Amser Rhydd Pwrpasol
Dyma gyfle i ddod i adnabod y dysgwyr yn well.
Rhoi mynediad i’r dysgwyr i’r wers 10 munud cyn amser dechrau swyddogol er mwyn cynnal trafodaethau answyddogol. Pwrpas hyn yw bod yn ffordd o ffurfio perthynas gydweithredol rhwng yr athrawon a’r dysgwyr a’r dysgwyr a’i gilydd.
Pethau i'w Cofio:
Bydd angen gosod ffiniau disgyblaeth yma.
Syniadau:
Speed dating – 10 cwestiwn Ice breaker activities.
Rhannu ffaith ddiddorol am eu hunain.
Esboniad o beth yw eu gobeithion at ddiwedd eu cyfnod yn y chweched dosbarth.
Dangos/ cyflwyno anifail anwes. Gwybodaeth am yr anifail
Chwarae gemau “torri’r ia” e.e. catchphrase
Defnyddio Quizlet
Trafodaethau:
Pa ddarn o newyddion sydd wedi sefyll allan i ti yn ystod yr wythnos ddiwethaf?
Pa ran o’r cwrs sydd fwyaf diddorol i ti hyd yma?
Sut mae darn o gerddoriaeth yn teimlo i ti?