Beth yw Lleoliad Arweiniol nas Cynhelir?
Mae gan y GCA bedwar lleoliad arweiniol nas cynhelir sy’n darparu cymorth ychwanegol i arweinwyr mewn lleoliadau, yn ogystal â’r hyn a ddarperir gan Bartneriaid Gwella. Mae gan y lleoliadau hyn hanes profedig o arwain a rheoli newid yn effeithiol. Mae lleoliadau arweiniol yn cyflwyno dysgu proffesiynol yn flynyddol, gan gynnwys datblygiad proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gyfer arweinwyr ar draws y rhanbarth ar draws pedair sesiwn. Mae Lleoliadau Arweiniol nas Cynhelir yn rhannu dulliau o arwain a rheoli y gellir eu haddasu gan leoliadau unigol, nid ydym yn mynnu bod un ateb i bawb.
Lle bo'n briodol ac yn angenrheidiol, mae Partneriaid Gwella yn brocera cymorth Lleoliadau Arweiniol nas Cynhelir pwrpasol i arweinwyr lleoliadau newydd, gan eu helpu i sefydlu systemau a phrosesau a fydd yn gwella arweinyddiaeth a meithrin tîm.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu modiwl a ffeithlun ar arweinyddiaeth y gellir gweld y ddau ohonynt yma: