Canllaw Trosglwyddo Gwybodaeth Carfanau Iaith Ysgolion Môn - Dyddiad Cwblhau Mai 19
Anglesey School Language Cohort Information Transfer Guide Completion Date May 19
Newyddlen Diogelu Data Ysgolion – Tymor Gwanwyn 2023
Schools Data Protection Newsletter – Spring Term 2023
AROLWG CLUDIANT YSGOLION
SCHOOL TRANSPORT SURVEY
Gwerthfawrogwn pe gallech atgoffa rhieni bod yr Arolwg Cludiant Ysgol yn cau ar 28 Ebrill a gofynnwn yn garedig i chi rannu’r linc ganlynol os gwelwch yn dda:
It would be appreciated if schools could remind parents that the School Transport Survey closes on 28 April and we kindly ask you to share the following link please:
Tîm Dysgu Sylfaen
Foundation Learning Team
Rydym yn eich annog i rannu’r wybodaeth hon â rhanddeiliaid/ymarferwyr eraill yn eich rhwydweithiau y gallai hyn fod o gymorth iddynt.
Yn rhifyn heddiw:
Crynodeb o'r adroddiad ymatebion: Ymgynghoriad ar drefniadau asesu drafft ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.
Nodyn atgoffa - Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru – 24 i 30 Ebrill.
Adnodd – dyfodol adnoddau i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.
Crynodeb o'r adroddiad ymatebion: Ymgynghoriad ar drefniadau asesu drafft ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
Roedd yr ymgynghoriad ar drefniadau asesu drafft ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn cael ei gynnal o Medi – Rhagfyr 2022. Cafodd y Crynodeb o'r adroddiad ymatebion ei gyhoeddi ar 20 Ebrill ac mae'n cynnwys canfyddiadau'r ymgynghoriad.
Yn dilyn yr ymgynghoriad rydym yn mireinio'r trefniadau asesu cyn cyhoeddi'n derfynol yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.
Nodyn Atgoffa - Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru – 24 i 30 Ebrill
Y thema eleni yw dysgu egnïol yn yr awyr agored, gan annog dysgwyr o bob oed i ddod yn unigolion iach, hyderus.
I gael mwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan cliciwch yma.
Wrth alluogi dysgu a chwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, rydym yn annog plant i ddysgu drwy gysylltu â natur a chael profiadau mewn amgylcheddau effeithiol. Ac mae dysgu yn yr awyr agored yn arbennig o bwysig i'n dysgwyr ieuengaf.
Mae hwn yn gyfle gwych i barhau â'r dysgu. Beth am edrych ar y dysgu proffesiynol: modiwl dysgu sylfaen i ysgolion a lleoliadau am ddysgu yn yr awyr agored i gael gwybod mwy neu i weld beth mae ysgolion a lleoliadau eraill yn ei wneud:
Astudiaeth Achos Meithrinfa ‘Llandogo Early Years
Astudiaeth Achos Ysgol Fabanod Ton Pentre
Adnodd – dyfodol adnoddau i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru
Mae cwmni newydd wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru i gomisiynu adnoddau o’r ansawdd uchaf. Daeth yn weithredol ar 1 Ebrill a bydd yn cychwyn drwy gael staff yn eu lle, ynghyd ag ymgynghori ag ymarferwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, er mwyn datblygu model effeithiol ar gyfer comisiynu a sicrhau ansawdd adnoddau.
We encourage you to share this information with other stakeholders/practitioners in your networks who may also find this information beneficial.
In today’s issue:
Summary of responses report: Consultation on the draft assessment arrangements for funded non-maintained nursery settings.
Reminder - Wales Outdoor Learning Week - 24 to 30 April.
Adnodd – the future of resources to support Curriculum for Wales
Summary of responses report: Consultation on draft assessment arrangements for funded non-maintained nursery settings
The consultation on the draft assessment arrangements for funded non-maintained nursery settings ran from September - December 2022. The Summary of responses report was published on 20 April and includes the findings from the consultation.
Following the consultation, we are refining the assessment arrangements before final publication ready for the new academic year.
Reminder - Wales Outdoor Learning Week – 24 to 30 April
The theme this year is active learning in the outdoors, encouraging learners of all ages to become healthy, confident individuals.
For more information on how to get involved, click here.
By enabling learning and curriculum for funded non-maintained nursery settings, we encourage children to learn through engaging experiences in effective environments with outdoor learning being particularly important for our youngest learners.
This is a great opportunity to continue the learning. Why not take a look at the professional learning: foundation learning for schools and settings outdoor learning module to find out more or to see what other schools and settings are doing:
Llandogo Early Years Case Study
Ton Pentre Infants School Case Study
Adnodd – the future of resources to support Curriculum for Wales
A new company has been set up by Welsh Government to commission high quality resources. It became operational on 1 April and will begin by getting staff in place and consulting with practitioners, learners and other key stakeholders to develop an effective model for commissioning and quality assuring resources.
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch Ysgolion
Schools Health and Safety Training
Mae gofyniad corfforaethol i sefydlu’r lefel o hyfforddiant iechyd a diogelwch a gwblheir gan bob gwasanaeth/lleoliad er mwyn rhoi sicrwydd eu bod yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol.
Byddem yn gwerthfawrogi pe bai pob ysgol yn rhoi enwau'r aelodau staff perthnasol drwy gwblhau'r holiadur isod erbyn 22ain o Fai:
https://www.smartsurvey.co.uk/s/PE6PZA/
There is a corporate requirement to establish the level of health and safety training completed by each service/placement to provide assurance that they comply with legislative requirements.
We would appreciate if each school could provide the names of relevant members of staff by completing the questionnaire below by the 22nd of May:
Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg
Modernising Learning Communities and Developing the Welsh Language Strategy
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad terfynol ac argymhellion IICSA
Written Statement: Welsh Government response to IICSA final report and recommendations
Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi rhoi diweddariad ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad terfynol ac argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol.
Gallwch weld y datganiad yma:
Roedd yr ymchwiliad, a sefydlwyd ym mis Mawrth 2015, yn ceisio ymchwilio i ddarganfod a yw cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill yng Nghymru a Lloegr wedi cyflawni eu cyfrifoldebau’n briodol i ddiogelu plant rhag camdriniaeth a chamfanteisio’n rhywiol.
Cafodd yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi ym mis Hydref 2022 a gellir ei weld yma:
https://www.iicsa.org.uk/cymraeg/yr-adroddiad.html
Er bod yr ymchwiliad nawr wedi dod i ben, ni allwn anghofio am y dioddefwyr a’r goroeswyr niferus na wnaeth sefydliadau lwyddo i’w diogelu. Mae rhai o’r bobl hyn wedi rhannu eu profiadau fel rhan o Brosiect Gwirionedd IICSA, i’n helpu ni i ddysgu a sicrhau gwell yn y dyfodol.
Yng Nghymru, rydym wedi cymryd camau sylweddol i gywiro methiannau’r gorffennol a gwyddom na allwn laesu dwylo yn ein hymdrechion i atal niwed yn y dyfodol.
Diolch am eich gwaith a’ch ymroddiad i wneud popeth y gallwn i amddiffyn a diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl.
The Deputy Minister for Social Services has provided an update on the Welsh Government’s response to the final report and recommendations of the Independent Inquiry into Child Sexual Abuse.
You can access the statement here:
The inquiry, established in March 2015, set out to investigate whether public bodies and other institutions in England and Wales have appropriately fulfilled their responsibilities to protect children from sexual abuse and exploitation.
Its final report was published in October 2022 and can be accessed here:
https://www.iicsa.org.uk/final-report
Whilst the inquiry has now concluded its activities, we cannot forget the many victims and survivors who were let down and failed by institutions; some of whom shared their experiences, as part of IICSA’s Truth Project, to help us learn and do better.
In Wales, we have made considerable strides to right past failures and know we cannot be complacent to in our efforts to prevent future harms.
I thank you for your work and dedication to doing all we can to protect and ensure the safety of children and adults at risk.
Ymchwil Newydd – Arferion Addysgu Cyrhaeddiad Cymysg
New Research - Mixed Attainment Teaching Practice
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil newydd i adnabod ehangder dysgu ac addysgu cyrhaeddiad cymysg a ble mae'n digwydd yng Nghymru. Rydym eisiau deall manteision a heriau gwahanol ddulliau gweithredu, a pha ddysgu proffesiynol yn y maes hwn fyddai'n ddefnyddiol.
Er bod llawer iawn o ymchwil wedi'i wneud yn y maes hwn mewn gwledydd eraill, ychydig iawn sydd wedi'i wneud hyd yma i gynnig cipolwg penodol ar y sefyllfa yng Nghymru o ran addysgu cyrhaeddiad cymysg. Mae pob un ohonom yn cydnabod pwysigrwydd cyd-destun ym mhob agwedd ar addysg a byddem yn gwerthfawrogi eich cyfraniad i astudiaeth a fydd yn caniatáu i ni ddod i gasgliadau ac argymhellion a fydd yn ddefnyddiol i'r system addysg ac i ymarferwyr yng Nghymru.
Gwahoddir ymarferwyr i gyfrannu at yr ymchwil hon drwy gymryd rhan mewn holiadur ysgolion cynradd neu holiadur ysgolion uwchradd sydd wedi’u creu ac yn cael eu gweinyddu gan dîm o ymchwilwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mewn cydweithrediad â Choleg y Brifysgol, Llundain. Y dyddiad cau yw 21 Mai 2023.
The Welsh Government has commissioned new research to identify the extent of mixed attainment teaching and learning and where it is taking place in Wales. We want to understand the advantages and the challenges of different approaches, and what professional learning in this area would be useful.
While a great deal of research has been conducted in this area in other countries, very little has yet been done to offer a Wales-specific insight into mixed attainment teaching. We all recognise the importance of context in all aspects of education and would very much value your contribution to a study which will allow us to draw out conclusions and recommendations that will be useful for the education system and for practitioners in Wales.
Practitioners are invited to contribute to this research by taking part in this primary school survey or this secondary school survey, that have been devised and are administered by a team of researchers from University of Wales Trinity St David in conjunction with University College, London. The deadline for completion is 21 May 2023.
Grant Tesco
Tesco Grant
Efallai y byddwch wedi clywed am y cynllun £5 miliwn newydd y mae Tesco yn ei gynnig i ysgolion. Mae Tesco wedi bod yn dyrannu grantiau gyda'i gynllun tocynnau glas ers amser maith bellach, ond mae newydd gyhoeddi menter newydd i roi grantiau i ysgolion, sy'n wych! Mae hyn yn galluogi Tesco i roi dechrau mwy iach ac actif i fywyd plant. Tybed a fyddai hwn yn rywbeth y gallech ei hyrwyddo mewn ysgolion yn eich rhanbarth neu ei anfon ymlaen i unrhyw un a fyddai o bosibl yn cael budd? Y dyddiad cau ar gyfer y rownd hon o bleidleisio yw yr 22ain o Fai, ond mae'n gynllun parhaus drwy gydol y flwyddyn.
Yr oll y mae'n rhaid i ysgolion ei wneud yw ymweld â https://tescocommunitygrants.org.uk/apply-for-a-grant/ i wneud cais, hyd yn oed os ydynt wedi ymgeisio o'r blaen. Rwyf hefyd wedi atodi poster yn esbonio'n cynllun at sylw ysgolion, yn ogystal â thaflen wybodaeth. Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw help, diolch!
You might have seen in the news about the new £5 million scheme Tesco is offering to schools. Tesco have been giving out grants with their blue token scheme for a long time now but they’ve just announced a new push to give grants to schools, which is fantastic! This allows Tesco to give children a healthier, more active, stronger start in life. I just wondered if this was something you could help promote to schools in your region or forward onto anyone you think might benefit? The deadline for this round of voting is May 22nd but it is a rolling scheme throughout the year.
All schools need to do is visit: https://tescocommunitygrants.org.uk/apply-for-a-grant/ to apply, even if they’ve applied before. I have also attached a poster explaining the scheme for schools to see as well as an info sheet. I’d really appreciate any help, thank you!
WythnosDysguAwyrAgoredCymru
WalesOutdoorLearning Week
Dysgwch fwy - https://bit.ly/40tzNwb
Learn more - https://bit.ly/3KNmWyM
Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau/ Children, Education, Lifelong Learning and Skills
Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales
C