🔗 Gwybodaeth 

Gwisg Ysgol (o Fedi 2023)

Yn dilyn cyfres o drafodaethau, holiaduron ac etholiad i benderfynu ar newidiadau gwisg gan rhanddeiliaid yr ysgol, wnaethon ni benderfynu gwneud addasiadau ar gyfer gwisg ysgol swyddogol Y Strade o fis Medi 2023.

Bydd dysgwyr bl.7 sy'n cychwyn yn Medi 2024 ond yn gallu archebu y gwisg newydd (gwelir isod).


Mae’r newidiadau yma ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 Medi 2023 a Medi 2024. Mae croeso i unrhyw ddisgybl o flwyddyn 9 – 11 wisgo’r wisg newydd os y dymunir.


Mae'r wisg newydd yn rhatach i rieni ei phrynu ac yn un rhyw, yn unol â pholisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion Llywodraeth Cymru, gweler y ddolen am fwy o wybodaeth ynglŷn â chanllawiau Llywodraeth Cymru https://www.llyw.cymru/polisiau-gwisg-ysgol-ac-edrychiad-disgyblion-canllawiau-ar-gyfer-cyrff-llywodraethu-html


Mi fyddwch yn medru prynu’r wisg o ddau gyflenwad lleol, Picton Sports a Toppers, yn ogystal â siopau stryd fawr y dref. Noder bydd angen bathodyn yr ysgol ar bob siwmper. Mae cwmni Picton Sports a Toppers yn cynnig y gwasanaeth yma am bris rhesymol.


Cit Chwaraeon

Crys T

Hwdi

Legins

Trowsus

Siorts Hamdden

Siorts

Sanau Coch

Ble i Brynu'r Wisg?

Ni Chaniateir

Ni chaniateir i ddisgybl wisgo:

💡TIP: 

Cofiwch labeli bob eitem o wisg ysgol eich plentyn. Mae achosion yn gallu codi lle mae disgybl yn colli dilledyn, yn enwedig cotiau, sy'n gallu bod yn eitemau drud. Heb enw clir, mae'n amhosib sicrhau bod y dilledyn yn cael ei ddychwelyd i'r person cywir.

🔗 Gwybodaeth