20.12.22
Gweledigaeth y Gwasanaeth Dysgu:
Yr Ynys Ddysg gyda Chymunedau sy’n Dysgu, Gwasanaeth Dysgu ac Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu
Gweledigaeth y Gwasanaeth Dysgu:
Yr Ynys Ddysg gyda Chymunedau sy’n Dysgu, Gwasanaeth Dysgu ac Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu
Nodyn Nadolig gan y Cyfarwyddwr Addysg
Christmas Message from the Director of Education
Mae hi bron yn ddiwedd tymor yr Hydref ac rwy’n siŵr bod pawb yn edrych ymlaen at gael seibiant haeddiannol dros gyfnod y Nadolig. Ar ran y Gwasanaeth Dysgu, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi gyd am eich holl waith caled a'ch ymrwymiad dros y misoedd diwethaf. Mae pob tymor yn dod â heriau newydd ac nid yw’r tymor hwn wedi bod yn wahanol. Rwyf wedi cael y fraint o gwrdd â llawer ohonoch ar ddechrau fy rôl yma, gan ymweld â chymaint o ysgolion â phosibl a siarad â sawl un ohonoch yn rhithiol. Mae’r gwaith sy’n mynd ymlaen yn eich ysgolion yn ysbrydoledig ac nid oes gennyf amheuaeth bod dyfodol plant a phobl ifanc Ynys Môn mewn dwylo da. Mae'r cydweithio ar draws yr ynys a’r ymdeimlad o 'Dîm Môn' wedi gwneud argraff fawr arnaf i. Gwyddom y bydd cyfnodau o lwyddiant yn ogystal â rhai heriol o’n blaenau, a gyda’n gilydd gallwn gefnogi drwy’r cyfnodau anodd a dathlu’r llwyddiannau fel un. Hoffwn hefyd gymryd y cyfle i ddiolch i Mrs Dwynwen Powell sy’n ymddeol fel Pennaeth Ysgol Bryngwran ar ddiwedd y tymor. Mae Dwynwen yn ffrind a chydweithiwr agos i lawer a dymunwn y gorau iddi yn ei hymddeoliad.
Hoffwn ddymuno Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd, a gobeithio y cewch gyfle i ymlacio a gorffwys dros yr ŵyl. Diolch.
It is nearly the end of the Autumn term and everyone is looking forward to a well-earned rest over the Christmas period. On behalf of the Learning Service, I'd like to take this opportunity to thank you all for all of your hard work and commitment over the past few months. Every term brings new challenges and this one has been no different. I have had the privilege to meet many of you during the start of my role here, visiting as many schools as possible and speaking to several of you virtually. The work going on in your schools is inspiring and I have no doubt that the future of the children and young people of Ynys Môn is in good hands. I have been extremely impressed with the collaboration across the island and the feeling of 'Tîm Môn'. We know there will be both rewarding and challenging times ahead and together we can support each other through the difficult times and celebrate the successes as one. I would also like to take this opportunity to thank Mrs Dwynwen Powell who is retiring as Headteacher of Ysgol Bryngwran at the end of term. Dwynwen is a close friend and colleague to many and we wish her all the best in her retirement.
I'd like to wish you all a very Merry Christmas and a Happy New Year and I hope you have a chance to unwind and rest over the festive period. Thank you.
Cinio am Ddim i Flwyddyn 2
Yn dilyn y cyhoeddiad bod Blwyddyn 2 am fod yn derbyn cinio am ddim o fis Ionawr 2023, atodaf lythyrau i chi eu rhannu â rhieni Blwyddyn 2 a ffurflenni ar gyfer plant ag anghenion dietegol/alergedd. Gofynnaf yn garedig i chi rannu'r rhain cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda.
Bydd diweddariad yn digwydd ar SIMS yn yr wythnos gyntaf ym mis Ionawr, ac atodaf ganllawiau ar gyfer mewnbynnu meal patterns newydd fydd angen bod yn weithredol o’r 9fed o Ionawr ymlaen. Mae croeso i chi newid y rhain cyn y 9fed o Ionawr, ond bydd angen nodi’r dyddiad gweithredu fel y 9fed o Ionawr. Bydd Julie Burrows ar gael os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch gyda hyn. Os nad oes gennych gyfle i wneud hyn cyn y 9fed o Ionawr, gofynnaf i chi sicrhau bod hyn yn digwydd mor fuan â phosib ar ôl y dyddiad hwn.
Trefnu Dyddiad Ymweliad Archwiliad Diogelu Data Ysgolion 2023
Mae Elin Williams, y Swyddog Diogelu Data Ysgolion, wedi cysylltu â phenaethiaid dros e-bost yn gofyn bod yr ysgolion yn trefnu dyddiad ar gyfer yr Ymweliad Archwiliad Diogelu Data ar gyfer 2023. Mae’r ymweliad ar gyfer adolygu trefniadau a chydymffurfiaeth diogelu data.
Gofynnwn yn garedig i benaethiaid gadarnhau pa slot o’r amserlen sydd wedi ei rhannu y mae’r ysgol yn dymuno ei gael er mwyn cadarnhau trefniadau os gwelwch yn dda. Bydd Elin yn anfon gwahoddiad yn cadarnhau manylion yr ymweliad.
‘Donut’ Diogelu Data Newydd ar yr Adolygiad Rheolaeth Ysgol
Mae donut ‘Polisïau a Dogfennau Diogelu Data Allweddol’ wedi’i greu ar yr Adolygiad Rheolaeth Ysgol. Cynhwysir yr holl bolisïau a dogfennau diogelu data allweddol mewn un ‘donut’, sy’n symleiddio’r broses i ysgolion o gadarnhau bod polisïau wedi’u mabwysiadu.
Gellir dod o hyd i’r ‘donut’ newydd o dan ‘Polisïau a Dogfennaeth’- https://adolygiadysgol.cymru/framework.aspx?a=339
Gofynnwn bod penaethiaid yn sicrhau eu bod wedi nodi yn y ‘donut’ newydd eu bod wedi mabwysiadu’r holl bolisïau diogelu data os gwelwch yn dda.
Cysylltwch ag Elin Williams, y Swyddog Diogelu Data Ysgolion, os ydych eisiau cymorth gyda gwneud hyn.
Agor ysgolion yn ystod tywydd eithafol
Opening schools in extreme bad weather
Gweler uchod linc gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag agor ysgolion yn ystod tywydd eithafol / garw.
Please see above a link from the Welsh Government about opening schools in extreme bad weather.
Ymgyrch Cost y Nadolig - Dŵr Cymru
Cost Of Christmas Campaign - Welsh Water
Linc i Fframwaith ILGE
Link to EHWR Framework
Gweler linc isod ar gyfer adnodd ychwanegol i chi ei ddefnyddio wrth gefnogi plant a phobl ifanc yng nghyd-destun Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol.
https://www.cydweithredfagogleddcymru.cymru/fframwaith-iechyd-lles-a-gwytnwch-emosiynol/
See links to below to access new resources to support children and young people’s Emotional Resilience, Health and Wellbeing.
https://www.northwalescollaborative.wales/emotional-health-wellbeing-and-resilience-framework/
Arolwg Defnyddio Amryw o Gyffuriau
Poly Drug Use Survey
Gofynnwn yn garedig i chi gymryd yr amser i rannu'r linc isod i arolwg ar gyfer pobl ifanc rhwng 13-25 oed. Mae'r arolwg wedi'i gomisiynu gan y Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau gyda'r nod o gasglu gwybodaeth yn ymwneud ag ymwybyddiaeth pobl ifanc o'r niweidiau sydd ynghlwm â defnyddio amryw o gyffuriau. Bydd yr wybodaeth a ddarperir gan bobl ifanc yn llywio ymgyrch cyfryngau cymdeithasol a fydd yn cael ei gynnal yn Chwefror/Mawrth 23.
Dyddiad cau'r arolwg yw diwedd Ionawr 23.
We kindly ask you to take the time to disseminate the link below to a survey for young people aged between 13-25 years. The survey has been commissioned by the Area Planning Board for Substance Misuse with the aim of gathering information relating to young people's awareness of the harms associated with poly drug use. The information provided by young people will inform the direction of a social media campaign which will be delivered Feb/March 23.
The closing date of the survey is the end of Jan 23.