Bwriad cynllun Barefoot Computing yw helpu athrawon ysgol gynradd i ymbaratoi ar gyfer agwedd newydd y cwricwlwm cyfrifiadurol, sef cyfrifiadureg.
Casgliad o weithgareddau sydd am ddim yw CS Unplugged sydd yn addysgu cyfrifiadureg trwy gemau a chwisiau deniadol sy’n defnyddio cardiau, cortyn, creonau a llawer o redeg o amgylch y lle .