Crëwyd y canllaw hwn gan International Links Global Ltd (ILG). Corff trefnu sector ar gyfer Taith yw ILG. Ein rôl yw cefnogi'r sector ysgolion i gael mynediad at gyllid Taith ar gyfer cyfnewid dysgu rhyngwladol. Ariennir Taith gan Lywodraeth Cymru.
Mae Taith yn cynnig ‘Byd newydd o gyfleoedd sy’n mynd â Chymru i’r byd a dod â’r byd i Gymru’.
Mae Taith yn cefnogi cyfleoedd a allai newid bywydau dysgwyr a staff i deithio dramor a phrofi bywyd ysgol mewn gwlad arall. Mae ymgysylltu â phartneriaid rhyngwladol yn gyffrous ond mae’n bosibl y bydd rhai ysgolion yn teimlo wedi’u llethu gan y posibiliadau ac yn ansicr ble i ddechrau.
Pwrpas y wefan hon yw rhoi arweiniad ac awgrymiadau i ysgolion ar ddod o hyd i bartneriaid tramor ar gyfer eu prosiect Taith.
BLE I DDECHRAU?!