MATERION ADNODDAU DYNOL
Rheolau Newydd parthed Cyflenwi Nodyn Ffitrwydd
Mae’r Llywodraeth wedi ymestyn y rhestr o weithwyr proffesiynol y gall gyflenwi nodyn ffitrwydd er mwyn symleiddio’r broses ac i leihau baich meddygon teulu. Gall nyrs, therapydd galwedigaethol, fferyllydd neu ffisiotherapydd ardystio nodyn ffitrwydd bellach. Bydd ffurflen hunanardystio ar gyfer y 7 diwrnod cyntaf o absenoldeb yn parhau’n berthnasol.
Codiad Cyflog Blynyddol Athrawon
Bydd y gwasanaeth cyflogau'n gweithredu ar yr uchod yn awtomatig yn unol ag amodau’r Ddogfen Tâl ac Amodau Gwaith Athrawon, ar gyfer cyflog mis Medi. Nid yw’r codiad cyflog blynyddol wedi ei gytuno’n ffurfiol hyd yma ac felly bydd yn cael ei ôl-ddyddio maes o law yn unol â’r drefn arferol. Anfonir gwybodaeth bellach am yr arolwg cyflog blynyddol ar dderbyn cadarnhad o’r codiad cyflog.
Templed Swydd Ddisgrifiadau
Fel rhan o ymgyrch recriwtio a marchnata, mae templed swydd ddisgrifiad newydd yn weithredol. I’r perwyl hwn, mae swydd ddisgrifiadau generig ysgolion yn y broses o gael eu trosglwyddo i’r templed newydd. Y nod yw i bob swydd ddisgrifiad yr atodir gyda hysbyseb swydd ar safle’r Cyngor ymddangos yn y fformat amgaeedig o fis Hydref ymlaen.
Pan gaiff swydd newydd ei sefydlu ac nad oes unrhyw swydd bresennol sydd â’r un dyletswyddau a chyfrifoldebau eisoes, bydd angen cwblhau templed Ffurflen A os gwelwch dda, ac ar gyfer swyddi NJC sydd angen eu gwerthuso, ffurflen templed B yn ogystal.
Yn dilyn cyfarfod o’r Fforwm Mynediad, cafwyd argymhelliad gan bennaeth i benaethiaid adnabod llywodraethwyr neu unigolion all fod yn addas ar gyfer eistedd ar baneli mynediad a gwaharddiadau.
Gofynnaf yn garedig i chi rannu’r hysbysebion isod gydag unigolion y credwch y byddant yn addas, a'u hannog i wneud cais os gwelwch yn dda.
RSE Resources
Cynhadledd Rhwydwaith Ysgolion Cynradd HAPPEN
HAPPEN Wales Primary School Network Conference
Mae gwahoddiad i ysgolion cynradd fynychu Cynhadledd Rhwydwaith Ysgolion Cynradd HAPPEN ar brynhawn y 28ain o Fedi. Mae'r gynhadledd hon, ar y cyd rhwng GwE a Rhwydwaith Ysgolion Cynradd HAPPEN Cymru, yn gyfle i ddod ag ysgolion cynradd y rhanbarth ynghyd i glywed sut i fynd i'r afael â'r maes iechyd a lles gan ddefnyddio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Yn y gynhadledd, cewch glywed mwy am y rhwydwaith a sut y gellir defnyddio adroddiadau ysgol ac arolwg HAPPEN Prifysgol Abertawe i werthuso a gwella eich darpariaeth. Mae’r gynhadledd yn RHAD AC AM DDIM. Bydd cinio ar gael o hanner dydd a'r sesiwn gyntaf yn cychwyn am 13:00. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i gadw hyd at ddau le ar gyfer pob ysgol: https://GwE-HAPPEN-Wales.eventbrite.co.uk
Primary schools are invited to attend the HAPPEN Wales Primary School Network Conference on the afternoon of the 28th of September. This collaborative conference between GwE and the HAPPEN Wales Primary School Network is an opportunity to bring together primary schools from across the region to hear about evidence-informed approaches to health and well-being. At the conference you will hear more about the network and how the Swansea University HAPPEN survey and school report can be used to evaluate and improve your provision. The conference is FREE to attend, with lunch available from 12:00 and the first session starting at 13:00. Click here for more information and to reserve up to two tickets per school: https://GwE-HAPPEN-Wales.eventbrite.co.uk
Hyfforddiant a Digwyddiadau Ar-lein AM DDIM i Ddatblygu Dinasyddion Egwyddorol, Gwybodus
FREE Online Training and Events to Develop Ethical, Informed Citizens
Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn trefnu’r digwyddiadau ar-lein canlynol i gefnogi ysgolion i ddatblygu plant a phobl ifanc fel dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd. Croeso i bawb!
Delio â Materion Dadleuol, 28 Medi 4.30 – 6pm.
Bydd yr HMS hwn yn edrych ar sut mae ysgolion wedi delio â materion dadleuol, gan alluogi eu dysgwyr i gaffael gwybodaeth o wahanol ffynonellau, trafod gwahanol safbwyntiau yn barchus, a gweithredu dros newid.
Gallwch gofrestru ar gyfer y cwrs yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/dealing-with-controversial-issues-delio-a-materion-dadleuol-tickets-363014254407
Cynhadledd Ysgolion Heddwch Cymru 2022, 10fed o Dachwedd 9.30am – 3pm.
Yn ystod y gynhadledd eleni byddwn yn clywed gan ysgolion sydd wedi datblygu agweddau ar ddinasyddiaeth fyd-eang fel rhan o’u Cynllun Ysgolion Heddwch. Bydd dysgwyr a staff sy'n mynychu'r gynhadledd yn mynychu gweithdai rhyngweithiol ac yn dysgu am brosiectau ac adnoddau y gallant fod yn rhan ohonynt yn eu lleoliadau eu hunain.
Cofrestrwch yma i gymryd rhan:
Digwyddiadau Rhwydweithio Ysgolion Heddwch, 5ed a 10fed o Hydref, 4 – 5.30pm.
Nod y digwyddiadau hyn yw cefnogi ysgolion sydd â diddordeb mewn bod yn Ysgol Heddwch neu yn y broses o ddatblygu eu cynllun i ddod at ei gilydd a rhannu syniadau, adnoddau a mentrau. Dewch i ddysgu sut y gall bod yn Ysgol Heddwch fod o fudd i'ch dysgwyr a sut y gallwch chi gymryd rhan!
Cofrestrwch ar gyfer digwyddiad ar y 5ed o Hydref yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/peace-schools-network-meeting-cyfarfod-rhwydwaith-ysgolion-heddwch-tickets-419499653757
ac ar gyfer digwyddiad ar y 10fed o Hydref yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/peace-schools-network-meeting-cyfarfod-rhwydwaith-ysgolion-heddwch-tickets-419526082807
The Welsh Centre for International Affairs (WCIA) are organising the following free online events to support schools in developing children and young people as ethical, informed citizens of Wales and the world. All are welcome!
Dealing with Controversial Issues, 28th September 4.30 – 6pm.
This INSET will look at how schools have dealt with controversial issues, enabling their learners to acquire knowledge from different sources, discuss different points of view respectfully, and take action for change.
You can register for this course here: https://www.eventbrite.co.uk/e/dealing-with-controversial-issues-delio-a-materion-dadleuol-tickets-363014254407
Wales Peace Schools Conference 2022, 10th of November 9.30am – 3pm.
During the conference this year we will hear from schools who have developed global citizenship as part of their involvement in the Peace Schools Scheme. Learners and staff attending the conference will engage in interactive workshops and learn about projects and resources they can get involved in at their own settings.
Register here to take part:
Peace Schools Networking Events, 5th and 10th of October, 4 – 5.30pm.
The aim of these events is to support schools who are interested in becoming a Peace School or in the process of developing their scheme to come together and share ideas, resources and initiatives. Come and learn how being a Peace School can be beneficial for your learners and how you can get involved!
Register for the 5th of October event here: https://www.eventbrite.co.uk/e/peace-schools-network-meeting-cyfarfod-rhwydwaith-ysgolion-heddwch-tickets-419499653757
and for 10th of October event here: https://www.eventbrite.co.uk/e/peace-schools-network-meeting-cyfarfod-rhwydwaith-ysgolion-heddwch-tickets-419526082807
Grant Cyfalaf Ysgolion Bro
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu grant i’r Awdurdod Lleol i addasu ysgolion yn ddiogel a’u hagor yn effeithiol y tu allan i oriau traddodiadol drwy nifer o fuddsoddiadau cyfalaf graddfa bach a chanolig, gan alluogi defnydd cymunedol o’r cyfleusterau sydd eisoes yn bodoli.
Gwahoddir chi i gyflwyno cais i gael mynediad at y grant hwn am gostau cyfalaf drwy gwblhau'r holiadur isod os gwelwch yn dda erbyn 07.10.22.
Lyreco
Rydym wedi cael gwybod gan Lyreco bod manylion y Cerdyn Prynu wedi'u dileu'n ddamweiniol ar gyfer pob un o'r ysgolion.
Er mwyn datrys hyn, bydd Milena Thomas (Rheolwr Cyfrifon Corfforaethol yn Lyreco) yn cysylltu â phob ysgol yn uniongyrchol ac yn gofyn i’r ysgolion ffonio’r Tîm Gwerthiant Corfforaethol, a fydd wedyn yn gallu cymryd manylion y cerdyn ac ychwanegu hwn at gyfrif pob ysgol.
Adran Gyllid
Mae’r swm o arian sy’n cael ei dderbyn mewn ysgolion drwy arian parod neu sieciau yn llawer is na'r gorffennol, sydd wedi lleihau'r gwaith bancio.
Er y lleihad, mae’r pwysigrwydd o fancio yn rheolaidd yn parhau. Gofynnwn yn garedig i ysgolion fancio arian parod a sieciau oddi fewn i amserlen briodol.
Oriel Môn
Cyfoethogi’r Cwricwlwm – Gwasanaeth Addysg Oriel, Amgueddfa ac Archifau
Gyda’r tymor newydd wedi cychwyn, pa gyfle gwell i ystyried dulliau o gyfoethogi eich cwricwlwm gydag Oriel Môn.
Mae gennym dîm ymroddedig gyda chyfoeth o adnoddau amrywiol i siwtio eich anghenion addysgol – cysylltwch â ni i ddarganfod mwy:
addysgorielmon@ynysmon.llyw.cymru
01248 724444
Curriculum Enrichment – Oriel, Museum and Archives Education Service
With the new term in full swing, why not make the most of the enrichment opportunities with Oriel Môn?
We have a dedicated team with access to a variety of resources to suit your educational needs – get in touch to find out more:
addysgorielmon@ynysmon.llyw.cymru
01248 724444
Llefrith - Nodyn Atgoffa
Os nad yda chi wedi dychwelyd yn barod, gai atgoffa chi bod angen i chi adael i’ch cymhorthyddion SIMS wybod os oes na blant meithrin, derbyn a blwyddyn 1 sydd ddim yn cymryd llefrith. Fe fydd y wybodaeth o hyn ymlaen yn seiliedig ar y gofrestr felly mae’n bwysig bod y wybodaeth yn gywir yn SIMS. Gai hefyd atgoffa chi o’r angen i ddychwelyd niferoedd tymor yr Haf i Carol Snowden. Fydd angen y wybodaeth yma erbyn diwedd yr wythnos 23.09.22 os gwelwch yn dda.
Cronfa Ysgol - Nodyn Atgoffa
Hoffwn eich atgoffa bod angen dychwelyd tystysgrifau ar gyfer eich cronfeydd ysgol i Carol Snowden erbyn 11.11.22.
Cais gan Ysgol
Ar gael - 4 bwrdd 65cm o uchder.
Croeso i unrhyw un gysylltu'n uniongyrchol.
6602156_pennaeth.henblas@Hwbcymru.net
Diolch,
Huw