Strategaethau Addysgu Rhithiol
Nod yr adnodd hwn yw cynorthwyo athrawon sy'n darparu cyrsiau e-sgol er mwyn:
Magu perthynas weithiol effeithiol gyda'r dysgwyr
Creu awyrgylch ble mae'r dysgwyr yn teimlo'n gysurus ac yn hyderus i gyfrannu'n effeithiol i'r dysguSicrhau Dysgu Gweithredol effeithiol wrth fabwysiadu dull hybrid o gyflwyno'u cyrsiau
Sicrhau defnydd effeithiol o'r strategaethau dysgu sy'n caniatau Dysgu Gweithredol - dysgwyr yn canfod gwybodaeth, ei ddefnyddio ac adlewyrchu arno
Magu Perthynas Effeithiol:
Dysgu Gweithredol:
Trafodaethau Anghydamserol
Mae Flip yn blatfform trafod ar fideo sy’n caniatáu athrawon a myfyrwyr i ryngweithio drwy ymatebion fideo byr
Asesu ar Gyfer Dysgu
Mae Mentimeter yn offeryn cyflwyno sy'n defnyddio cwisiau, arolygon barn a chymylau geiriau i helpu i ennyn diddordeb myfyrwyr yn ystod sesiwn ryngweithiol.
Ystafelloedd Trafod
Mae Ystafelloedd Trafod Microsoft Teams yn nodwedd sy'n caniatáu i westeiwr (Athro) cyfarfod Teams rannu'r mynychwyr (Myfyrwyr) yn grwpiau llai.
Cydweithio
Gallwch gydweithio ar ddarn o waith neu ddangos sut mae'r athro wedi gweithio problemau allan mewn amser real gan ddefnyddio'r bwrdd gwyn rhyngweithiol.
JAMBOARD
Mae Jamboard yn fwrdd gwyn digidol sy'n eich galluogi i gydweithio mewn amser real gan ddefnyddio naill ai'r ddyfais Jamboard, porwr gwe neu ap symudol.
Cwestiynau?
Cysylltwch ag ymholiadau@e-sgol.cymru am ragor o wybodaeth.