yn dod yn fwy ymwybodol o’u gwahaniaethau ac anawsterau rhyngberthnasol. Hyd yn hyn, ychydig iawn o ymchwil i achosion y rhai sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth ac EBSA, ond mae tystiolaeth a phrofiad yn awgrymu yn sgil y gorbryder mae plant gyda Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth yn profi, mae risg cynyddol o EBSA.

Mae’r ffactorau sy’n dylanwadu ar lefelau gorbryder yn y rhai sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth, yn yr un modd ag unrhyw blentyn, yn niferus ac yn aml yn gymhleth; yn gysylltiedig â dallineb cyd-destun, swyddogaethau gweithrediaeth, damcaniaeth meddwl cyfyngedig, anawsterau prosesu iaith, canolbwyntio ar fanylion, gwahaniaethau prosesu synhwyraidd. Mae ymchwil diweddar hefyd yn ystyried diffyg goddefgarwch i wahaniaethau fel ffactor cyfrannu allweddol i orbryder mewn plant â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth.

Bydd ysgolion yn ymwybodol eu bod yn amgylcheddau cymdeithasol cymhleth y gall blant gydag awtistiaeth ei weld yn flinedig; maent yn defnyddio egni gwybyddol yn rheoli profiad cymdeithasol a gall hyn eu gorlwytho. Yn wir, gall eu gorbryder ‘orlifo’ fel y dangosir isod, a’u rhoi mewn risg o EBSA.

O ystyried y risg cynyddol o blentyn gyda Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth yn profi lefelau uchel o orbryder a all arwain at EBSA, mae’n hanfodol fod sylw ac ymyrraeth cynnar i ddatblygu sgiliau cymdeithasol y plentyn, llythrennedd emosiynol, gwydnwch a’u gallu i hunanreoleiddio. Mae’r camau i fynd i’r afael â’r rhai wedi’u nodi isod.

Gweithio gyda’r plentyn

Mae tystiolaeth a phrofiad yn dangos y gall lefelau gorbryder mewn plant â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth, gael ei leihau drwy fabwysiadu dulliau arferion da sy’n unigryw i anghenion penodol y plentyn, gan gynnwys cymorth gweledol, strwythur, rheoli newid a chynyddu sicrwydd y diwrnod ysgol yn gyffredinol. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ar strategaethau arferion da yn adnoddau, a dylai gynnwys fod pob oedolyn sy’n gweithio gyda phlentyn yn ymwybodol o effaith eu harddull cyfathrebu.

Camau i gefnogi lleihau gorbryder

Cam 1

Dylid sicrhau fod gan yr holl oedolion sy’n gweithio gyda’r plentyn ddealltwriaeth o Gyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth a chyfathrebu’n briodol, a bod oedolion wedi gweithredu strategaethau ‘arferion’ awtistiaeth cyffredinol e.e. mae’r plentyn yn defnyddio ac yn ymgysylltu ag amserlen gweledol, cymorth gweledol perthnasol, man tawel.

Cam 2

Yn allweddol i effeithiolrwydd unrhyw ymyrraeth yw bod â dealltwriaeth gadarn o anghenion y plentyn a sut mae’r cyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth yn benodol yn effeithiol ar y plentyn. Ystyriwch ddefnyddio offer:

  • Straeon Cymdeithasol

  • Negeseuon Gweledol

Cam 3

Cynllunio a gweithredu strategaethau unigryw i ddatblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol a nodir yng ngham 2. Gall y strategaethau gynnwys y rhai a ddisgrifir yn y penodau blaenorol o’r canllaw a’r rhai a nodwyd yn yr Adran Adnoddau.

Cam 4

Adolygu effaith yr ymyraethau. Efallai, er gwaethaf arferion da ac ymyraethau, fod gorbryder y plentyn yn parhau i gynyddu gan eu rhoi mewn risg o EBSA a bydd angen gweithredu ymyraethau ychwanegol.

Nodwch bod y cyngor yn y penodau blaenorol o ran Cynllun Gweithredu hefyd yn berthnasol yma a dylid eu dilyn.

Os oes unrhyw ddangosyddion fod y plentyn mewn risg o EBSA bydd yn bwysig adeiladu darlun clir o’r union elfennau o fynychu’r ysgol sy’n cynyddu eu gorbryder, er mwyn i bob ymdrech posibl gael ei wneud i liniaru’r gorbryder gan ddefnyddio adnoddau a awgrymir yn yr Adran Adnoddau a Chymorth Lleol Ychwanegol.

Efallai y bydd yn briodol ceisio cymorth asiantaeth allanol arbenigol megis Tîm Allgymorth ASC, seicoleg addysg, Canolfannau i Deuluoedd a/neu Gweithwyr Cymdeithasol Addysg.

Gweithio gyda Rhieni

Mae nifer o rieni gyda phlant ag awtistiaeth yn adrodd eu bod yn sylwi fod eu hemosiynau eu hunain yn cael effaith ar emosiynau eu plant ac i’r gwrthwyneb. Felly, mae’n bwysig pwysleisio’r angen i ysgolion adeiladu partneriaeth cydweithredol gyda rhieni er lles gorau’r plentyn, fel y disgrifiwyd yn flaenorol.

Efallai nad yw rhieni wedi derbyn llawer o ganllawiau o ran strategaethau i gefnogi eu plentyn a dylai ysgolion ystyried cyrsiau hyfforddi a all fod ar gael i rieni e.e. Early Birds Plus. Gall sefydliadau trydydd sector ddarparu hyfforddiant, megis STANDNW (standnw.org). Maent yn cynnig mynediad at ystod o hyfforddiant yn lleol. Mae gan Awtistiaethcymru.org nifer o adnoddau ar gael ar gyfer ysgolion a rhieni.

Mae hyn yn bwysig iawn – edrychwch ar ôl eich hun, yn ogystal â’ch plentyn. Marathon yw awtistiaeth, nid sbrint. Rydych yn haeddu bod yn gyflawn, yn iach, ac yn hapus, er eich lles eich hun a lles eich plentyn. Gwenwch beth bynnag sydd ei angen i gyrraedd yno. Rhaid i rieni a gofalwyr gymryd sylw i’w anghenion emosiynol eu hunain. Gellir cael mynediad at raglenni cefnogi rhieni drwy Canolfannau i Deuluoedd, addysgu rhieni sut i ofalu am eu hunain er mwyn bod ag iechyd meddyliol a chorfforol gorau i helpu eu plentyn, ac addysgu strategaethau iddynt i ddatblygu gwydnwch emosiynol eu plentyn.