Beth yw codio?
Datrys problemau a modelu yw un o ddau elfen sy’n rhan o’r Llinyn ‘Data a Meddwl cyfrifiadurol’ o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Mae Datrys problemau a modelu yn ymwneud â defnyddio meddwl cyfrifiadurol i gynllunio a chael atebion i broblemau. Un agwedd o ddatrys problemau a modelu yw rhaglennu, sydd hefyd yn cael eu galw’n codio. Dyma’r broses o roi cyfarwyddiadau i gyfrifiadur gan ddefnyddio iaith benodol er mwyn gallu cyflawni tasg neu ddatrys problem.
Beth yw Wythnos Genedlaethol Codio?
Mae'r Wythnos Genedlaethol Codio yn ddigwyddiad blynyddol sydd wedi ei greu i helpu oedolion a phlant ddatblygu eu sgiliau codio. Dechreuodd Wythnos Genedlaethol Codio yn 2014 ac eleni mae'n cael ei gynnal rhwng y 15/9/25 - 21/9/25. YN ANFFODUS DYMA'R FLWYDDYN OLAF FYDD YR WYTHNOS CODIO CENEDLAETHOL YN CAEL EI GYNNAL. Dyma gyfres o syniadau a gweithgareddau gallwch eu defnyddio i hyrwyddo'r Wythnos Godio yn eich ysgol chi: