Beth yw Partner Gwella Lleoliadau Nas Cynhelir y GCA?
Mae Partneriaid Gwella Lleoliadau nas Cynhelir y GCA yn rhoi cymorth i ymarferwyr ac arweinwyr ar addysgu a dysgu effeithiol i blant ifanc. Mae hyn yn cynnwys cyngor ac arweiniad ar ymarfer ac addysgeg Dysgu Sylfaen a sut i fonitro effaith hyn ar ddysgu a datblygiad plant. Mae Partneriaid Gwella Lleoliadau nas Cynhelir yn darparu cymorth pwrpasol i leoliadau i sicrhau bod pob plentyn yn cael profiadau difyr ac ysgogol sy'n cefnogi eu dilyniant yn dda. Mae tua 80 o Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar draws y pum awdurdod lleol yn cael eu cefnogi gan staff craidd y GCA o ysgolion partner. Mae Partneriaid Gwella Lleoliadau nas Cynhelir yn dylunio, rheoli a chyflwyno cynnig dysgu proffesiynol blynyddol ar gyfer ymarferwyr mewn lleoliadau nas cynhelir a ariennir. Mae’r cynnig dysgu proffesiynol yn sicrhau bod pob lleoliad ar draws y rhanbarth yn gallu darparu addysg gynnar o ansawdd uchel.
Mae'r partneriaid gwella yn cynllunio ac yn cyflwyno dysgu proffesiynol yn unol ag anghenion newidiol lleoliadau nas cynhelir y rhanbarth. Mae dysgu proffesiynol yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol, gan adlewyrchu’r arfer sy’n datblygu mewn lleoliadau a diweddariadau cenedlaethol i’r cwricwlwm ac addysgeg.
Mae gan bob awdurdod lleol PG arweiniol sydd mewn cysylltiad rheolaidd â swyddogion yr ALl sy'n gyfrifol am y Blynyddoedd Cynnar.
Blaenau Gwent: Laura Jones - Laura.Jones@sewaleseas.org.uk
Caerffili: Laura Jones - Laura.Jones@sewaleseas.org.uk
Sir Fynwy: Ellen Hobday - Ellen.Hobday@sewaleseas.org.uk
Casnewydd: Sarah Mayo - Sarah.Mayo@sewaleseas.org.uk
Torfaen: Kate Aherne - Kate.Aherne@sewaleseas.org.uk