25.01.23
Gweledigaeth y Gwasanaeth Dysgu:
Yr Ynys Ddysg gyda Chymunedau sy’n Dysgu, Gwasanaeth Dysgu ac Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu
Gweledigaeth y Gwasanaeth Dysgu:
Yr Ynys Ddysg gyda Chymunedau sy’n Dysgu, Gwasanaeth Dysgu ac Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu
PWYSIG - Diogelwch Hwb: Diweddariad dilysu aml-ffactor (MFA)!
Ymestyn rhoi Dilysu Aml-ffactor ar waith tan 3 Mawrth 2023.
IMPORTANT - Hwb security: Multi-factor authentication (MFA) update!
Enabling MFA extended to 3 March 2023.
Fel y cynghorir yn yr erthygl newyddion ddiweddaraf, bydd dilysu aml-ffactor (MFA) yn cael ei roi ar waith fel rhagosodiad ar gyfer pob aelod o staff a phob deiliad cyfrif a grëwyd y tu allan i’r system gwybodaeth reoli ar draws Hwb o ddydd Gwener 3 Mawrth 2023 ymlaen. Bydd hyn yn newid y ffordd rydych yn mewngofnodi i Hwb y tu allan i’ch ysgol neu eich rhwydwaith dibynadwy, e.e. oddi ar y safle.
Mae llawer o ysgolion a sefydliadau bellach wedi rhoi dilysu aml-ffactor ar waith i’w deiliaid cyfrif nad ydynt yn ddysgwyr. Fodd bynnag, mae llawer nad ydynt wedi gwneud hynny eto ac mae’r dyddiad cau yn prysur agosáu. Bellach, dim ond 6 wythnos sydd nes y bydd dilysu aml-ffactor yn cael ei roi ar waith.
Y dyddiad cau ar gyfer cyfrifon llywodraethwyr yw dydd Gwener, 30 Mehefin 2023.
Dylai penaethiaid, pencampwyr digidol ysgolion, staff, llywodraethwyr, gweinyddwyr Hwb baratoi fel a ganlyn:
Cynllunio a threfnu i roi dilysu aml-ffactor ar waith ymhell cyn y dyddiad cau, sef 3 Mawrth 2023.
Ymgyfarwyddo â dilysu aml-ffactor a sut i fewngofnodi i Hwb y tu allan i rwydwaith dibynadwy eich ysgol neu eich sefydliad ar ôl iddo gael ei roi ar waith.
Dysgu mwy am we-rwydo a chwblhau’r modiwl hyfforddiant ymwybyddiaeth gwe-rwydo byr.
Dechrau’r sgwrs am seiberddiogelwch mewn ysgolion.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen cymorth arnoch, dilynwch eich trefniadau cymorth TG lleol yn yr ysgol neu drwy eich awdurdod lleol yn y lle cyntaf. Mae cyngor ac arweiniad hefyd ar gael gan Ddesg Gwasanaeth Hwb: cymorth@hwbcymru.net / 03000 25 25 25.
As advised in the last news article, multi-factor authentication (MFA) will be turned on as a default setting for all staff and non-MIS accounts across Hwb from Friday 3 March 2023. This will change the way you log in to Hwb outside your school or trusted network e.g. off-site.
While many schools and organisations have now turned on MFA for their non-learner account holders, many have yet to do so and the deadline date is fast approaching. There are now only 6 weeks before MFA is turned on.
The deadline date for governor accounts is Friday 30 June 2023.
Headteachers, school digital champions, staff, governors, Hwb administrators should prepare as follows:
Plan and arrange to turn on MFA well before the deadline date of 3 March 2023.
Familiarise yourself with MFA and how to log in to Hwb outside your school or organisation trusted network once it has been turned on.
Learn more about phishing and complete the short phishing awareness training module.
Start the conversation about cyber security in schools.
If you have any queries or require assistance, please follow your local IT support arrangements in school or through your local authority in the first instance. Advice and guidance are also available from the Hwb Service Desk: support@hwbcymru.net / 03000 25 25 25.
Mis y Plentyn Milwrol EBRILL 2023
Month of the Military Child APRIL 2023
Mae tîm SSCE Cymru yn hynod gyffrous i ddathlu Mis y Plentyn Milwrol ym mis Ebrill eto eleni. Gan adeiladu ar lwyddiant y ddwy flynedd ddiwethaf lle cefnogwyd nifer o ysgolion, awdurdodau lleol a sefydliadau ledled Cymru i ddeall a dathlu profiadau eu gwasanaeth i blant.
Sut bydd SSCE Cymru yn dathlu Mis y Plentyn Milwrol?
Anfon bagiau 'goodie' i bob un o'r 600 o ysgolion â phlant y Lluoedd Arfog yng Nghymru i hybu Mis y Plentyn Milwrol
Rhannu adnoddau a syniadau ar wefan SSCE Cymru am sut y gall ysgolion a theuluoedd y Lluoedd Arfog gymryd rhan yn y dathliad
Hyrwyddo adnoddau a chefnogaeth SSCE Cymru
Lansio ein pecyn E-ddysgu DPP SSCE Cymru
Cefnogi ysgolion, awdurdodau lleol a sefydliadau gyda chynllunio, rhedeg a hyrwyddo digwyddiadau/gweithgareddau i ddathlu Mis y Plentyn Milwrol
Codi ymwybyddiaeth o weithgareddau/digwyddiadau drwy gyfrifon Twitter a Facebook @SSCECyrmu gan ddefnyddio #MotMCCymru
Rhannu lleisiau plant y Lluoedd Arfog.
Beth allwch chi ei wneud i gymryd rhan ym Mis y Plentyn Milwrol?
Os oes eitemau hyrwyddo yr hoffech eu cynnwys yn bagiau 'goodie' SSCE Cymru (e.e. beiros, taflenni, crysau-t ac ati), gadewch i ni wybod, byddent yn cael eu gwerthfawrogi. Byddai angen 600 o bob eitem erbyn yr 20fed Chwefror, i ni eu postio allan i ysgolion ddechrau mis Mawrth. Cysylltwch â Cara (caralloyd-roberts@ynysmon.gov.uk) gyda gwybodaeth am beth allwch chi ei roi ac i drafod y cyfeiriad post.
Ystyriwch ffyrdd y gallai eich sefydliad godi ymwybyddiaeth o brofiadau plant y Lluoedd Arfog a'r cymorth sydd ar gael drwy SSCE Cymru gyda staff/aelodau/rhwydweithiau/cysylltiadau.
Ystyriwch ffyrdd y gallai eich sefydliad drefnu gweithgaredd/digwyddiad i ddathlu profiadau plant y Lluoedd Arfog a/neu greu cyfleoedd i blant y Lluoedd Arfog ymgysylltu â'i gilydd.
Dilynwch @SSCECymru ar Twitter a Facebook a'n tagio mewn unrhyw un o'ch gweithgareddau Mis y Plentyn Milwrol gan ddefnyddio'r hashnod #MotMCCymru.
Defnyddiwch y delweddau ynghlwm (baner a sgwâr) ar eich llofnod e-bost, eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a'ch deunyddiau hyrwyddo gweithgareddau Mis y Plant Milwrol.
The SSCE Cymru team is very excited to be celebrating Month of the Military Child in April again this year. Building on the success of the past two years where we supported a number of schools, local authorities and organisations across Wales to understand and celebrate their Service children’s experiences.
How will SSCE Cymru be celebrating Month of the Military Child?
Sending goodie bags to all 600 schools with Service children in Wales to promote Month of the Military Child
Sharing resources and ideas on the SSCE Cymru website about how schools and Service families can get involved with the celebration
Promoting SSCE Cymru resources and support
Launching our bilingual SSCE Cymru CPD E-learning package
Supporting schools, local authorities and organisations with planning, running and promoting events/activities to celebrate Month of the Military Child
Raising awareness of activities/events through the @SSCECyrmu Twitter and Facebook accounts using #MotMCCymru
Sharing Service children’s voices.
What can you do to participate in Month of the Military Child?
· If you have any promotional items that you would like to include in the SSCE Cymru goodie bags (e.g. pens, leaflets, t-shirts etc.) please let us know, they would be gratefully received. We would need 600 of each item by 20th February, for us to post out to schools early March. Please contact Cara (caralloyd-roberts@ynysmon.gov.uk) with information on what you can provide and to discuss the postal address.
· Consider ways that your organisation could raise awareness of Service children’s experiences and the support available through SSCE Cymru with staff/members/networks/contacts.
· Consider ways that your organisation could organise an activity/event to celebrate Service children’s experiences and/or create opportunities for Service children to engage with each other.
· Follow @SSCECymru Twitter and Facebook and tag us in any of your Month of the Military Child activities using the hashtag #MotMCCymru.
Use the attached images (banner and square) on your email signature, social media accounts and Month of the Military Child activity promotional materials.
Cynhadledd Flynyddol Rhieni Dros Addysg Gymraeg
Annual Parents for Welsh-medium Education Conference
Fe'ch gwahoddir yn gynnes i gynhadledd flynyddol Rhieni Dros Addysg Gymraeg ar 28.01.2023 rhwng 10am a 12pm yng Nghanolfan Gartholwg, Pentre'r Eglwys, Pontypridd ac ar-lein.
Dewch i glywed am ein gwaith dros y flwyddyn ac i gyfrannu at gyfnod allweddol yn hanes ein mudiad, addysg Gymraeg a'r Gymraeg.
Bydd y Bargyfreithiwr Gwion Lewis CB, yn rhoi sgwrs i ni am arwyddocâd yr adolygiad barnwrol llwyddiannus yn gynt eleni a bydd Elin Maher, ein Cyfarwyddwr Cenedlaethol yn rhoi gorolwg i ni o'n gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf a'r hyn sydd angen i ni fel mudiad fod yn barod ar ei gyfer dros y cyfnod nesaf.
Mae croeso i bawb.
Cofrestrwch yma:
You are warmly invited to the annual Parents for Welsh-medium Education conference on 28.01.2023 between 10am and 12pm at Gartholwg Centre, Church Village, Pontypridd and online.
Come and hear about our work over the year and to contribute to a key period in the history of our organisation, of Welsh-medium education and of the Welsh language.
Barrister Gwion Lewis CB, will give us a talk about the significance of the successful judicial review earlier this year and Elin Maher, our National Director will give us an overview of our work over the past year and what is needed for us to be prepared as an organization over the next period.
Everyone is welcome.
Register here:
Sesiwn Galw i Mewn Oriel Môn
Drop-in Session Oriel Môn
Eisiau gwybod mwy am ein Gwasanaeth Addysg Oriel, Amgueddfa ac Archifau?
Dewch draw i’n sesiwn galw i mewn rhwng 3:30pm a 5:00pm, nos Iau, 02.02.23 – Oriel Môn, Llangefni.
Cyfle gwych i gyfarfod y tîm, dysgu mwy am ein cynigion a chael gweld ein adnoddau arbennig.
Lluniaeth ysgafn ar gael.
Oriel Môn,
Rhosmeirch,
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TQ
01248 724444
addysgorielmon@ynysmon.llyw.cymru
Want to know more about our Gallery, Museum and Archive Education Service?
Come to our drop-in session at Oriel Môn, Llangefni, 3:30pm to 5:00pm, Thursday, 02.02.23.
An excellent opportunity to get to know the team, learn about our offer and see our amazing resources.
Light refreshments available.
Oriel Môn,
Rhosmeirch,
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TQ
01248 724444
addysgorielmon@ynysmon.llyw.cymru
Ailgylchu Toners Konica Minolta
Recycling Konica Minolta Toners
Mae EOS Solutions yn gwmni sydd â chytundeb â Konica Minolta i gasglu toners gwag. Fel rheol, bydd angen llenwi bocs maint canolig gyda toners gwag cyn cysylltu â’r cwmni er mwyn trefnu casgliad. Manylion yr cwmni yw:
EOS Solutions South Ltd
Claire Tyler
claire@eos-it.co.uk
EOS Solutions is a company that has a contract with Konica Minolta to collect empty toners. Usually, a medium-sized box must be filled with empty toners before contacting the company to arrange collection. The company's details are:
EOS Solutions South Ltd
Claire Tyler
claire@eos-it.co.uk
Tariff Gwasanaethau Addysg
Education Services Tariff
Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu lleoedd ysgol i blant o oedran ysgol. Mae Llywodraeth y DU yn darparu cyllid i bob awdurdod lleol yn y DU i ddarparu gwasanaethau addysg i blant a phobl ifanc ar sail fesul disgybl, yn ddibynnol ar oedran, ar y cyfraddau canlynol:
Blynyddoedd cynnar (2 i 4 oed): £3,000
Cynradd (5 i 10 oed): £6,580
Uwchradd (11 i 18 oed): £8,755
Ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022 i 2023 y mae’r cyllid hwn, a bydd ar sail pro rata chwarterol.
Disgybl yn cyrraedd rhwng:
1 Mawrth a 30 Mehefin: 100% o’r tariff
1 Gorffennaf a 31 Awst: 75% o’r tariff
1 Medi a 30 Tachwedd: 50% o’r tariff
1 Rhagfyr a 28 Chwefror: 25% o'r tariff
Mae’r raddfa ariannu’n seiliedig ar bwynt cyrraedd, ac felly ni fydd yn newid os yw’r person ifanc yn croesi trothwy addysg.
Dim ond ar gyfer y rheiny sy’n cyrraedd dan y cynllun Cartrefi i Wcráin y mae’r cyllid ar gael (gan gynnwys dan y llinyn uwch-noddwr), nid yw cyllid ar gael i’r sawl sy’n cyrraedd dan y cynllun teulu.
Bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn y cyllid gan Lywodraeth y DU ac yn pasio cyllid ymlaen i awdurdodau lleol Cymru. Yr awdurdod lleol sy’n darparu’r addysg yn ôl ei chofnodion ysgol, yn hytrach na’r awdurdod lle maent yn byw, sy’n hawlio’r cyllid. Nid ydym yn disgwyl i awdurdodau lleol amlinellu’r dyraniad cyllid fesul plentyn, fel eu bod yn gallu defnyddio’r cyllid fel y bo’n briodol. Er enghraifft, efallai y bydd ar un plentyn angen cyllid ar gyfer SIY, tra nad oes angen hyn ar blentyn yr un oed.
Lle nad yw plant (2 i 4 oed ac ôl-16) yn cymryd darpariaeth addysg, disgwylir yr un fath bod cyllid yn cael ei gyfeirio at Lywodraeth Cymru ac felly at awdurdodau lleol. Os cadarnheir nad yw plentyn wedi’i gofrestru mewn lleoliad addysg, yna dylai’r awdurdod lle mae’r teulu’n byw hawlio’r tariff addysg cysylltiedig.
Mae cyllid yn cynnwys cefnogaeth i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), ac ar gyfer cefnogaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY), yn ogystal â sicrhau bod lleoedd ysgol ar gael ac y gellir cael mynediad atynt drwy gludiant lle bo angen.
Gall awdurdodau lleol wario cyllid ar:
ddarparu lle ysgol (gan gynnwys amser ar gyfer adnodd a theithio staff)
darparu addysg ar gyfer plant 2 i 4 oed a phlant a phobl ifanc ôl-16
lleoli clystyrau mwy o blant mewn ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar, gan gynnwys cyflogi staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu ychwanegol ac arbenigol
darparu cludiant i ac o leoliadau addysg
darparu gwasanaethau arbenigol a phwrpasol, fel cymorth i blant gydag anghenion ychwanegol, ac adnoddau (gall hyn gynnwys deunyddiau addysg ar gyfer ysgolion)
prydau ysgol am ddim a gwisg ysgol (gan gynnwys bagiau/darpariaethau ysgol e.e. poteli dŵr ac ati)
darparu mynediad at weithgareddau allgyrsiol, e.e. chwaraeon
ar wasanaethau cymunedol y mae eu darpariaeth o fudd i'r plant
unrhyw gostau rhesymol eraill sy'n gysylltiedig â darparu addysg a gofal plant (er enghraifft clybiau ar ôl ysgol / darpariaeth gofleidiol)
darpariaeth addysg yn cael ei darparu o fewn canolfannau croeso a ddarperir drwy Gynllun Uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru
Local authorities are required to provide school places for children of school age. UKG is providing funding for all UK local authorities to provide education services for children and young people on a per pupil basis depending on age at the following rates:
Early years (ages 2 to 4): £3,000
Primary (ages 5 to 10): £6,580
Secondary (ages 11 to 18): £8,755
Currently this funding is for the 2022 to 2023 financial year only and will be on a quarterly pro rata basis.
Student arrives between:
1 March and 30 June: 100% of tariff
1 July and 31 August: 75% of tariff
1 September and 30 November: 50% of tariff
1 December and 28 February: 25% of tariff
The funding rate is at the point of arrival and therefore will not change if the young person crosses an education threshold.
Funding is only available for those arriving under the Homes for Ukraine scheme (including under the super sponsor strand), funding is not available for those arriving under the family scheme.
The Welsh Government will be receiving the funding from UK Government and will pass funding onto Welsh local authorities. The local authority which provides the education, based on its school records, claims the funding rather than the authority where they are living. We do not expect local authorities to break down the funding allocation by each child so they can use the funding as appropriate. For example, 1 child may need funding for EAL support, whilst another child of the same age may not.
Where children (2 to 4 and post-16) do not take up education provision, funding is still expected to be routed to Welsh Government and therefore to local authorities. If a child is confirmed as not enrolled in an education setting, then the authority where the family is resident should claim the associated education tariff.
Funding includes support for children with Additional Learning Needs (ALN) and for English as an Additional Language (EAL) support, as well as ensuring school places are available and can be accessed via transport where needed.
Local authorities can spend funding on:
the provision of a school place (including time for staff resource and travel)
to provide education provision for 2 to 4 year olds and post-16 children and young people
funding placement of larger clusters of children into schools and early years settings, including the hiring of additional and specialist teaching and non-teaching staff
providing transport to and from education settings
the provision of specialist and bespoke services, such as support for children with additional needs, and resources (this may include education materials for schools)
free school meals and school uniform (including school bags/provisions e.g. water bottles etc.)
to provide access to extra-curricular activities e.g. sports
on community services whose provision benefits the children
any other reasonable costs associated with the provision of education and childcare (for example after school clubs / wrap around provision)
education provision provided within welcome centres provided through the Welsh Government’s Super Sponsor Scheme
Troi Ysgolion yn Borffor ar Ddydd Cancr Rhyngwladol
Turning Schools Purple on World Cancer Day
Barddoniaeth Amgylcheddol
gyda Glyn Edwards
Environmental Poetry
with Glyn Edwards
Bydd y cwrs hwn yn ceisio darparu cyfres o 4 neu 5 gweithgaredd y gallwch eu defnyddio i gyflwyno barddoniaeth yn eich ystafell ddosbarth, a helpu eich disgyblion i archwilio themâu ecolegol yn eu hysgrifennu. Byddwn yn ceisio llunio cerddi lle mae’r bygythiad o fod dan bwysau i greu ymateb yn cael ei ddisodli gan fwynhad o wneud rhywbeth o ddeunyddiau crai: ymarferion sy’n defnyddio cerddi fel ysgogiadau i ffurfio cerddi siâp, cerddi wedi’u canfod, cerddi blacowt ac ymarferion adeiladu geiriau. Yn y modd hwn, byddwn yn ystyried y broses farddoniaeth o safbwynt y dysgwr, ac yn ymdrin â materion megis colli cynefin, cyfyngiadau ar fynediad at fyd natur, ac anawsterau anthropomorffeiddio’r an-ddynol fel y byddant yn ei wneud yn ystod eich gwersi. Os bydd y tywydd yn braf, byddwn hefyd yn rhoi cynnig ar ymarfer ‘plein air’ ac yn ystyried a all ysgrifennu yn yr awyr agored helpu i feithrin gwell gwerthfawrogiad o fyd natur.
Ynglŷn â’r cyflwynydd:
Mae Glyn Edwards yn enillydd Athro’r Flwyddyn Cymru ac mae wedi cynllunio adnoddau gwersi ar gyfer CBAC a Poetry Wales. Yn ogystal â bod yn athro yng Ngogledd Cymru, mae’n ymchwilydd PhD mewn eco-farddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n golygu’r erthygl nodwedd Wild Words ar gyfer Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac mae’n Olygydd Cyswllt yng nghylchgrawn Modron. Cyhoeddir ail lyfr o farddoniaeth Glyn, In Orbit, gan Wasg Seren.
Lleoliad: Ystafell Addysg, Gwarchodfa Natur Conwy LL31 9XZ
Dyddiad: 1-4:30pm Dydd Mercher 29 Mawrth 2023
Pris: £50
Prynu Tocynnau: https://www.eventbrite.co.uk/e/environmental-poetry-barddoniaeth-amgylcheddol-tickets-487437246927
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â enlli@artsed.wales
This course will seek to provide a series of 4 or 5 activities you can use to deliver poetry in your classroom, and to help your pupils explore some ecological themes in their writing. We will attempt to construct poems where the threat of being pressured into a create response is substituted with the enjoyment of making something from raw materials: exercises that use poems as stimuli to form concrete poems, found poems, blackout poems and word building exercises. In this manner, we will consider the poetry process from a learner’s perspective, and confront issues such as habitat loss, restrictions on access to nature, and the difficulties of anthropomorphising the non-human as they will do during your lessons. If the weather is kind, we will also attempt plein air practice and reflect on whether writing outdoors can help foster an improved appreciation for the natural world.
About the deliverer:
Glyn Edwards is a winner of Wales Teacher of the Year and has designed lesson resources for the WJEC and Poetry Wales. As well as being a teacher in North Wales, he is a PhD researcher in ecopoetry at Bangor University. He edits the Wild Words feature for the North Wales Wildlife Trust and is Associate Editor at Modron magazine. Glyn's second book of poetry, In Orbit, is published by Seren Press.
Venue: Education Room, Conwy Nature Reserve LL31 9XZ
Date: 1-4:30pm Wednesday 29 March 2023
Price: £50
Get Tickets: https://www.eventbrite.co.uk/e/environmental-poetry-barddoniaeth-amgylcheddol-tickets-487437246927
Any queries, please contact enlli@artsed.wales
Cystadleuaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth 2023
Show Racism the Red Card Schools Creative Competition 2023
Mae’n bleser gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth gyhoeddi bod y gystadleuaeth greadigol i ysgolion yn dychwelyd yn 2023. Eleni, fe hoffem fynd ati i ragori ar y cystadlaethau blaenorol.
Mae’r gystadleuaeth ar ei newydd wedd yn ymwneud â’r 6 maes dysgu a phrofiad sydd ynghlwm â’r Cwricwlwm i Gymru; Y Celfyddydau Mynegiannol; Iechyd a Lles; Y Dyniaethau; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Mathemateg a Rhifedd; Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Mae pecynnau gwybodaeth y Gystadleuaeth Greadigol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac mae croeso i ysgolion gyflwyno’u hymgeision yn eu hiaith ddewisol.
Gallwch gystadlu’n RHAD AC AM DDIM. Os hoffech chi gofrestru eich ysgol a derbyn mwy o wybodaeth am y gystadleuaeth greadigol, cliciwch y ddolen i gofrestru isod.
https://www.theredcard.org/training-and-workshops/school-competitions/
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag events@theredcardwales.org
Show Racism the Red Card are delighted to announce the school creative competition is back for 2023, this year we want to make it bigger and better.
The new revamped competition incorporates the 6 areas of learning and experience within the Curriculum for Wales; Expressive Arts; Health and Well-being; Humanities; Languages, Literacy and Communication; Mathematics and Numeracy; Science and Technology.
The Creative Competition Information pack are available through the medium of Welsh and English and each school is able submit entries in their chosen language.
Entry to the competition is completely FREE, if you would like to register your school and receive more information about the creative competition, please use the registration link below.
https://www.theredcard.org/training-and-workshops/school-competitions/
If you have any questions, please contact events@theredcardwales.org
SSCE Cymru
SSCE Cymru
Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23, mae Ynys Môn wedi cael cyllid gan Gronfa Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o'r cynllun ariannu sydd wedi'i ddatblygu gan yr Awdurdod mewn cydweithrediad â SSCE Cymru, rydym yn gwahodd holl ysgolion Ynys Môn sydd â phlant y Lluoedd Arfog wedi'u cofrestru yn yr ysgol i wneud cais am £1000 i redeg prosiect i gefnogi eich plant Lluoedd Arfog. Bydd pob cais yn cael ei adolygu/sgorio gan banel ac yna bydd y 3 prosiect sy'n sgorio uchaf yn llwyddiannus yn ennill y cyllid.
Mae eich Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol ar gyfer Plant Milwyr yng Gogledd Cymru, Cara Lloyd-Roberts, wedi e-bostio pob ysgol sydd â phlant Lluoedd Arfog (diffiniad 1) yn uniongyrchol seiliedig ar ddata SSCE Cymru. Os oes gennych blant Lluoedd Arfog (diffiniad 1) yn eich ysgol ac nid ydych wedi derbyn e-bost, cysylltwch â Cara (caralloyd-roberts@ynysmon.gov.co.uk) i ddiweddaru’r data. Mae rhagor o wybodaeth am y diffiniadau o blant Lluoedd Arfog ar gael yma.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn a chyn cyflwyno cais, bydd angen i'ch ysgol fod wedi cwblhau neu wedi archebu hyfforddiant DPP 2-awr SSCE Cymru. Gweler dyddiadau a chofrestrwch i fynychu un o'r sesiynau ar-lein yma.
Gallai'r Prosiect Mil o Bunnoedd ar gyfer eich ysgol fod yn unrhyw beth i gefnogi plant y Lluoedd Arfog. Cysylltwch â Cara i drafod syniadau!
Bydd angen i chi gwblhau’r cais drwy ffurflen Google yma.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 28/02/2023 12pm.
Dim ond un cais fesul ysgol a dderbynnir, ond gall ysgolion hefyd fod yn rhan o gais clwstwr yn ogystal â chais unigol.
Cara Lloyd-Roberts
Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol – Plant Milwyr (Gogledd Cymru)
For the 2022/23 academic year, Anglesey have been awarded funding from the Welsh Government Supporting Service Children in Wales Fund.
As part of the funding plan that has been developed by the Authority in collaboration with SSCE Cymru, we are inviting all schools in Anglesey who have Service children enrolled to apply for £1000 to run a project to support your Service children. All applications will be reviewed/scored by a panel and the 3 projects that score the highest will be awarded the funding.
Your Regional School Liaison Officer for Service Children in North Wales, Cara Lloyd-Roberts, has emailed schools with Service children (definition 1) directly based on the most current SSCE Cymru data. If you have Service children (definition 1) in your school and are yet to receive an email, please contact Cara at caralloyd-roberts@ynysmon.gov.uk . Further information on the definitions of Service children can be located here.
In order to be eligible for this funding, your school will need to have completed or be booked onto the 2-hour SSCE Cymru CPD training. See dates and sign up to attend one of the online sessions here.
The Thousand Pound Project for your school could be anything to support Service children. If you wish to discuss ideas, please get in touch with Cara!
The online application form can be accessed here.
Application deadline: The date has been extended to 28/02/2023 12pm.
One application per school will be accepted, but schools can also be part of a cluster-bid in addition to an individual application.
Cara Lloyd-Roberts
Regional School Liaison Officer – Service Children (North Wales)
Ysgolion Uwchradd yn Unig - Brechiadau
Secondary Schools Only - Vaccinations
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n gobeithio gwella'r wybodaeth rydym yn ei darparu i bobl ifanc am y brechiadau y gallant eu cael yn yr ysgol uwchradd. Nid ydym yn gofyn cwestiynau am frechiadau penodol. Rydym yn gofyn cwestiynau am ddewisiadau ar gyfer fformatau gwybodaeth, fel pe byddai'n well ganddynt wybodaeth fel fideo neu daflen, a'r ffordd orau o rannu gwybodaeth gyda nhw.
I gefnogi'r gwaith hwn, byddem yn ddiolchgar petaech yn gallu dosbarthu'r wybodaeth arolwg hon ar draws eich rhwydweithiau ysgol uwchradd, ac yn gofyn i ysgolion uwchradd anfon yr atodiad o dan 13 gwybodaeth i rieni a llythyr caniatâd i holl rieni disgyblion blwyddyn 7 ac 8.
Ar gyfer pobl ifanc dros 13 oed, nid oes angen caniatâd rhieni i bobl ifanc gwblhau'r arolwg. Mae gwybodaeth bellach ynglŷn â'r arolwg i bobl ifanc 13+ yn y gwybodaeth i randdeiliaid a rhieni 13+ ynghlwm gan gynnwys y ddolen i'r arolwg a chod QR (a ddarperir hefyd ar ddiwedd yr e-bost hwn).
Isod mae gwybodaeth i'w rhannu â phobl ifanc:
Hoffai Iechyd Cyhoeddus Cymru gael eich barn i wella sut rydym yn gweithio. Rydym yn creu llawer o wybodaeth i bobl ifanc am bynciau gwahanol - un o'r pynciau yr hoffem gael eich barn arno yw'r brechlynnau i bobl ifanc yn eu harddegau y mae gennych yr opsiwn i'w derbyn yn yr ysgol uwchradd. Rydym yn gwybod bod cael digon o wybodaeth i wneud dewis am frechlynnau'n bwysig i chi a'ch teulu. Rydym eisiau gwybod y sut gallwn fod yn well am greu gwybodaeth am frechlynnau i bobl ifanc yn eu harddegau, a gwneud yn siŵr bod gennych chi'r holl wybodaeth sydd arnoch chi ei hangen, yn y ffordd rydych chi ei heisiau.
Dolen i agor arolwg i bobl ifanc 13+
https://secure.membra.co.uk/ExperiencePHW/s/SurveyIntro.aspx?ID=F3E16A9B-4B10-494F-A9FA-53881943BA08&Lang=EN
Public Health Wales are looking to improve the information we provide for young people about the vaccinations they may receive in secondary school. We are not asking any questions about specific vaccinations. We are asking questions about preferences for information formats, such as if they would prefer information as a video or leaflet, and how best to share information with them.
To support this work, we would be grateful if you could distribute this survey information across your secondary school networks, and ask secondary schools to forward the attached under 13 parent information and consent letter to all parents of year 7 and 8 pupils.
For young people over 13, we do not require parental consent for young people to complete the survey. There is further information about the survey for young people 13+ in the stakeholder and 13+ parent information attached including the link to the survey and QR code (also provided at the end of this email).
Below is information to share with young people:
Public Health Wales would like to get your opinions to improve how we work. We create lots of information for young people about different topics - one of the topics we would like to get your opinion on is about the teenage vaccines you have the option to receive in secondary school. We know having enough information to make a choice about vaccines is important for you and your family. We want to know how we can be better at creating information about teenage vaccines, and make sure you have all the information you need, in the way you want it.
Link to open survey for young people 13+
https://secure.membra.co.uk/ExperiencePHW/s/SurveyIntro.aspx?ID=F3E16A9B-4B10-494F-A9FA-53881943BA08&Lang=EN
Diweddariad Diogelu Digidol
Digital Safeguarding Update
'Y Gêm' ar Roblox
Mae adroddiadau diweddar wedi dod i'r wyneb o 'gêm' hunan-niweidio sy'n cael ei rhannu ar hyn o bryd drwy blatfform hapchwarae poblogaidd, Roblox. Mae ein tîm diogelwch ar-lein wedi nodi mai ail-rannu ar gyfryngau cymdeithasol yw'r risg fwyaf y mae'r 'gêm' hon yn ei chynnig ar hyn o bryd. Mae ein Diweddariad Diogelu'n trafod y gêm hon yn fwy manwl a sut y gallwch chi gadw'r bobl ifanc yn eich gofal yn ddiogel.
Edrychwch ar beth gafodd ei rannu gyda'ch staff, rhieni a gofalwyr yn eich ap yr wythnos hon.
'The Game' on Roblox
Recent reports have surfaced of a self-harm ‘game’ currently being shared through popular gaming platform, Roblox. Our online safety team have identified that re-sharing on social media is currently the greatest risk this 'game' poses. Our Safeguarding Update discusses this game in more detail and how you can keep the young people in your care safe
Check out what was shared with your staff, parents and carers in your app this week.
Newyddlen Cymorth Addysg
Education Support Newsletter
2023 Hapus!
Mae gennym adnoddau newydd ysbrydoledig i'ch helpu i'ch cefnogi chi a'ch staff yn ystod tymor y Gwanwyn.
Os hoffech gael diweddariadau mwy rheolaidd gyda chynghorion ymarferol, gwybodaeth a digwyddiadau gennym ni cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.
Peidiwch ag anghofio, mae ein llinell gymorth gyfrinachol ac am ddim yn bodoli i'ch cefnogi chi a'ch staff - bob dydd o'r flwyddyn.
08000 562 561
Ffoniwch ni. Byddwn ni'n gwrando.
https://www.educationsupport.org.uk/
Happy 2023!
We have some inspirational new resources to help support you and your staff during Spring term.
If you would like to get more regular updates with practical tips, information and events from us please sign up to our newsletter.
Don’t forget, our free and confidential helpline exists to support you and your staff - every day of the year.
08000 562 561
Call us. We’ll listen.
https://www.educationsupport.org.uk/
Cwmni Theatr Eleth
Cwmni Theatr Eleth
Gweithredu Diwydiannol
Industrial Action
Prynhawn da,
Byddwch yn ymwybodol bod undeb NEU wedi galw ar athrawon a chymorthyddion i weithredu'n ddiwydiannol drwy atal eu llafur ar y 1af a'r 14eg o Chwefror, a hefyd ar y 15fed a'r 16eg o Fawrth. Wrth gwrs, gall y gweithredu effeithio ar rediad arferol yr ysgol ar y dyddiau hyn.
Gweler y canllaw ynghlwm ar gyfer ymateb i'r sefyllfa ar lefel ysgol unigol.
Arweiniad Gweithredu (dwyieithog)
Asesiad Risg dwyieithog - I'ch cefnogi gyda gwneud penderfyniadau
Bydd Cwestiynau Cyffredin yn dilyn wythnos nesaf.
Gofynnwn yn garedig i chi gwblhau ffurflen syml Google er mwyn ein hysbysu o’r bwriad i agor yn llawn/yn rhannol/cau erbyn 27.01.2023 os yn bosib.
Mewn ymgynghoriad, ac fel ymateb i gais Fforwm Strategol Cynradd Ynys Môn, rydym wedi symud y cyfarfod ‘galw i mewn’ cefnogaeth cynradd i fore dydd Mawrth, y 24ain o Chwefror am 8:20yb.
Yn ogystal â hyn, mae undeb NAHT hefyd wedi galw am weithredu'n brin o streic, sy’n dod i rym o’r 1af o Chwefror.
Rydym ar ddeall bod rhybuddion gweithredu wedi eu hanfon yn uniongyrchol at ysgolion unigol dros e-bost a thrwy'r Post Brenhinol. Fodd bynnag, rydym wedi derbyn niferoedd aelodau NEU pob ysgol. Os hoffech gael yr wybodaeth hon (niferoedd yn unig) cysylltwch ag Owen Davies.
Cofion cynnes
Marc
Good afternoon,
You will be aware that the NEU union has called on teachers and assistants to take industrial action by suspending their labour on the 1st and 14th of February and the 15th and 16th of March. The action could of course affect the normal running of schools on these days.
Please see the attached guidance for responding to the situation at the individual school level.
Action Guidance (bilingual)
Bilingual Risk Assessment - To support you with decision making
FAQ’s will follow shortly next week.
We kindly request that you complete a simple Google form in order to let us know your intentions for opening fully/partially/closing by 27.01.2023 if possible please.
In consultation and in response to the wishes of Anglesey’s Primary Strategic Forum, we have moved the primary support ‘drop-in’ meeting to the morning of Tuesday, the 24th of February at 8:20am.
Additionally, the NAHT union has also called for action short of strike effective from the 1st of February.
We understand that action alerts have been sent directly to individual schools by email and by Royal Mail. However, we have been provided with the numbers of NEU members in each school. Should you wish to have this information (numbers only), please contact Owen Davies.
Kind Regards
Marc