Darllenwch isod beth mae dysgwyr blwyddyn 7 a'n Prif Swyddogion yn dweud am eu profiadau nhw yn Ysgol Y Strade.

 Disgyblion Blwyddyn 7

Cyngor Blwyddyn 7 2022-23

 Prif Swyddogion

"Trwy gydol fy amser yn Ysgol Y Strade, rwy’n falch iawn i ddweud fy mod wedi derbyn llond llaw o gyfleoedd a phrofiadau gwerthfawr. Rwyf wedi mynychu sawl taith yn y maes chwaraeon, yn ogystal â theithiau academaidd sydd wedi fy helpu yn ystod fy astudiaethau yn yr ysgol. Fel prif swyddog, rwyf yn gwerthfawrogi’r teimlad teuluol sydd gan yr ysgol, ac yn holl ddiolchgar i’r athrawon ymroddedig sydd wastad yna os oes angen unrhyw gymorth. Mae’r chwe blynedd diwethaf yn yr ysgol wedi caniatáu i mi fanteisio ar gyfleoedd bythgofiadwy, dysgu sgiliau newydd a thyfu fel unigolyn. Ar ôl gorffen yn Ysgol Y Strade, hoffwn astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd."    

Kahlen Jones, Prif Swyddog 2023-24

"Yn ystod fy nhaith drwy Ysgol y Strade, mae’r ysgol wedi rhoi profiadau niferus i mi yr wyf yn trysori, ac sydd wedi fy ngalluogi i ddatblygu sgiliau er mwyn fy mharatoi ar gyfer bywyd yn y brifysgol. Mae'r profiadau hyn hefyd wedi gwneud paratoi fy nghais UCAS eleni yn broses hawdd gan fod nifer o'r sgiliau yma yn drosglwyddiadwy i fy nghwrs delfrydol, sef Biocemeg. Mae’n anrhydedd i mi hefyd gael fy newis i fod yn Brif Swyddog eleni, gan fy mod yn awyddus i weithredu fel model rôl cadarnhaol i fyfyrwyr iau yr ysgol a sicrhau bod eu hamser yn Y Strade mor werthfawr â fy mhrofiad i."

James Thomas, Prif Swyddog 2023-24

Swyddogion Ysgol Y Strade 2023-24