Beth yw lleoliad nas cynhelir?

Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnig addysg ran-amser am ddim i bob plentyn tair a phedair oed yn y tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd. Gall awdurdodau lleol gynnig y lleoedd hyn mewn ysgolion a gynhelir a lleoliadau meithrin nas cynhelir. Mae dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd, neu ysgol feithrin yn enghreifftiau o ddarpariaeth feithrin a gynhelir. Mae meithrinfeydd dydd a chylchoedd chwarae, sy’n cael cyllid gan yr awdurdod lleol i ddarparu addysg feithrin, yn enghreifftiau o leoliadau nas cynhelir. 

Lle cyflwynir darpariaeth mewn lleoliadau nas cynhelir, darperir cyllid am o leiaf 10 awr yr wythnos am hyd at 38 wythnos o’r flwyddyn, fel arfer dros bum sesiwn yr wythnos. Mae'r awdurdod lleol yn darparu cyllid yn uniongyrchol i'r lleoliad ar gyfer pob plentyn sy'n cymryd lle a ariennir.