Sesiynau Wyneb i Wyneb


Mae meithrin ymddiriedaeth a pherthnasoedd rhwng athrawon a dysgwyr yn allweddol i sicrhau llwyddiant unrhyw gwrs e-sgol.  

 

5 Ways to Build Relationships in the Virtual (and In-person) Classroom | Carney Sandoe & Associates 

 

Bydd y sesiynau wyneb i wyneb yn galluogi athrawon feithrin perthnasoedd gyda'r dysgwyr, gosod disgwyliadau ac addysgu’n uniongyrchol gorfforol i’r dysgwyr. 

Bydd sesiynau wyneb yn wyneb yn cael eu hamserlennu ar ddechrau'r flwyddyn addysgol.

Bydd dyddiadau’r sesiynau wyneb yn wyneb hyn yn cael eu pennu’n derfynol rhwng e-sgol, yr ysgolion a’r awdurdod lleol, gydag amserlen o ddyddiadau’n cael eu rhannu i bob ysgol. 

 

*Yn sgil natur rhai cyrsiau e-sgol, efallai y trefnir mwy o sesiynau wyneb i wyneb na chyrsiau eraill. Gwneir hyn drwy drafodaethau rhwng yr ysgolion perthansol.* 

 

*Mewn achosion pan na ellir trefnu sesiynau wyneb i wyneb, bydd rhaid cyfathrebu’r wybodaeth yn llawn i'r ysgolion a’r dysgwyr perthnasol. Ar adegau fel hyn, dylid defnyddio strategaethau amrywiol i sicrhau tegwch yn yr addysgu gan wneud defnydd o sesiynau 1 i 1 arlein ac ati.*
 

Bydd trefniadau cludiant y dysgwyr yn cael eu trefnu gan eu hysgolion arferol. 



e-sgol