Hyfforddiant Diogelu Data Cyffredinol ar gyfer Staff Ysgolion
General Data Protection Training for School Staff
Bydd Elin Williams, y Swyddog Diogelu Data Ysgolion, yn cynnal sesiwn hyfforddiant diogelu data cyffredinol ar gyfer unrhyw aelod o staff ysgol nad yw wedi derbyn yr hyfforddiant hwn yn flaenorol (e.e. staff newydd) neu rhai sydd eisiau cael eu hatgoffa o’r prif bwyntiau ac ymarferion da i’w hystyried mewn perthynas â diogelu data.
Bydd y sesiwn mis Ebrill yn cael ei chynnal rhwng 11.30 a 12.00 ar ddydd Gwener, 21 Ebrill 2023 ar Microsoft Teams (noder bod sesiynau eraill wedi eu trefnu hefyd).
Gofynnir bod unrhyw aelodau staff sydd eisiau mynychu yn cysylltu ag Elin er mwyn cadarnhau lle ac er mwyn derbyn y ddolen gyswllt i ymuno â’r sesiwn os gwelwch yn dda - ElinWilliams5@ynysmon.llyw.cymru.
Elin Williams, the Schools Data Protection Officer, is holding a general data protection training session for any members of school staff that haven't previously received this training (e.g. new staff) or those who would like to be reminded of the main points and good practices to consider in regard to data protection.
The April session will be held between 11.30 and 12.00 on Friday, 21 April 2023 on Microsoft Teams (please note that other sessions have also been arranged).
It is asked that any members of staff that wish to attend contact Elin to confirm their place and to receive the link to join the session please - ElinWilliams5@ynysmon.llyw.cymru.
Holiadur Cytundeb Cynnal a Chadw Tiroedd Ysgolion Môn
Anglesey Schools Grounds Maintenance Agreement Questionnaire
Gweler y ddolen gyswllt isod i holiadur i benaethiaid a llywodraethwyr ysgol ei lenwi mewn perthynas â'r gwasanaethau cynnal a chadw tiroedd. Byddem yn ddiolchgar o dderbyn eich ymateb erbyn dydd Gwener yr 28ain o Ebrill.
Please see the link below for school headteachers and governors to fill in regarding grounds maintenance services. We would be grateful to receive your response by Friday the 18th of April.
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch Ysgolion
Schools Health and Safety Training
Mae gofyniad corfforaethol i sefydlu’r lefel o hyfforddiant iechyd a diogelwch a gwblheir gan bob gwasanaeth/lleoliad er mwyn rhoi sicrwydd eu bod yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol.
Byddem yn gwerthfawrogi pe bai pob ysgol yn rhoi enwau'r aelodau staff perthnasol drwy gwblhau'r holiadur isod:
https://www.smartsurvey.co.uk/s/PE6PZA/
There is a corporate requirement to establish the level of health and safety training completed by each service/placement to provide assurance that they comply with legislative requirements.
We would appreciate if each school could provide the names of relevant members of staff by completing the questionnaire below:
https://www.smartsurvey.co.uk/s/PE6PZA/
Chartwells
Chartwells
Mae Chartwells wedi gofyn a fyddai gan unrhyw ysgolion ddiddordeb mewn disgyblion Blwyddyn 6 yn derbyn platiau, cyllyll a ffyrc, powlenni ac ati yn lle hambyrddau yn ystod y gwasanaeth cinio. Nod hyn yw helpu gyda’r pontio o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7 a’u helpu i baratoi ar gyfer y sector uwchradd. Os oes gan unrhyw ysgolion ddiddordeb, cysylltwch â GethinJones3@ynysmon.llyw.cymru
Chartwells have asked whether any schools would be interested in their Year 6 pupils using plates, cutlery, bowls, etc., rather than flight trays during lunch service. The aim of this is to help with the transition from Year 6 to Year 7 and to help prepare them for the secondary sector. If any schools are interested, please contact GethinJones3@ynysmon.llyw.cymru.
Canllawiau i daclo Aflonyddu Rhywiol rhwng Cyfoedion ac ymddygiad TDH
How to Guide for Tackling Peer on Peer Sexual Harassment and HBT behaviour
Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg
Modernising Learning Communities and Developing the Welsh Language Strategy
Ysgolion Heddwch Cymru
Wales Peace Schools
A wnewch chi annog ysgolion yn eich awdurdod lleol i gymryd rhan yng Ngwobrau Heddychwyr Ifanc eleni? Llawer o gyfleoedd i ddathlu creadigrwydd a gweithredu plant a phobl ifanc fel Heddychwyr Ifanc a Dinasyddion Byd-eang! Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau eleni yw 12 Mehefin. Mwy o fanylion yma.
Thema Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd eleni yw Gwrth-hiliaeth. Mae’r neges eisoes i’w gweld ar wefan yr Urdd yma. Darlledir y Neges ar 18 Mai yn ôl yr arfer, ond bydd pecyn addysgol ategol ar gael ar 18 Ebrill. Mwy o newyddion yn y man!
Bydd tîm Addysg Heddwch yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cynnal dau sesiwn HMS ar ‘Sut i ddod yn Ysgol Heddwch’ am 4.30 – 6y.p. ar Ddydd Llun 5 a Dydd Mercher 14 Mehefin. A wnewch chi nodi’r dyddiadau hyn ac annog staffi ddod? Cewch fanylion pellach ar ddechrau’r tymor nesaf.
Cyfleoedd trwy ‘Taith’! Rwy yn atodi gwybodaeth ar gyfer Ysgolion Uwchradd yn arbennig am gyfleoedd cyffrous ar gyfer Heddychwyr Ifanc 16 – 25 blwydd oed yr haf yma, a ariennir trwy gynllun ‘Taith’ Llywodraeth Cymru. A wnewch chi rannu’r wybodaeth hon gydag ysgolion a phobl ifanc a fyddai â diddordeb, yn eich barn chi. Diolch o galon!
Ysgolion Heddwch: Mae Cynllun Ysgolion Heddwch Cymru, a weinyddir gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) a leolir yn y Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghaerdydd, yn cefnogi ysgolion i ddatblygu ethos heddychlon yn ogystal â dysgu a gweithgareddau sy’n ymwneud â heddwch, cyfiawnder, cynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang yn eu bywydau bob dydd.
Mae rhagor o wybodaeth a dogfennaeth ar gael yma: Ysgolion Heddwch Cymru / Wales Peace Schools (padlet.com). Nid oes unrhyw gost ynghlwm wrth fod yn rhan o’r Cynllun. Mae bod yn Ysgol Heddwch yn galluogi ysgolion i gyflawni pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig fel dinasyddion moesegol gwybodus Cymru a’r byd ac fel unigolion iach, hyderus. Yn enwedig wrth ddatblygu Lefelau 2 a 3 y cynllun, anogir ysgolion i gefnogi disgyblion i ddatblygu meddwl beirniadol a gweithredu fel dinasyddion gweithredol ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
Os oes gennych ddiddordeb i ymuno â’r Cynllun, a wnewch chi lenwi ffurflen mynegi diddordeb yma. Of hoffech chi fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at rebeccawilson@wcia.org.uk neu janeharries@wcia.org.uk ) neu ffoniwch 077200 87132.
Please don’t forget to encourage schools in your local authority to take part in this year’s Young Peacemakers Awards. Lots of opportunities for children and young people to be recognised for their creativity and activism as Young Peacemakers and Global Citizens! The closing date for submissions is 12th June. More details here.
The theme of the Urdd’s annual Message of Peace and Goodwill is Anti-racism. The message can already be seen on the Urdd’s website here. The Message will be broadcast as usual on 18th May, but an accompanying education pack will be available on 18th April. Watch this space!
The Peace Education team at the WCIA will be holding two twilight INSET sessions on ‘Becoming a Peace School’ at 4.30 – 6p.m. on Monday, 5th and Wednesday, 14th June. Please note these dates in your diary and encourage colleagues to attend. More details will be available at the beginning of next term.
Taith opportunities! I’m also attaching some information for secondary schools in particular about exciting opportunities for 16 – 25 year olds this summer, funded by the Welsh Government’s ‘Taith’ scheme. Please pass this information on to any schools and young people you think would be interested. Many thanks! DEADLINE 20th April 2023.
Peace Schools: Administered by the Welsh Centre for International Affairs (WCIA) based in the Temple of Peace and Health in Cardiff, the Wales Peace Schools Scheme supports schools in actively embedding a peaceful ethos as well as learning and activities related to peace, justice, sustainability and global citizenship into their everyday lives.
Further information and documentation is available here: Ysgolion Heddwch Cymru / Wales Peace Schools (padlet.com). There is no cost involved in being part of the Scheme. Becoming a Peace School enables schools to fulfil the four purposes of the Curriculum for Wales, in particular as ethical informed citizens of Wales and the world and as healthy, confident individuals. Particularly in developing Levels 2 and 3 of the scheme, schools are encouraged to support pupils in developing critical thinking and taking action as active citizens at the local, national and global levels.
If you are interested in joining the Scheme, please fill in an expression of interest form here. If you’d like more information, please e-mail rebeccawilson@wcia.org.uk or janeharries@wcia.org.uk) or phone 077200 87132.
Rheoli perfformiad mewn ysgolion – newid y diwylliant
Performance management in schools – changing the culture
Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu canllawiau rheoli perfformiad diwygiedig er mwyn dod â threfniadau yn unol â newidiadau eraill ym myd addysg.
Rydym am ymgysylltu ag amrywiaeth o ymarferwyr (athrawon, arweinwyr, a staff cymorth) o bob cyfnod, drwy gyfarfodydd Teams ar lein ym mis Mai.
Os hoffech ymuno, cwblhewch y ffurflen hon https://forms.office.com/e/UuLRNsNrsZ
The Welsh Government is developing revised performance management guidance to bring arrangements in line with other changes in education.
We want to engage with a range of practitioners (teachers, leaders, and support staff) from all phases, via online Teams meetings in May.
If you would like to join in, please complete this form https://forms.office.com/e/UuLRNsNrsZ
Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion Prifysgol Abertawe - Adnoddau STEM am ddim i Athrawon
Swansea University Science for Schools Scheme - Free STEM resources for Teachers
Cylchlythyr Gwasanaeth Oed Ysgol Adran Therapi Iaith a Lleferydd
Newsletter for Speech and Language Therapy
Rhaglen Rhybuddion Argyfwng y DU – Neges Brawf Genedlaethol y DU 23 Ebrill 2023: pecyn cymorth
UK Emergency Alerts Programme – UK National Test Message 23 April 2023
Rhaglen Rhybuddion Argyfwng y DU – Neges Brawf Genedlaethol y DU 23 Ebrill 2023: pecyn cymorth
Annwyl bawb,
Cynhelir prawf cenedlaethol ar system newydd Rhybuddion Argyfwng y DU ddydd Sul 23 Ebrill am 15:00: gall y darllediad fod yn weithredol tan 16:00 (dim ond unwaith y bydd ffonau'n cael y rhybudd).
Anfonir y rhybudd prawf i'r rhan fwyaf o ffonau symudol ledled y DU. Bydd dyfeisiau'n gwneud sain unigryw, tebyg i seiren am hyd at 10 eiliad, gan gynnwys ar ffonau sydd wedi'u newid i'r modd distaw.
Bydd ffonau hefyd yn dirgrynu ac yn arddangos neges am y prawf. Gallwch glywed enghraifft o sut fydd y prawf yn edrych ac yn swnio yn y fideo hwn (Saesneg yn unig).
Gwasanaeth gan lywodraeth y DU yw Rhybuddion Argyfwng a fydd yn eich rhybuddio os bydd perygl i fywyd gerllaw.
Mewn argyfwng, bydd eich ffôn symudol neu lechen yn derbyn rhybudd gyda chyngor ar sut i gadw'n ddiogel.
Am Rybuddion Argyfwng - GOV.UK (www.gov.uk)
Anfonwyd yr e-bost hwn at amrywiaeth o randdeiliaid ledled Cymru a gofynnwn i chi ei rannu mor eang â phosibl.
Nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu ond graffegau cyfyngedig o'u pecyn cymorth ehangach yn y Gymraeg, mae'r rhain i'w gweld yma: dolen at graffegau iaith ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg).
Mae pecyn cymorth ehangach Llywodraeth y DU wedi ei rannu'n adrannau defnyddiol a nodir isod:
Graffegau trafnidiaeth a modurwyr.
Graffegau cynulleidfaoedd bregus.
Graffegau prawf cyffredinol 23 Ebrill ar draws y DU.
Holi ac Ateb a Thaflenni Ffeithiau.
Y Cyfryngau Cymdeithasol.
Os oes gennych unrhyw faterion neu gwestiynau cysylltwch â:
daniel.thomas@llyw.cymru.
sam.wallis@llyw.cymru.
Graffegau cludiant a modurwyr:
Graffeg.
Negeseuon allweddol.
Ffonio wrth yrru.
Esboniad fideo.
Mae Llywodraeth y DU wedi darparu'r graffegau hyn yn Saesneg yn unig
Graffegau cynulleidfaoedd bregus:
Mae Llywodraeth y DU wedi darparu'r graffegau hyn yn Saesneg yn unig.
Dyma fideo BSL ar beth i’w ddisgwyl fel rhan o’r rhybudd prawf:
System Rhybuddion Argyfwng - YouTube
Detholiad o’r Cwestiynau Cyffredin:
Rwy'n dioddef cam-drin domestig ac mae angen cuddio fy ffôn. Sut galla i ei atal rhag canu?
Mae'n bosibl optio allan o'r system os oes angen i'ch ffôn aros yn guddiedig.
Ydw i'n gallu optio allan?
Mae Rhybuddion Argyfwng yn defnyddio sawl sianel ac mae'r gallu i optio i mewn neu allan yn cael ei bennu gan y math o sianel. Fodd bynnag, rydym yn argymell yn gryf nad yw pobl yn optio allan o'r gwasanaeth, gan mai'r bwriad yw eich rhybuddio pan fydd bywydau mewn perygl.
Optio Allan ar iPhone:
I optio allan, chwiliwch eich gosodiadau am 'rhybuddion argyfwng' a diffodd rhybuddion difrifol a rhybuddion argyfwng.
Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â gwneuthurwr eich dyfais.
Am gyngor pellach ewch i gov.uk/alerts/opt-out.
Optio Allan ar Ffonau Android a llechi:
I optio allan, chwiliwch eich gosodiadau am 'rhybuddion argyfwng' a diffodd rhybuddion difrifol a rhybuddion argyfwng.
Ar ddyfeisiau Huawei sy'n rhedeg EMUI 11 neu'n hŷn, chwiliwch am eich gosodiadau am 'rhybuddion argyfwng' a diffodd "Bygythiadau eithafol", "Bygythiadau difrifol" a "Dangos rhybuddion oren".
Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â gwneuthurwr eich dyfais.
Ym mha ieithoedd y darlledir negeseuon?
Saesneg fydd y brif iaith. Mae hefyd yn bosibl anfon negeseuon iaith ddeuol Cymraeg/Saesneg ar gyfer rhybuddion yng Nghymru. Byddwn yn parhau i ymchwilio i'r defnydd o'r dechnoleg ar gyfer negeseuon a anfonir mewn ieithoedd eraill er mwyn cynyddu effeithiolrwydd a chyrhaeddiad y gwasanaeth.
Mae gen i nam ar fy ngolwg neu fy nghlyw, a fydda i'n gwybod pan fydda i'n derbyn Rhybudd Argyfwng?
Byddwch. Bwriad Rhybuddion Argyfwng yw denu sylw. Mae hyn yn golygu bod dyfeisiau gallu 4G/5G (ar gyfer meini prawf gweler uchod) yn defnyddio sain uchel, tebyg i seiren fel nad yw pobl sydd â nam ar eu golwg yn cael eu heithrio. Bydd rhai ffonau hefyd yn darllen y neges ac yn gallu diystyru gosodiadau cyfaint. Mae Rhybuddion Argyfwng hefyd yn defnyddio math o ddirgryniad penodol. Dangosodd profion gyda defnyddwyr sydd â chymhorthion clyw fod y naws a gadwyd yn ôl yn cael ei ynganu ar gyfer yr unigolion hynny mewn ffordd unigryw. I'r rhai sydd â nam ar eu golwg bydd chwyddiad sgrin hefyd yn ei gwneud yn haws darllen Rhybudd Argyfwng.
Rwy'n gweithio gyda/rydw i'n rhiant /yn ofalwr i berson a allai gael ei boenydio gan y math yma o rybudd. Sut mae hyn wedi cael ei ystyried?
Fel rhan o'r ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus, mae'r Llywodraeth yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y cymunedau a'r bobl sy'n fwy tebygol o gael eu gofidio gan y math hwn o rybudd yn cael gwybod am y gwasanaeth Rhybudd Argyfwng. Os gallwch, rydym hefyd yn eich cynghori i nodi pobl fregus sy'n byw gerllaw y gallwch roi gwybod iddynt am y gwasanaeth.
Gellir cyfeirio'r rhai sy'n agored i niwed hefyd at y wefan (gov.uk/alerts) am ragor o wybodaeth am Rybuddion Argyfwng, gan gynnwys beth sy'n digwydd pan fyddwch yn cael rhybudd, rhesymau y gallech dderbyn un a sut mae'n gweithio. Mae hefyd fideo esboniwr y gallant ei wylio i ddarganfod mwy.
A fydd y gwasanaeth newydd hwn yn rhoi rhai unigolion neu grwpiau dan anfantais?
Mae Rhybuddion Argyfwng yn un o nifer o offer sydd gan y Llywodraeth i gyfathrebu â'r cyhoedd am sefyllfaoedd argyfwng. Bydd y gwasanaeth yn un ffynhonnell o wybodaeth os bydd argyfwng sy'n bygwth bywyd. Bydd y gweithdrefnau presennol yn parhau - er enghraifft gwneir y rhai heb ffôn symudol yn ymwybodol o hyd drwy'r newyddion a'r gwasanaethau argyfwng lleol.
Yn rhan o'r ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus, mae'r Llywodraeth yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau y bydd y cymunedau a'r bobl hynny y mae’n llai tebygol y bydd ganddynt ffôn symudol yn gallu gweld y wybodaeth a ddosberthir trwy'r rhybuddion. Rydym yn eich cynghori i nodi rhywun sy'n byw yn agos atoch ac a all eich hysbysu o unrhyw Rybuddion Argyfwng sy'n cael eu hanfon.
Graffegau prawf cyffredinol 23 Ebrill ledled y DU:
Mae Llywodraeth y DU wedi darparu'r graffegau hyn yn Saesneg yn unig.
· Holi ac Ateb Rhybuddion Argyfwng:
Mae’r Holi ac Ateb yn cynnwys:
Beth yw Rhybuddion Argyfwng?
Sut fydd y rhybudd yn edrych ac yn swnio?
Ydw i'n gallu optio allan?
Optio Allan ar iPhone:.
Optio Allan ar ffonau Android a llechi:.
Sut galla i ddod o hyd i Rybudd Argyfwng ar fy ffôn ar ôl i mi ei gydnabod?
Sut maen nhw'n gweithio?
A fydda i'n dal i dderbyn rhybudd os oes gen i hen ffôn?
A yw fy mhreifatrwydd a’m diogelwch wedi'u diogelu?
A fydd rhybuddion anfonir at fy ffôn symudol yn dweud wrth awdurdodau ble ydw i neu'n cael eu defnyddio i gasglu data amdana i?
Rwy'n ddioddefwr cam-drin domestig ac mae angen cuddio fy ffôn. Sut galla i ei rwystro rhag canu?
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng SMS a Rhybuddion Argyfwng?
Sut bydda i'n gwybod bod y rhybudd yn ddilys ac nid sgam?
Pa ffyrdd eraill byddwch chi'n eu defnyddio i dynnu sylw pobl at argyfwng?
Ym mha ieithoedd y darlledir y negeseuon?
Pa mor aml y gallwn i eu cael?
Beth yw rhybuddion prawf?
Mae gen i nam ar fy ngolwg neu fy nghlyw, a fydda i'n gwybod pan fydda i'n derbyn Rhybudd Argyfwng?
Rwy'n gweithio gyda/yn rhiant /yn ofalwr i berson y gallai’r math hwn o rybudd achosi trallod iddo. Sut mae hyn wedi ei ystyried?
A fydd y gwasanaeth newydd hwn yn rhoi rhai unigolion neu grwpiau dan anfantais?
Mae Llywodraeth y DU wedi darparu'r graffegau hyn yn Saesneg yn unig.
Cyfryngau Cymdeithasol
Byddwn yn cyhoeddi negeseuon am System Rhybuddion Argyfwng Llywodraeth y DU ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Plîs rhannwch y negeseuon hyn:
12pm Ddydd Llun 17 Ebrill
Darllenwch a rhannwch – y penwythnos hwn, bydd @GOVUK yn profi eu System Rhybuddion Argyfwng ⚠️
Ar ein ffonau symudol, bydd y system yn rhoi gwybod pan mae argyfwng gerllaw.
Dydd Sul am 3pm, bydd pawb yn cael rhybudd prawf.
Dyma beth i’w ddisgwyl 👇
https://www.gov.uk/alerts/about.cy
12pm Ddydd Mawrth 19 Ebrill
Am 3pm dydd Sul, bydd @GOVUK yn profi eu System Rhybuddion Argyfwng ⚠️
Ar ein ffonau symudol, bydd y system yn rhoi gwybod pan mae argyfwng gerllaw.
Dyma fideo #BSL ar beth i’w ddisgwyl fel rhan o’r rhybudd prawf 👇
https://www.gov.uk/alerts/about.cy
8am Ddydd Sul 23 Ebrill
Am 3pm heddiw, byddwn yn derbyn rhybudd prawf fel rhan o System Rhybuddion Argyfwng @GOVUK ⚠️
Ar ein ffonau symudol, bydd y system yn rhoi gwybod pan mae argyfwng gerllaw.
Dyma beth i’w ddisgwyl 👇
https://www.gov.uk/alerts/about.cy
Dyma’r dolenni at yr graffegau ar y cyfryngau cymdeithasol gan Lywodraeth y DU: https://drive.google.com/drive/folders/1xR97fxGcOVRtnjpyRXwMKTipoCn-8iWg
Graffegau Cymraeg: https://drive.google.com/drive/folders/1KkdgiAGXTk1nI_geODd3s5BqAzd-en1Q
UK Emergency Alerts Programme – UK National Test Message 23 April 2023
Dear all,
There will be a national test of the UK’s new Emergency Alerts system on Sunday 23 April at 15:00: the broadcast may be active until 16:00 (phones will only receive the alert once).
The test alert will be sent to most mobile phones across the UK. Devices will make a distinct, siren-like sound for up to 10 seconds, including on phones switched to silent mode.
Phones will also vibrate and display a message about the test. You can hear an example of what the test will look and sound like in this video (English only).
Emergency Alerts is a UK government service that will warn you if there’s a danger to life nearby.
In an emergency, your mobile phone or tablet will receive an alert with advice about how to stay safe.
About Emergency Alerts - GOV.UK (www.gov.uk)
This email has been sent a range of stakeholders across Wales and we ask that you share as widely as possible.
UK Government have only provided limited assets from their wider toolkit in Welsh, these can be found here: bilingual language (Welsh and English) assets link.
The wider UK Government toolkit has been broken down into useful sections set out below:
Transportation and motorists’ assets.
Vulnerable Audiences assets.
General 23 April UK wide test assets.
Q&A and Factsheets.
Social Media.
All toolkit assets link.
Any issues or questions please contact:
daniel.thomas@gov.wales.
sam.wallis@gov.wales.
Transportation and motorists’ assets:
Graphics.
Key messages.
Phone while driving.
Video explainer.
UK Government has only supplied these assets in English.
Vulnerable Audiences assets:
UK Government has only supplied these assets in English.
Here’s a BSL video what to expect as part of the test alert:
Emergency Alert System - YouTube
FAQ extract:
I am a domestic abuse victim and need to conceal my phone. How can I stop it from going off?
It is possible to opt out of the system if you need your phone to stay concealed.
Can I opt out?
Emergency Alerts use several channels and the ability to opt in or out is determined by the channel type. However, we strongly recommend that people do not opt out of the service, as it is intended to warn you when lives are in danger.
Opt Out iPhone:
To opt out, search your settings for ‘emergency alerts’ and turn off Severe alerts and Emergency alerts.
If this does not work, contact your device manufacturer.
For further advice go to gov.uk/alerts/opt-out.
Opt Out Android phones and tablets:
To opt out, search your settings for ‘emergency alerts’ and turn off Severe alerts and Emergency alerts.
On Huawei devices running EMUI 11 or older, search your settings for ‘emergency alerts’ and please turn off “Extreme threats”, “Severe threats” and “Show amber alerts”.
If this does not work, contact your device manufacturer.
What languages will messages be broadcast in?
The primary language will be English. Sending dual language English/Welsh messages is also possible for alerts in Wales. We will continue to investigate the use of the technology for messages sent in other languages to increase the effectiveness and reach of the service.
I am visually or hearing impaired, will I know when I receive an Emergency Alert?
Yes. Emergency Alerts are designed to attract attention. This means 4G/5G capable devices (for criteria see above) use a loud, siren-like sound so people with visual impairments are not excluded. Some phones will also read out the message and can override volume settings. Emergency Alerts also use a distinct vibration type. Testing with users who have hearing aids demonstrated that the reserved tone is pronounced for those individuals in a unique way. For those with visual impairments screen magnification will also facilitate reading an Emergency Alert.
I work with/am a parent of /am a carer of a person who may be distressed by this type of alert. How has this been taken into consideration?
As part of the public information campaign, the Government is working closely with stakeholders to ensure that the communities and people who are more likely to be distressed by this type of alert are made aware of the Emergency Alert service. If you can, we also advise you to identify vulnerable people living nearby who you can inform of the service.
Those who are vulnerable can also be directed to the website (gov.uk/alerts) for more information about Emergency Alerts, including what happens when you get an alert, reasons you might receive one and how it works. There is also an explainer video they can watch to find out more.
Will this new service disadvantage some individuals or groups?
Emergency Alerts are just one of many tools the Government has to communicate with the public about emergency situations. The service will be one source of information in the event of a life-threatening emergency. Existing procedures will still be in place- for example those without a mobile will still be made aware through the news and local emergency services.
As part of the public information campaign, the Government is working closely with stakeholders to ensure that those communities and people who are less likely to have a mobile will be able to access the information distributed through the alerts. We advise you to identify someone who lives near you who can inform you of any Emergency Alerts being sent.
General 23 April UK wide test assets:
UK Government has only supplied these assets in English.
Q&A covers:
What are Emergency Alerts?
What will the alert look and sound like?
Can I opt out?
Opt Out iPhone.
Opt Out Android phones and tablets.
How can I find an Emergency Alert on my phone after I’ve acknowledged it?
How do they work?
Will I still receive an alert if I have an old phone?
Is my privacy and security protected?
Will alerts sent to my mobile phone tell authorities where I am or be used to gather data about me?
I am a domestic abuse victim and need to conceal my phone. How can I stop it from going off?
What is the difference between SMS and Emergency Alerts?
How will I know that the alert is genuine and not a scam?
What other ways will you use to alert people of an emergency?
What languages will messages be broadcast in?
How frequently might I get them?
What are test alerts?
I am visually or hearing impaired, will I know when I receive an Emergency Alert?
I work with/am a parent of /am a carer of a person who may be distressed by this type of alert. How has this been taken into consideration?
Will this new service disadvantage some individuals or groups?
UK Government has only supplied these assets in English.
Social Media
We will be posting about the UK Government Emergency Alert System across our Welsh Government social media channels.
Please help share these posts:
12pm on Monday 17 April
Please read and share - this weekend @GOVUK will test their Emergency Alert System ⚠️
It is designed to alert people in the UK to a nearby emergency – via their mobile device.
This Sunday at 3pm, we'll all receive a test alert.
Here’s what to expect 👇
12pm Wednesday 19 April
This Sunday at 3pm, @GOVUK will test their Emergency Alert System ⚠️
It is designed to alert people in the UK to a nearby emergency – via their mobile device.
Here’s a #BSL video what to expect as part of the test alert 👇
8am Sunday 23 April
At 3pm today, we’ll receive a test alert as part of @GOVUK’s Emergency Alert System ⚠️
It is designed to alert people in the UK to a nearby emergency – via their mobile device.
Here’s what to expect 👇
Here are links to the social media assets provided by UK Government: https://drive.google.com/drive/folders/1xR97fxGcOVRtnjpyRXwMKTipoCn-8iWg
Welsh assets: https://drive.google.com/drive/folders/1KkdgiAGXTk1nI_geODd3s5BqAzd-en1Q
C