Croeso


Diolch am ddangos diddordeb yn Ysgol y Strade. Byddwch wedi cefnogi addysg Gymraeg ers i chi benderfynu anfon eich plentyn i dderbyn addysg gynradd Gymraeg, ac felly rydych yn gyfarwydd ag ethos Cymreig, cynnes a chyfeillgar ysgolion Cymraeg. Bydd yr ysgol yn darparu amgylchedd diogel a gofalgar lle bydd pob disgybl yn cael y gefnogaeth a’r anogaeth i ddatblygu’n gymdeithasol ac yn ddeallusol.

Mae llunio partneriaeth rhwng y cartref a’r ysgol yn allweddol i ddatblygiad addysgol eich plentyn. Gyda’n gilydd gallwn sicrhau fod pob plentyn yn cael y ddarpariaeth orau bosib a fydd yn rhoi’r dechreuad gorau mewn bywyd iddynt.

 

Neges gan y Pennaeth - Mr Geoff Evans

Mae’n bleser gennyf ymestyn croeso cynnes iawn i chi i Ysgol Y Strade.


Mae Ysgol Y Strade yn lle arbennig iawn gyda thraddodiad hir o safonau uchel ym mhob maes a lleoliad sydd wrth galon y gymuned leol. Rydym yn hynod falch o’n dysgwyr sy’n datblygu’n bobl ifanc hyderus ac sy’n barod i wneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas.


Arwyddair yr ysgol yw ‘Nid da lle gellir gwell’ a dyma yw’r ffordd o fyw yn Ysgol Y Strade, wrth i ni gydweithio i sicrhau bod pob un o’n dysgwyr yn ffynnu. Dyma ein gweledigaeth ar gyfer pob plentyn, beth bynnag eu man cychwyn, diddordebau neu ddoniau. Rydym yn credu ym mhotensial pob person ifanc i lwyddo ac yn rhoi ein holl egni i sicrhau eu bod yn gwneud hynny mewn amgylchedd gofalgar a strwythuredig lle mae’r Gymraeg yn sylfaen i’n bodolaeth. Mae ein hymrwymiad i sicrhau rhagoriaeth yn seiliedig ar addysgu o ansawdd uchel a phwyslais cryf ar les, gofal a chymorth. Mae dysgwyr yn Ysgol Y Strade yn profi llu o gyfleoedd allgyrsiol sy’n rhychwantu’r celfyddydau, cerddoriaeth, drama a chwaraeon. Mae’r bobl ifanc sy’n mynychu Ysgol Y Strade yn hynod falch o’u hysgol ac rydym yn hynod falch o’r hyn y maent yn eu cyflawni.


Mae llwyddiant mewn unrhyw ysgol yn seiliedig ar sefydlu amryw o bartneriaethau ac yn hollbwysig ymhlith y rhain yw’r bartneriaeth rhwng yr ysgol a'i dysgwyr. Ymdrechwn i sicrhau bod ein dysgwyr yn cael eu cefnogi ar bob achlysur a’u bod yn teimlo’n ddiogel o fewn amgylchedd yr ysgol. Yn gyfnewid am hyn, gofynnwn iddynt gymryd rhan weithredol yn eu haddysg a chymryd cyfrifoldeb amdani.


Ymfalchїwn yn yr amgylchedd cyfeillgar, cynnes a chroesawgar sy’n bodoli yn ein hysgol. Fel yr unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Llanelli yn ogystal â’r unig ysgol gyda Chweched Dosbarth, rydym yn ymdrechu i sicrhau bod taith y dysgwr gyda ni, boed honno am bum mlynedd neu saith, yn caniatáu i’n pobl ifanc fynd allan i’r byd yn hyderus ac yn barod i gyfrannu rhywbeth newydd iddo.


Hyderaf y bydd ein gwefan yn ddefnyddiol i chi a'ch bod yn cael ymdeimlad o werthoedd a naws deuluol yr ysgol.


Diolch, 

Mr. Geoff Evans

Pennaeth.

Neges i Ddysgwyr Blwyddyn 6 gan Bennaeth Blwyddyn 7 - Ms Catrin Hughes

Helo mawr i ddisgyblion Blwyddyn 6!


Miss Catrin Hughes ydw i a fi yw Pennaeth Blwyddyn 7. Gobeithio eich bod chi'n iawn!  Edrychaf ymlaen i'ch croesawu i Ysgol y Strade cyn bo hir. 


Dwi'n siwr bod gennych deimladau cymysg am ddod yma- rhai yn nerfus, eraill yn gyffrous, a rhai yn ansicr efallai? Peidiwch â phoeni dim! Mae'r teimladau hyn yn hollol gyffredin gan ddisgyblion o Flwyddyn 6 ac ar ddechrau cyfnod Blwyddyn 7. Rydym yma i'ch helpu. Dewch i gael sgwrs unrhywbryd gyda fi, ac fe wnaf fy ngorau i ddatrys unrhyw broblem. Mae drws A16 bob amser ar agor led y pen. 


Mae hwn yn gyfnod cyffrous, ac yn ddechrau newydd i chi. Manteisiwch ar bob cyfle posib yn yr ysgol, y clybiau, y teithiau a'r gweithgareddau all-gyrsiol, a buan y gwelwch bod y Strade yn ysgol hapus a chyfeillgar, ac rydym yn un teulu mawr yma. 

 

Pob hwyl i chi am nawr. Wela'i chi'n fuan! 

Ms. Catrin Hughes

Pennaeth Bl 7.